Skip to main content

Cynlluniau Ymwelwyr Annibynnol

Cynllun Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol

Aelodau o’r cyhoedd yw Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol sy’n cael eu penodi gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd i ymgymryd â’r gwaith o ymweld yn ddirybudd â dalfeydd yr heddlu yng ngogledd Cymru er mwyn gwirio triniaeth a lles pobl sy’n cael eu dal yno. Mae ar y Comisiynydd ddyletswydd statudol i gynnal Cynllun Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol. 

Bydd Ymwelwyr Dalfeydd yn gweithio mewn parau, yn ymweld â dalfeydd yn ddirybudd a rhaid caniatáu mynediad di-oed iddynt. Gwaith yr ymwelwyr yw siarad â phobl sy'n cael eu cadw yn y ddalfa ac archwilio’r amodau y maent yn cael eu cadw ynddynt. Ar ddiwedd pob ymweliad byddant yn paratoi adroddiad ar eu casgliadau.

Os daw unrhyw faterion sy’n peri pryder i'r amlwg, bydd yr ymwelwyr yn ceisio datrys y rhain ar unwaith naill ai drwy gael gair â Swyddog y Ddalfa neu os ydynt yn faterion mwy cymhleth, eu cyfeirio ar unwaith i sylw Arolygydd y Ddalfa. Bydd yr holl adroddiadau sy'n cynnwys adborth yr ymwelwyr yn cael eu dadansoddi gan yr Heddlu a Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a byddant yn cael eu trafod yng nghyfarfodydd y Panel Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol sy’n cael eu cynnal bob tri mis.

Daw Ymwelwyr Dalfeydd o amrywiaeth o gefndiroedd a charfanau o’r gymuned. Rhaid iddynt fod dros 18 oed, yn unigolion sy’n byw neu’n gweithio yn ardal yr Heddlu ac ni ddylai fod ganddynt unrhyw gyswllt uniongyrchol â’r system cyfiawnder troseddol .

Bydd ymwelwyr dalfeydd yn cyflawni eu dyletswyddau ar sail wirfoddol a bydd costau teithio yn cael eu had-dalu gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.


Ymwelwyr Lles Cwn Yr Heddlu

Sefydlwyd y Cynllun Lles Cŵn Heddlu ar y cyd yn Swydd Gaer a Gogledd Cymru er mwyn cadw llygad ar les cŵn heddlu.

Mae Ymwelwyr Lles Grwp Heddlu yn cadw llygad ar les pob ci heddlu, yn enwedig o ran 'Pum Rhyddid' yr RSPCA, gan edrych ar gytiau cŵn a chyfleusterau hyfforddi.

Mae'r RSPCA yn credu y dylai unrhyw un sy'n gyfrifol am ofalu am anifeiliaid geisio rhoi'r pum rhyddid iddyn nhw.  Dyhead ydy'r pum rhyddid, gan na ellir eu cyflawni a'u cynnal bob amser. Er enghraifft, efallai bod angen i anifail deimlo'n llwglyd cyn y gwnaiff fwyta. Fodd bynnag, dylai ceidwaid anifeiliaid anelu rhoi'r pum rhyddid iddyn nhw cyn belled ag y bo modd.

Y pum rhyddid ydy:

  • Rhyddid rhag newyn a syched – dylai anifeiliaid cael mynediad at ddŵr ffres bob amser a'r math iawn o fwyd i'w cadw nhw'n heini. 
  • Rhyddid rhag anesmwythyd – dylai anifeiliaid gael y math iawn o gartref, gan gynnwys cysgod a rhywle cyfforddus i orffwys. 
  • Rhyddid rhag poen, anaf neu glefyd – dylai anifeiliaid fod yn heini ac iach bob amser a dylent gael eu trin gan filfeddyg os ydyn nhw'n sâl neu wedi anafu.
  • Rhyddid i fynegi ymddygiad arferol – dylai anifeiliaid gael digon o le, cyfleusterau iawn a chwmni anifeiliaid eraill o'r un anian.
  • Rhyddid rhag ofn a gofid – drwy sicrhau fod amodau a thriniaeth yr anifeiliaid yn osgoi dioddef meddyliol.

Pam grëwyd y Cynllun Ymwelwyr Lles Cŵn Heddlu?

Dros 21 mlynedd yn ôl, gwnaeth marwolaeth ci heddlu sef 'Acer' wrth hyfforddi yn Essex, ynghyd ag erlyn y swyddogion heddlu a oedd yn gysylltiedig wedi hynny, arwain at golli hyder cyhoeddus dealladwy o ran dulliau hyfforddi cŵn heddlu.

Mae'r Cynllun Lles Cŵn Heddlu yn anelu cynnal safonau a sicrhau fod gweithdrefnau hyfforddi Heddlu Swydd Gaer yn foesegol, dyngarol, tryloyw ac atebol. Mae Ymwelwyr Lles Cŵn Heddlu yn arsylwi, rhoi sylwadau ac adrodd ar yr amodau mae cŵn yr Heddlu'n cael eu cartrefu, eu hyfforddi a'u cludo.

Mae gennym sawl gwirfoddolwr profiadol ac ymroddedig sy'n gweithio'n galed er mwyn sicrhau fod safonau'n uchel a bod aelodau o'r cyhoedd yn derbyn gwasanaeth da.