Skip to main content

Yr Iaith Gymraeg

Mae disgwyl i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, fel pob corff cyhoeddus arall yng Nghymru, gydymffurfio â Safonau Iaith Gymraeg sydd wedi cael eu cyflwyno gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Bwriad y safonau yw sicrhau cydraddoldeb i’r iaith Gymraeg mewn gwasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru a mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn cydnabod y ffaith fod gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gyrchu gwasanaethau yn yr iaith y maent yn ei ddewis.

Mae’r Safonau wedi cael eu rhannu i bedwar categori: Cyflwyno Gwasanaethau; Creu Polisi; Gweithredol; a Chadw Cofnod. Mae’r rhain yn cynnwys ystod eang o bethau, yn cynnwys trefnu cyfarfodydd, ateb galwadau ffôn, creu diwylliant dwyieithog o fewn y sefydliad, adnoddau dynol a chreu polisïau newydd.

Cwynion am Safonau’r Gymraeg

Bydd y Prif Weithredwr yn ymdrin ag unrhyw gwynion sy’n berthnasol i gydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg neu gwynion o ran methu darparu Gwasanaethau Cymraeg.

Bydd cwynion am Safonau’r Gymraeg yn cael eu trin yn unol â’n Polisi Cwynion Iaith Gymraeg.

Bydd gennych hawl hefyd i gyfeirio cwyn sy’n berthnasol i’r Gymraeg yn uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg