Skip to main content

Cynllun Cyhoeddi

CoPaCC 2020 logo

Cyflwyniad

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl i gael mynediad i bob math o wybodaeth sy’n cael ei chadw gan gyrff cyhoeddus, yn pennu eithriadau i’r hawl hwnnw ac yn gosod nifer o rwymedigaethau ar gyrff cyhoeddus.  Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gwneud cais i gorff cyhoeddus am wybodaeth gael eu hysbysu a yw’r wybodaeth gan y corff hwnnw ai peidio ac, yn amodol ar eithriadau, rhaid eu darparu â’r wybodaeth honno.  Mae eithriadau’n cynnwys gwybodaeth sy’n fasnachol sensitif a gwybodaeth bersonol. Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi’r hawl i bobl ofyn am wybodaeth gan gyrff cyhoeddus ond nid yw’n rhoi hawl i bobl gael mynediad i wybodaeth bersonol amdanoch chi.   Os yr ydych yn dymuno gwneud cais am ddata personol, dylid gwneud hynny fel Cais Gwrthrych am Wybodaeth o dan y ddeddf Diogelu Data. Efallai y bydd data am eraill ar gael, fodd bynnag, ni ddylai fynd yn groes i egwyddorion diogelu data'r Ddeddf Diogelu Data.  Mae gwybodaeth bellach am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ar gael o Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn.

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi’n rheolaidd yr holl wybodaeth a ryddhawyd o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol

Mae’r cynllun cyhoeddi enghreifftiol hwn wedi’i baratoi a’i gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir ei fabwysiadu heb ein addasu gan unrhyw awdurdod cyhoeddus heb gymeradwyaeth ffurfiol a bydd yn ddilys  tan y nodir yn wahanol.

Mae’r cynllun cyhoeddi hwn yn ymrwymo awdurdod i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd fel rhan o’i weithgareddau busnes arferol.  Mae’r wybodaeth a gyfeirir ati wedi’i chynnwys yn y dosbarthiadau o wybodaeth y cyfeirir atynt isod, ble mae’r wybodaeth yn cael ei chadw gan yr awdurdod ac yn destun costau cyfreithlon ac eithriadau perthnasol.

Darperir cymorth ychwanegol i’r diffiniad o’r dosbarthiadau hyn mewn canllawiau penodol i sectorau a roddir gan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae’r Cynllun yn ymrwymo awdurdod:

  • I fynd ati’n weithredol i gyhoeddi gwybodaeth neu sicrhau bod gwybodaeth ar gael fel mater o arfer, yn cynnwys gwybodaeth amgylcheddol, sydd gan yr awdurdod ac sy’n dod o dan y categorïau a nodir uchod;
  • I nodi’r wybodaeth a gedwir gan yr awdurdod ac sy’n disgyn o fewn y categorïau isod
  • I fynd ati’n weithredol i gyhoeddi gwybodaeth neu sicrhau ei bod ar gael fel mater o arfer, yn unol â'r datganiadau sydd wedi'u cynnwys o fewn y cynllun hwn;
  • Cynhyrchu a chyhoeddi’r dulliau y mae’r wybodaeth benodol hon ar gael drwyddynt er mwyn i’r cyhoedd allu adnabod a chael mynediad hawdd i'r wybodaeth honno; 
  • Adolygu a diweddaru’n rheolaidd, y wybodaeth y mae’r awdurdod yn ei darparu o dan y Cynllun hwn;
  • Cynhyrchu cynllun o unrhyw ffioedd a godir am fynediad i wybodaeth a wneir ar gael yn rhagweithiol.
  • Gwneud y Cynllun Cyhoeddi hwn ar gael i'r cyhoedd.

Dosbarthiadau o Wybodaeth

Pwy ydym ni a beth yr ydym yn ei wneud

Gwybodaeth sefydliadol, lleoliadau a chysylltiadau, trefn lywodraethol sefydliadol a chyfreithiol 

Beth yr ydym yn ei wario a sut yr ydym yn ei wario

Gwybodaeth ariannol yn ymwneud â gwir anfoneb a gwariant, tendro, caffael a chontractau

Beth yw ein blaenoriaetha a sut ydym yn gwneud

Gwybodaeth am strategaeth a pherfformiad, cynlluniau, asesiadau, arolygon ac adolygiadau 

Sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau

Cynigion polisi a phenderfyniadau, prosesau gwneud penderfyniadau, meini prawf mewnol a gweithdrefnau, ymgynghoriadau

Polisïau a gweithdrefnau 

Protocolau ysgrifenedig presennol ar gyfer darparu ein swyddogaethau a’n cyfrifoldebau 

Rhestrau a Chofrestrau

Gwybodaeth a gedwir mewn cofrestrau sy’n ofynnol gan y gyfraith a rhestrau eraill a chofrestrau sy’n ymwneud â swyddogaethau’r awdurdod. 

Y Gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig

Cyngor ac arweiniad, llyfrynnau a thaflenni, trafodion a datganiadau i’r wasg. Disgrifiad o’r gwasanaethau a gynigir.

Ni fydd y dosbarthiadau o wybodaeth fel arfer yn cynnwys:

  • Gwybodaeth na chaniateir ei datgelu gan y gyfraith neu sydd wedi’i heithrio o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu a ystyrir am ryw reswm arall ei bod wedi’i gwarchod rhag datgeliad
  • Gwybodaeth ar ffurf ddrafft
  • Gwybodaeth nad yw ar gael bellach gan ei bod wedi’i chynnwys mewn ffeiliau sydd wedi’u storio mewn archif neu sy’n anodd ei chael am resymau tebyg. 

Y modd y bydd y wybodaeth a gyhoeddir o dan y cynllun hwn ar gael

Bydd yr awdurdod yn dangos yn glir i’r cyhoedd pa wybodaeth y mae’r cynllun hwn yn berthnasol iddi a sut y gellir cael y wybodaeth honno. 

Lle mae hynny o fewn gallu awdurdod cyhoeddus, darperir gwybodaeth ar wefan. Ble nad yw’n ymarferol gwneud gwybodaeth ar gael ar wefan neu os nad yw unigolyn yn dymuno cael mynediad i’r wybodaeth drwy wefan, bydd awdurdod cyhoeddus yn nodi sut y gellir cael y wybodaeth ar ffurf arall a byddant yn ei ddarparu ar y ffurf hwnnw.

Mewn amgylchiadau eithriadol gall peth gwybodaeth ond fod ar gael i’w weld yn bersonol. Ble nodir hyn, darperir manylion cyswllt. Bydd apwyntiad i weld y wybodaeth yn cael ei threfnu o fewn amserlen resymol

Darperir yr wybodaeth yn yr iaith y caiff ei chadw neu mewn iaith arall y mae dyletswydd cyfreithiol ar yr awdurdod i’w darparu. Ble bo dyletswydd cyfreithiol ar awdurdod i gyfieithu gwybodaeth, bydd yn gwneud hynny. 

Bydd rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaethau anabledd a gwahaniaethu ac unrhyw ddeddfwriaeth arall i ddarparu gwybodaeth ar ffurfiau ac ar fformat arall yn cael ei gyflawni wrth ddarparu gwybodaeth yn unol â’r cynllun hwn. 


Manylion Cyswllt

Prif Weithredwr Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y Cynllun Cyhoeddi.  Yr unigolyn sy’n gyfrifol am gynnal a chadw a rheoli’r Cynllun Cyhoeddi yw’r:

Prif Weithredwr 
Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd
Pencadlys yr Heddlu 
Glan y Don 
Bae Colwyn LL29 8AW

Rhif ffôn: 01492 805486
E-bost: OPCC@heddlu-gogledd-cymru.police.uk
Gwefan: www.northwales-pcc.gov.uk

Ffioedd y gellid eu codi am wybodaeth a gyhoeddir yn unol â’r cynllun hwn

Diben y cynllun hwn yw gwneud cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael gan achosi cyn lleied o anhawster a chost i’r cyhoedd. Bydd ffioedd a godir gan yr awdurdod yn cael eu cyhoeddi yn rheolaidd ac yn rhai y gellir eu cyfiawnhau, byddant yn dryloyw ac mor isel â phosibl.

Rhestr Ffioedd
Am ddim ar y wefan: Ni fyddwn yn codi tâl o gwbl, er y bydd yn rhaid i’r defnyddiwr, wrth gwrs, dalu am unrhyw gostau y bydd y darparwr gwasanaeth rhyngrwyd a/neu gwmni ffôn yn eu codi yn ogystal ag unrhyw gostau personol am   argraffu, llungopïo ac ati.

Ar gyfer y   rhai hynny sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd, byddwn yn darparu un argraffiad o   un cyhoeddiad, fel y mae’n ymddangos ar y wefan, am ddim o’r cyfeiriad uchod.  
Lle codir tâl ar y wefan: Bydd cost ynghlwm â cheisiadau am fwy nag un   copi o gyhoeddiadau neu fwy nag un argraffiad oddi ar ein gwefan neu am   gopïau o ddeunyddiau archif nad ydynt bellach yn ymddangos ar ein   gwefan.  Cost hyn fydd 15c y dudalen a   chostau postio ar ben hynny. Byddwn yn eich hysbysu o’r gost ar ôl i ni   dderbyn eich cais.  Bydd yn rhaid talu   ymlaen llaw.
Copi caled am ddim: Mae hyn yn   cyfeirio at lyfrynnau, taflenni neu ohebiaeth cyfnodol sy’n cael ei chyhoeddi   gan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ddi-dâl.
Copi caled y codir tâl   amdano: Yn cyfeirio at   gopi papur wedi’i rwymo, disg gryno neu gynnyrch arall fel y gwelir yn ein   rhestr cyhoeddi.

Lle codir tâl, byddwch yn cael eich hysbysu o’r gost a'r rhesymau dros   godi tâl. Bydd angen talu unrhyw gostau ymlaen llaw.

Cwynion a Sylwadau am Ddiogelu Data

Os yr ydych o’r farn nad ydym wedi cyflenwi gwybodaeth yn unol â’r Cynllun fe ddylech ysgrifennu, yn y lle cyntaf, at y Prif Weithredwr. Byddwn yn ceisio delio â’ch cwyn o fewn 10 diwrnod gwaith.  Os na fyddwch yn fodlon â'r ymateb gallwch ofyn i'r mater gael ei adolygu'n fewnol.  Bydd adolygiadau mewnol yn cael eu cwblhau’n brydlon ac anfonir ymateb i chi o fewn 20 diwrnod gwaith i’ch cais pellach. 

Os, yn dilyn yr adolygiad mewnol, eich bod yn parhau i fod yn anfodlon yna gallwch gyflwyno cwyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth.


Hawlfraint

Mae’n bosibl y bydd gwahanol gyrff yn berchen ar ddeunydd sydd wedi’i gynnwys yn ein Cynllun.  

Hawlfraint SCHTh Gogledd Cymru

Ar gyfer deunydd yr ydym ni’n berchen ar yr hawlfraint, gellir ei atgynhyrchu am ddim ar unrhyw fformat at ddibenion ymchwil, astudiaeth breifat neu ar gyfer ei gylchredeg yn fewnol o fewn sefydliad.  Amod o hyn yw bod y deunydd yn cael ei atgynhyrchu’n fanwl gywir ac na fydd yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.  Ble mae deunydd yn cael ei atgynhyrchu neu ei gopïo i eraill, mae’n rhaid i ffynhonnell y deunydd gael ei nodi ac mae’n rhaid cydnabod ein hawlfraint.    Mae logo SCHTh Gogledd Cymru hefyd â hawlfraint ac ni chaniateir ei atgynhyrchu oni bai fod hynny’n union fel y mae’n ymddangos ar y deunydd wedi’i gopïo.  

Deunydd arall â Hawlfraint

Gall rhai deunyddiau yr ydym yn eu cynnwys yn ein Cynllun ddod o dan hawlfraint trydydd parti.  Nid yw ein hawliau i ddal a defnyddio deunyddiau o’r fath yn ymestyn i ddeunyddiau pobl eraill.   Mae’n rhaid i chi gael awdurdod gan ddeilydd(ion) yr hawlfraint berthnasol os yr ydych yn dymuno copïo neu atgynhyrchu deunydd o’r fath.


Yr hawl i fynediad gwybodaeth personol

Gwybodaeth lle mai SCHTh Gogledd Cymru yw Rheolwr y Data

Mae gan unigolion hawl i gael cadarnhad fod eu data yn cael ei brosesu. Mae ganddynt hawl i gael mynediad at eu gwybodaeth a gwybodaeth atodol arall yn y Polisi Preifatrwydd.

Adwaenir cael mynediad at ddata personol yn y ffordd hon fel gwneud ‘cais mynediad testun’. Mae’r GDPR  yn egluro mai’r rheswm am ganiatáu unigolion i gael mynediad at eu data personol yw eu bod yn ymwybodol ac yn gallu dilysu cyfreithlondeb y prosesu.

Dylai ceisiadau i gael mynediad at wybodaeth gael eu gwneud i’r Rheolwr Data.

Prif Weithredwr
Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd
Glan y Don
Bae Colwyn
LL29 8AW

Gwnawn ymateb i’r ceisiadau hyn o fewn un mis calendr.

Os yr ydych o’r farn nad yw cais gennych am wybodaeth i’ch data personol wedi ei delio â hi’n gywir, gallwch:

  • Ysgrifennu at y Rheolwr Data / Prif Weithredwr ar y cyfeiriad uchod yn gofyn i'ch cwyn gael ei datrys, neu
  • Ysgrifennu at y Comisiynydd Gwybodaeth, sydd wedi’i benodi i ystyried cwynion o’r fath, yn y cyfeiriad isod: 
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Mae gan y Comisiynydd Gwybodaeth y grym i asesu a fu methiant o ran cydymffurfio â GDPR a Deddf 2018.   Gall y Comisiynydd weithredu gweithdrefnau gorfodaeth os yr ydynt yn fodlon yr aethpwyd yn groes i egwyddorion diogelu data.   Gall y Comisiynydd hefyd argymell eich bod yn gwneud cais i’r llys yn honni methiant i gydymffurfio â darpariaeth cais gwrthrych am wybodaeth GDPR a Deddf 2018. Gall y llys wneud gorchymyn yn gofyn am gydymffurfiaeth â'r darpariaethau hynny ac efallai y byddant yn dyfarnu iawndal am unrhyw golledion yr ydych wedi'u dioddef yn ogystal ag unrhyw drallod cysylltiedig. 

Gwybodaeth lle nad SCHTh Gogledd Cymru yw’r “Rheolwr Data”

Mewn nifer o achosion, yr heddlu ac nid SCHTh sy’n dal gwybodaeth bersonol.  Mae Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu yn cynnwys gwybodaeth am erlyniadau, euogfarnau a rhybuddion. Prif Swyddogion yr Heddluoedd yw "Rheolwyr Data" y wybodaeth hon ac nid SCHTh Gogledd Cymru.

Mae gennych yr hawl i gael gwybod gan Brif Swyddog os oes unrhyw wybodaeth amdanoch yn cael ei chadw ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) ac mae gennych hawl i gopi o’r wybodaeth honno.   Gall y Prif Swyddog wrthod datgelu'r wybodaeth hon lle mae'r wybodaeth yn cael ei chadw at ddibenion atal neu ddatgelu trosedd neu ar gyfer arestio neu erlyn troseddwyr a lle y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o fod yn niweidiol i unrhyw un o'r dibenion hyn. 

Mae Heddluoedd yn darparu ffurflen er mwyn symleiddio’r arfer o hawl i fynediad i wybodaeth PNC.  Yn achos Heddlu Gogledd Cymru dylech gysylltu ag:

Adran Diogelu Data a Diogelwch Gwybodaeth Pencadlys yr Heddlu Glan-y-Don Bae Colwyn LL29 8AW

Rhif ffôn: 01492 805125

Neu fel dewis arall gallwch ymweld â gwefan Heddlu Gogledd Cymru sef www.heddlu-gogledd-cymru.police.uk


Ceisiadau o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 

Os hoffech wneud cais am wybodaeth o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR), dylech ysgrifennu at awdurdod lleol yr ardal yr ydych yn byw ynddi neu’r ardal yr ydych yn ceisio gwybodaeth amdani.