Amdan y Comisiynydd
Mae ar y Comisiynydd gyfrifoldeb cyffredinol i sicrhau heddlu effeithiol ac effeithlon sy'n dangos gwerth am arian ac, yn bwysicaf oll, yn lleihau trosedd.
Gwybodaeth
I weld manylion am busnes swyddfa'r Comisiynydd a gwasanaethau wedi eu comisiynu.
Gweithio mewn Partneriaeth
Mae datblygu partneriaethau effeithiol yn sylfaenol i’r gwaith a wneir gan y Comisiynydd.
Cyflwyniad i etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd 2024
Ar 2 Mai 2024, gall pleidleiswyr fynd i orsafoedd pleidleisio i fwrw eu pleidlais dros eu hymgeisydd CHTh o ddewis. Ar ôl i'r bleidlais gau, caiff y pleidleisiau eu cyfrif a'u dilysu a'r ymgeisydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n ennill yr etholiad.
Darllenwch ein cyflwyniad defnyddiol i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu a’r broses etholiadol yma.
Cymorth i ddioddefwyr trosedd
Mae darparu cymorth i ddioddefwyr trosedd yn flaenoriaeth allweddol i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Un o'r gwasanaethau hanfodol y mae'r swyddfa'n ei gomisiynu ydy'r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr, a leolir yn Llanelwy, sy'n cynorthwyo pob dioddefwr.
Os oes angen cymorth neu gyngor pellach arnoch chi, cliciwch ar y ddolen hon. (cliciwch 'Cymraeg' yn y faner uchaf i weld cyfieithiad Cymraeg)
Newyddion diweddaraf o Swyddfa'r Comisiynydd
- Newyddion
Mae grŵp chwaraeon lleol yn Sir y Fflint yn defnyddio arian a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr i greu amgylchedd mwy dymunol yn eu pencadlys. Mae Clwb Criced Bwcle, a ffurfiwyd yn 1898 wedi llwyddo i gael arian gan Eich Cymuned Eich Dewis.
- Newyddion
Ar 20 Mawrth, ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, â Band Arian Llanrug i gwrdd ag aelodau, dysgu mwy am waith gwerthfawr y sefydliad yn lleol ac i glywed sut mae arian a atafaelwyd gan droseddwyr yn cael ei ddefnyddio i ehangu mynediad at gerddoriaeth yn y…
- Newyddion
Ar ddydd Mercher Mawrth 13, ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, â Chlwb Pêl Droed Seintiau Bangor, yn Canolfan Hamdden Byw’n Iach ar Ffordd Garth Bangor, i gael blas ar eu gwaith effeithiol efo bobl ifanc lleol, ac i ddysgu sut mae’r arian a’i gymerwyd gan…