Skip to main content

Rôl a Chyfrifoldebau Statudol

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sy’n gyfrifol am lywodraethu plismona yn ein hardal. Mae rôl y Comisiynydd wedi disodli Awdurdod yr Heddlu. Mae ar y Comisiynydd gyfrifoldeb cyffredinol i sicrhau heddlu effeithiol ac effeithlon sy'n dangos gwerth am arian ac, yn bwysicaf oll, yn lleihau trosedd.

Mae ar y Comisiynydd bedair prif ddyletswydd, sef:

  • Gosod y blaenoriaethau ar gyfer plismona yng Ngogledd Cymru
  •  Penderfynu ar y gyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru
  •  Dal y Prif Gwnstabl yn atebol.
  •  Gwrando ar farn y cyhoedd ynglŷn â phlismona.

Mae gan y Comisiynydd amrediad o bwerau a chyfrifoldebau i’w gynorthwyo i gyflawni’r dyletswyddau hyn, gan gynnwys:

  •  Bod yn atebol i’r etholaeth a chynrychioli’r cyhoedd ar faterion plismona
  •  Paratoi Cynllun Heddlu a Throsedd sy’n amlinellu’r cyfeiriad strategol a'r amcanion ar gyfer plismona yng Ngogledd Cymru.
  •  Gosod y praesept plismona, sef yr elfen o dreth y cyngor sy’n mynd tuag at blismona.
  •  Gweithio gyda phartneriaid i atal a thaclo troseddu ac aildroseddu
  •  Dal yr Heddlu’n atebol, drwy’r Prif Gwnstabl, am ddarpariaeth gwasanaethau plismona.
  •  Penodi, ac os bydd angen, diswyddo’r Prif Gwnstabl
  •  Goruchwylio cwynion yn erbyn Heddlu Gogledd Cymru
  •  Comisiynu gwasanaethau a phrosiectau diogelwch cymunedol yn yr ardal.
  • Sicrhau y gweithredir ar flaenoriaethau’r cyhoedd, yr ymgynghorir â dioddefwyr ac nad yw’r unigolion mwyaf diamddiffyn yn cael eu hesgeuluso.
  •  Sicrhau gwerth am arian

Rydym wedi cynhyrchu canllaw ar rôl Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yng Nghymru a sut maent yn gweithredu. Cliciwch ar y ddolen isod i ddysgu mwy:

Mae fersiwn darllen hawdd o’r canllaw hwn hefyd ar gael i’w ddarllen trwy glicio ar y ddolen isod:


Mae Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru yn ddau sefydliad gwahanol. Fel y cyfryw, mae gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Phrif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru (Amanda Blakeman ar hyn o bryd) gyfrifoldebau unigryw: 

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru
Yn cael eu hethol gan y cyhoedd. Yn cael eu dewis drwy broses recriwtio.
Yn gosod blaenoriaethau plismona yng Ngogledd Cymru drwy’r Cynllun Heddlu a Throsedd. Yn atebol am gyflawni plismona a rheoli ymateb plismona yng Ngogledd Cymru.
Yn penderfynu’r gyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru ac yn gosod y ‘praesept’ plismona, sy’n rhan o’r dreth gyngor leol sy’n mynd tuag at blismona. Yn gyfrifol am reoli cyllid o ddydd i ddydd o’r gyllideb a gytunwyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Yn cynrychioli’r cyhoedd mewn materion plismona ac yn gwrando ar eu barn ar blismona. Yn atebol i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Yn dwyn y Prif Gwnstabl yn atebol. Yn arwain a rheoli cyflawniad Heddlu Gogledd Cymru.

Panel Heddlu a Throsedd

Sefydlwyd Panel Heddlu a Throsedd annibynnol sy’n cynnwys deg cynghorydd o bob rhan o ogledd Cymru yn ogystal â tri aelod annibynnol sy’n gyfrifol am graffu ar berfformiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Yn ardal pob heddlu sefydlwyd Panel Heddlu a Throsedd sy’n gyfrifol am gadw llygad ar berfformiad y Comisiynydd ar ran yr etholaeth. Mae'n ofynnol hefyd i'r Comisiynydd ymgynghori â'r Panel ar ei gynlluniau a'i gyllideb ar gyfer plismona,  faint ddylai’r elfen o'r dreth cyngor ar gyfer plismona fod, a phenodi Prif Gwnstabl.

Mae’r Panel yn cynnwys deg cynghorydd lleol a tri aelod cyfetholedig annibynnol. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw’r ‘Awdurdod Lletyol’ ar gyfer Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ac sy’n darparu’r gwasanaethau cefnogi sy’n angenrheidiol i alluogi'r panel i weithredu a chyflawni ei ddyletswyddau'n effeithiol.

Ewch i Wefan Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru  am ragor o wybodaeth gan gynnwys manylion am yr aelodau, cofnodion ac agendâu.

Yn yr adran hon