Skip to main content

Am dan Heddlu Gogledd Cymru

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gwasanaethu Gogledd Cymru i gyd, gan gynnwys siroedd Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.  Ardal wledig ydyw gan fwyaf ac mae’n cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri.  Mae ganddo hefyd ardal arfordirol eang o gwmpas Ynys Môn, Pen Llŷn ac arfordir Gogledd Cymru.  Mae’r Heddlu yn gwasanaethu poblogaeth o 675,000 o bobl, mae ganddo oddeutu 1,450 o swyddogion heddlu, 250 o swyddogion cefnogi cymuned yr heddlu a 800 o staff.

Mae’r pencadlys ym Mae Colwyn ac mae ganddo bencadlysoedd rhanbarthol yn Llanelwy, Caernarfon a Llay.  

Yn rhan ddwyreiniol Gogledd Cymru y mae’r ardaloedd mwyaf poblog megis Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, tra bod Y Rhyl, Llandudno a Phwllheli yn drefi gwyliau arfordirol poblogaidd.  Mae gan Ogledd Cymru dwy ddinas, Bangor a Llanelwy, ac mae Bangor yn Ddinas prifysgol sy’n gartref i tua 16,605o fyfyrwyr.  Mae priffordd yr A55 yn cysylltu’r ardal â dinasoedd fel Manceinion, Lerpwl a Birmingham a gallwch fynd ar fferi i Iwerddon o borthladd Caergybi.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cael ei arwain gan y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman, Dirprwy Brif Gwnstabl Nigel Harrison, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Chris Allsop a Seb Phillips, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau.  

Gallwch gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio’r rhif ffôn difrys, sef 101.  Drwy ffonio’r rhif hwn gallwch gael mynediad at holl wasanaethau plismona Cymru.

Yn yr adran hon