Skip to main content

Adolygu

Ymgeisio am Adolygiad

O 1 Chwefror 2020, os ydych yn anfodlon gyda'r canlyniadau neu sut cafodd eich cwyn i'r heddlu ei thrin, gallwch gyflwyno cais am Adolygiad i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Mae'n bwysig iawn eich bod yn ymgeisio am Adolygiad i'r sefydliad iawn. Dylai Heddlu Gogledd Cymru fod wedi ysgrifennu atoch i ddweud lle wrth gyflwyno eich cais am Adolygiad. Os ydych yn ansicr, cysylltwch ag Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gogledd Cymru neu ein swyddfa.

Cyn i chi gyflwyno cais am Adolygiad, rydym yn argymell eich bod yn darllen y wybodaeth isod.

Pryd allwch chi ofyn i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru am Adolygiad?

Os yw eich cwyn wedi'i chofnodi o dan Atodiad 3 Deddf Diwygio'r Heddlu 2002, sef ei fod wedi'i ystyried a'i gwblhau gan Adran Safonau Proffesiynol, mae gennych yr hawl i ymgeisio am Adolygiad o ganlyniad i'r gŵyn. Mi fydd y llythyr canlynedig gan yr Adran yn manylu eich hawliau. Rhaid i'r cais hwn gael ei wneud o fewn 28 diwrnod o dderbyn canlyniad ysgrifenedig eich cwyn.

Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw ymdriniaeth o'ch cwyn neu'r canlyniad yn rhesymol a chymesur.

Pwy all ofyn am Adolygiad

Dim ond achwynydd, neu rywun sy'n gweithredu ar eu rhan, all wneud cais am Adolygiad o ran cwyn. Rhaid eich bod wedi cael hysbysiad ysgrifenedig o ganlyniad eich cwyn cyn i chi wneud cais am Adolygiad.

Pa Adolygiadau a ellir cael eu trin gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru?

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yw'r corff adolygu perthnasol am y ar gyfer y cwynion perthnasol:

  • Heddlu Gogledd Cymru yw'r awdurdod priodol
  • Nid yw'r gŵyn ynghylch ymddygiad uwch swyddog
  • Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gallu bodloni ei hun, o'r gŵyn ei hun, na fyddai'r ymddygiad a gwynwyd amdano (pe bai'n cael ei brofi) yn cyfiawnhau achos troseddol neu ddisgyblaethol
  • Nid yw'r gŵyn wedi'i chyfeirio at Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu

Dylai holl geisiadau eraill am Adolygiad gael eu hymdrin gan Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu.

Os ydych yn gwneud cais am Adolygiad atom yn anghywir, gwnawn sicrhau fod eich cais yn cael ei drosglwyddo i Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu cyn gynted â phosibl. Yn yr un modd, os ydych yn gwneud cais i Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu a ddylid cael eu trin gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, gwnânt anfon eich cais atom ni cyn gynted â phosibl.

Sut ellir gwneud cais am Adolygiad?

Rhaid gwneud cais yn ysgrifenedig a dweud y wybodaeth ganlynol:

  • Manylion eich cwyn;
  • Dyddiad y gwnaed y gŵyn;
  • Pwy wnaeth ymdrin â'ch cwyn;
  • Y dyddiad y cawsoch y manylion am eich hawl i adolygiad

Fel arall, gallwch gwblhau'r Ffurflen Adolygu ynghlwm.

Beth fydd yn digwydd unwaith y cyflwynir y cais am adolygiad?

Os mai ni yw'r sefydliad cywir, gwnawn gydnabod eich cais a gofyn i chi gadarnhau fod yr holl wybodaeth berthnasol wedi'i rhoi.

Gwnawn hefyd gysylltu ag Adran Safonau Proffesiynol yr Heddlu a gofyn iddynt roi unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am eich cwyn a sut yr ymdriniwyd â hi.

Unwaith ein bod wedi derbyn yr holl wybodaeth gan y ddau barti, cyfeirir y wybodaeth at ymgynghorydd allanol ac annibynnol wnaiff gynnal yr Adolygiad. Gwnaiff yr ymgynghorydd gyfeirio eu canfyddiadau at y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a wnaiff wneud y penderfyniad terfynol ar Adolygiad eich cwyn. Trosglwyddir y penderfyniad hwn i chi yn ysgrifenedig, ynghyd â rhesymeg eglur gyda thystiolaeth.

Mae'n bwysig deall na allwn ail-ymchwilio eich cwyn. Gallwn ond asesu sut y triniwyd eich cais a'i ganlyniad.

Cliciwch yma i ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd o ran sut ydym yn prosesu gwybodaeth o ran cwynion ac adolygiadau.