Skip to main content

Cwynion a Camymddygiad

Cwynion ac Adolygiadau

Mae gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd 3 prif ddyletswydd o ran cwynion ac adolygiadau sef:

  1. Awdurdod Priodol i ystyried cwynion am y Prif Gwnstabl,
  2. Dyletswydd i ddwyn y Prif Gwnstabl yn atebol gan ddarparu proses gwynion effeithiol ac effeithlon, a
  3. Corff Adolygu perthnasol o rai o gwynion yr heddlu.

Ceir gwybodaeth ar sut mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn bodloni’r dyletswyddau statudol hyn yma.

Yng nghyfarfodydd chwarterol y Bwrdd Craffu Safonau Proffesiynol a gynhelir gyda’r Dirprwy Brif Gwnstabl a’r Adran Safonau Proffesiynol, mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn craffu’r modd yr ymdrinnir â chwynion a honiadau o gamymddwyn gan Heddlu Gogledd Cymru. Ceir y cylch gorchwyl llawn yma.

Cyhoeddir ystadegau Chwarterol a Blynyddol gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu. Ceir y wybodaeth hon yma.


Gwrandawiadau Camymddygiad yr Heddlu

O dan Reoliadau Ymddygiad yr Heddlu 2012 (fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau (Diwygiad)(Ymddygiad) yr Heddlu), gwnaed newidiadau i'r ymddygiad a chyfansoddiad gwrandawiadau camymddygiad yr heddlu i swyddogion heddlu rheng Uwcharolygydd ac o dan hynny. Diben y newidiadau yw dod â mwy o dryloywder ac annibyniaeth i wrandawiadau camymddygiadyr heddlu. Maent yn cynnwys cynnal gwrandawiadau yn gyhoeddus (a gyflwynwyd ym misMai 2015) ac ers mis Ionawr 2016, maent yn cael eu cadeirio gan rywun sydd â chymhwysteryn y gyfraith a benodir gan Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd (y Comisiynwyr). Cafwyd newidiadau pellach mewn deddfwriaeth i fod o 1 Chwefror 2020 o dan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 lle bydd angen cadeiryddion â chymhwyster yn y gyfraith i reoli gwrandawiadau camymddygiad yr heddlu o'r cychwyn cyntaf.

Proses camymddygiad – swyddogion heddlu sydd ddim ynuwch swyddogion (Uwcharolygydd ac o dan hynny)

Mae hyder y cyhoedd yn yr heddlu o'r pwys mwyaf. Er mwyn ei sicrhau, disgwylir i swyddogion heddlu arddangos lefel uchel o safonau ymddygiad personol a phroffesiynol.Gall honiad o gamymddygiad yn erbyn swyddog heddlu neu swyddog gwirfoddol gael eiystyried yn briodol ar gyfer ymchwiliad gan Adran Safonau Proffesiynol yr Heddlu neu Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).Caiff canfyddiadau ymchwiliad eu cyfeirio at a'u hasesu'n ffurfiol gan y Dirprwy Brif Gwnstabl fel yr 'awdurdod priodol'. Os yw'r Dirprwy Brif Gwnstabl yn ystyried yr honiad felcamymddygiad difrifol, cyfeirir y mater at wrandawiad camymddygiad yr heddlu i'w benderfynu a, os profir yr honiad, gosod sancsiynau.

Gwrandawiadau Camymddygiad yng Ngogledd Cymru,Dyfed Powys, Gwent a De Cymru

Cynhelir gwrandawiadau ym mhob un o ardaloedd heddluoedd Gogledd Cymru, Dyfed Powys,Gwent a De Cymru. Cynhelir gwrandawiadau gan Banel Camymddwyn yr Heddlu (y panel) sy'n cynnwys un cadeirydd cymwys yn y gyfraith , un swyddog heddlu o reng uwcharolygyddo leiaf ac aelod annibynnol. Cyfrifoldeb y Comisiynwyr yw cynnal rhestr o gadeiryddion cymwys yn y gyfraith ac aelodau annibynnol. Cyfrifoldeb y Comisiynwyr yw penodi'r cadeirydd cymwys yn y gyfraith ac aelod annibynnol o'r panel drwy ddefnyddio'r 'broses rhengoeddcab'. Gwelwch yma y broses a fabwysiadud yng Nghymru.

Cyfrifoldeb yr awdurdod priodol yw penodi aelod o'r panel sy'n swyddog heddlu.

Tribiwnlysoedd Apeliadau'r Heddlu

Mae Tribiwnlysoedd Apeliadau'r Heddlu (PATs) yn gwrando apeliadau yn erbyn canfyddiadau camymddwyn difrifol a ddygir gan swyddogion yr heddlu neu gwnstabliaid gwirfoddol. Ar hyn o bryd, mae’r PATs yn cael eu rheoli gan Reolau Tribiwnlys Apeliadau'r Heddlu 2012, a ddiwygiwyd yn 2015 a 2020. Mae'r diwygiadau'n nodi'r hyn y gellir ei gyhoeddi mewn perthynas â gwrandawiadau apêl ac yn caniatáu i'r gwrandawiadau apêl gael eu cynnal yn gyhoeddus. Gall aelodau o'r cyhoedd bellach fynychu gwrandawiadau apêl fel arsylwyr ond ni chaniateir iddynt gymryd rhan mewn achosion, ond mae Cadeirydd y Tribiwnlys yn cadw'r hawl i gynnal rhan neu'r cyfan o'r Tribiwnlys yn breifat. 

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sy'n gyfrifol am hwyluso'r gwrandawiad sy'n cynnwys penodi'r Cadeirydd i gynnal yr achos. Penodir y Cadeirydd o Gofrestr o Gadeiryddion sydd â Chymwysterau Cyfreithiol a gedwir gan y Swyddfa Gartref.

Bydd manylion Tribiwnlysoedd Apeliadau'r Heddlu sydd ar y gweill yn cael eu cyhoeddi ar wefan Heddlu Gogledd Cymru