Skip to main content

Archwiliadau AHEM

Arolygiaeth Heddluoedd Ei Mawrhydi (AHEM/HIMC) sy’n gyfrifol am asesu heddluoedd a gweithgaredd plismona yn annibynnol, er budd y cyhoedd. Mae hyn yn amrywio o dimau cymdogaeth i droseddau difrifol a’r frwydr yn erbyn terfysgaeth. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag AHEM ewch i www.hmic.gov.uk.

Mae holl adroddiadau AHEM ynglŷn â Heddlu Gogledd Cymru wedi’u rhestru isod.

Adroddiad taflu goleuni ar effeithlonrwydd: Effaith recriwtio a chadw ar y system cyfiawnder troseddol

Bodloni anghenion dioddefwyr yn y system cyfiawnder troseddol – Arolwg pa mor dda mae'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Gwasanaeth Prawf yn helpu dioddefwyr trosedd

Arolwg effeithiolrwydd ymateb yr heddlu a chyrff gorfodi'r gyfraith i grwpiau'n camfanteisio'n rhywiol ar blant yng Nghymru a Lloegr

PEEL 2022/23 – Arolwg rhanbarthol y gogledd orllewin i droseddau difrifol a threfnedig

Archwiliadau AHEM 2022-2023

Arolwg Gwrthderfysgaeth ar y Cyd – Trefniadau isadran diogelwch cenedlaethol ac asiantaethau gwahanol ar gyfer rheoli terfysgwyr yn sgil ymosodiadau terfysgol


Hil a Phlismona – Arolwg anghyfartaledd hil mewn gwneud penderfyniadau yn yr heddlu a chyfiawnder troseddol


Arolwg Hil a Phlismona: Adolygiad o drefniadau arwain a llywodraethu'r gwasanaeth heddlu ar gyfer materion hil


Arolwg cyfraniad yr heddlu tuag at atal lladdiadau


Pa mor effeithiol mae heddluoedd wrth defnyddio drylliau tanio


Adroddiad Sbotolau PEEL, Perfformiad Heddlu, Gafel Ynddi


Arolwg ar effeithiolrwydd trefniadau fetio yn Heddlu Gogledd Cymru


Arolwg ar pa mor dda mae’r heddlu’n ymdrin â thrais ieuenctid difrifol


Adroddiad ar werthoedd a diwylliannau mewn Gwasanaethau Tân ac Achub


PEEL 2021/22 ar Effeithiolrwydd, Effeithlonrwydd a Chyfreithlondeb yr Heddlu, archwiliad Gogledd Cymru


Fforenseg Digidol – Arolwg i ba mor dda mae'r heddlu ac asiantaethau eraill sy'n defnyddio fforenseg digidol yn eu hymchwiliadau


Arolwg o fetio, camymddwyn a chasineb at ferched yn y gwasanaeth heddlu


Arolygiad amddiffyn plant cenedlaethol [adolygiad ôl-arolygiad]

https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publications/north-wales-national-child-protection-post-inspection-review/


Archwiliadau AHEM 2016-2021

Plismona yn y Pandemig - Ymateb yr heddlu i’r pandemig coronafeirws yn ystod 2020’

https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publications/interim-report-inspection-into-how-effectively-the-police-engage-with-women-and-girls/


Adroddiad arolygu dros dro i ba mor effeithiol mae'r heddlu'n ymgysylltu â merched a genethod

https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publications/the-police-response-to-the-coronavirus-pandemic-during-2020/


Cael y cydbwysedd yn iawn? Archwiliad o ba mor effeithiol y mae'r heddlu'n delio â phrotestiadau

Nid oedd Heddlu Gogledd Cymru yn brif heddlu a arolygwyd, ac ni ofynnwyd iddynt gyfrannu at yr arolygiad.

Mae prif ganfyddiadau’r arolygiad yn awgrymu nad yw heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn taro’r cydbwysedd cywir ar bob achlysur wrth blismona protestiadau.

Ymateb y Comisiynydd


Adroddiad Archwiliad Thematig Cenedlaethol Diogelu Plant

Mae'r archwiliad Cenedlaethol wedi cynnig tri argymhelliad ar gyfer Prif Gwnstabliaid yn y 43 heddlu. Cytunwyd nad yw cymeradwyaeth trydydd parti yn berthnasol i Heddlu Gogledd Cymru gan ei fod eisoes wedi cael ei archwilio cyn cyhoeddi'r adroddiad hwn.

Ymateb y Comisiynydd


PEEL - Adroddiad sbotolau Y Camau Anodd - Cydweithredu Rhwng Heddluoedd

Rwyf wedi adolygu canfyddiadau'r arolygiaeth sy'n ymwneud â dau gydweithrediad yng Ngogledd Cymru ac rwyf yn falch eu bod yn cael eu hystyried ar y cyfan fel cydweithrediadau effeithiol. Mae yna gynnydd wedi bod yn y nifer o gydweithrediadau gyda heddluoedd cyfagos oherwydd cyfyngiadau ariannu, troseddu ar draws ffiniau a'r angen am wasanaethau arbenigol.

Ymateb y Comisiynydd


Adroddiad Effeithiolrwydd, Effeithlonrwydd a Chyfreithlondeb yr Heddlu (PEEL) 2018/19

Rwy'n falch bod Heddlu Gogledd Cymru yn cael ei ystyried yn dda ar leihau trosedd a chadw pobl yn ddiogel sy'n cynnwys amddiffyn pobl fregus. Fy nod cyffredinol o fewn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yw lleihau cam-fanteisio troseddol ar y bobl fwyaf bregus o fewn ein cymunedau ac mae amddiffyn yr unigolion hyn i'w weld drwy gydol y cynllun.  Mae'n amlwg felly o ganlyniad cyffredinol yr arolwg hwn fod Heddlu Gogledd Cymru'n llwyddo i wireddu amcanion fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.

Ymateb y Comisiynydd


Arolwg Diogelu Plant Cenedlaethol – Heddlu Gogledd Cymru

Rwyf yn falch fod yr arolwg wedi nod fy mod i, y Prif Gwnstabl a’i uwch dîm wedi ymroi i ddiogelu pobl fregus, gan gynnwys plant.  Fy mlaenoriaeth gyffredinol yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd yw lleihau cam-fanteisio troseddol ar bobl fregus. Mae’r rhai hynny sy’n fregus yn aml yn cael eu targedu gan grwpiau trosedd trefnedig ar gyfer cam-fanteisio’n droseddol ar blant (CSE), llinellau cyffuriau a chogio (cuckooing). Mae'r rhaglen Camau Cynnar Gyda'n Gilydd, a sefydlwyd i ymdrin â Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod, yn dechrau cael effaith gadarnhaol ledled ardal yr Heddlu. Gwneir hyn drwy ymyrraeth gynnar er mwyn torri cylchoedd cam-drin, cam-fanteisio a bregusrwydd yn y dyfodol.

Ymateb y Comisiynydd


Y berthynas dlawd: Ymateb yr heddlu a GEG i droseddau yn erbyn pobl hŷn.

Mae prif ganfyddiadau'r ymchwiliad yn awgrymu bod gan heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ddealltwriaeth brin o anghenion dioddefwyr hŷn. O ganlyniad i'r ymchwiliad, mae tri argymhelliad gan yr ymchwiliad i wella eich gwasanaeth.

Ymateb y Comisiynydd


Twyll - Amser Dewis

Arolygiad Llygredd Arolygiaeth Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub EM (HMICFRS): Nododd amser i ddewis bod yna nghysondeb o ran y dull o ymdrin ag achosion o lygredd ar draws Cymru a Lloegr. Nid oed Heddlu Gogledd Cymru yn un o’r heddluoedd a ddewiswyd i gael eu harolygu ac maent wedi  cwblhau’r argymhelliad o gyhoeddi polisi llygredd yn barod.

Ymateb y Comisiynydd


Plismona ac Iechyd Meddwl – Codi’r darnau

Rwy’n falch fod yr arolygaeth wedi cydnabod y galw diangen a osodi oherwydd methiant gwasanaethau eraill. Dylai’r rhai sydd mewn argyfwng gael eu gofalu gan weithwyr iechyd proffesiynol ac nid gan yr heddlu. Cytunaf fod angen ailfeddwl yn radical i warantu ymateb arbenigol amserol gan y gwasanaeth iechyd.

Ymateb y Comisiynydd


Cyfreithlondeb PEEL 2017

Edrychod rhaglen Cyfreithlondeb PEEL 2017 ar y raddfa y mae’r:

  • heddlu yn trin pobl gyda thegwch a pharch;
  • yn sicrhau bod eu gweithluoedd yn gweithredu’n foesol ac yn gyfreithlon; a
  • bod y gweithluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu trin gyda thegwch a pharch gan yr heddlu.

Ymateb y Comisiynydd


Effeithiolrwydd PEEL

Arolwg Effeithiolrwydd PEEL 2017:

  • Yn edrych ar ba mor dda mae’r heddlu’n deall y galw am eu gwasanaethau, pa mor ddau maent yn ymrannu eu hadnoddau â’r galw, a pha mor dda maent yn cynllunio at alw’r dyfodol.
  • Yn rhoi asesiad o’u heffeithiolrwydd.

Ymateb y Comisiynydd


Uniondeb Data Troseddau

Dangosodd Adroddiad Uniondeb Data Troseddau 2017 fod yr heddlu:

  • Yn cyrraedd lefelau uchel o ran cywirdeb cofnodi troseddau rhywiol sy’n cael eu riportio.
  • Wedi gwneud cynnydd da o ran eu gweithdrefnau o ran canslo troseddau sydd wedi cael eu cofnodi.
  • Wedi gweithio’n galed i wellau gwybodaeth a deallusrwydd ymysg swyddogion a staff o ran anghenion cofnodi trosedd sy’n gysylltiedig â chaethwasiaeth fodern.
  • Wedi gweithredu’r holl argymhellion a wnaed yn ein adroddiad yn 2014.
  • Wedi gwneud cynnydd da yn erbyn  y cynllun gweithredol cenedlaethol a ddatblygwyd er mwyn gwella cofnodi trosedd gan heddluoedd.

Ymateb y Comisiynydd


PEEL - Cyfreithlondeb yr Heddlu 2016

Mae Arolygiaeth Heddluoedd Ei Mawrhydi (AHEM/HMIC) yn diffinio heddlu dilys fel un lle ystyrir ei staff a’i swyddogion gan y cyhoedd fel rhai sy’n ymddwyn yn deg, yn egwyddorol ac yn gweithredu o fewn y gyfraith. Mae’n ceisio adnabod a datrys materion sy’n ymwneud â thriniaeth deg a pharchus gan yr heddlu.

O fewn yr archwiliad hwn, edrychodd AHEM ar:

  • y graddau y mae’r heddluoedd yn trin pobl gyda thegwch a pharch;
  • y graddau y maen nhw’n ceisio sicrhau bod eu gweithluoedd yn gweithredu’n egwyddorol a chyfreithlon; a’r
  • y graddau y mae’r gweithluoedd hynny eu hunain yn teimlo iddyn nhw gael eu trin gyda thegwch a pharch gan yr heddluoedd.

Ymateb y Comisiynydd


PEEL - Effeithlonrwydd yr heddlu 2016

https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publications/north-wales-police-crime-data-integrity-inspection-2017/

Mi wnaeth AHEM arolygu effeithiolrwydd Heddlu Gogledd Cymru drwy edrych ar ba mor dda y mae’n deall y galw sydd yna am ei wasanaethau a pha mor dda y mae’n defnyddio ei adnoddau i ymateb i’r galw hwnnw.  Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cael graddfa ‘da’ o ran ei effeithiolrwydd i gadw pobl yn ddiogel a lleihau trosedd.  Mae’n cydnabod pwysigrwydd sicrhau gwell dealltwriaeth o’r galw presennol sydd yna am ei wasanaethau fel y gall ddefnyddio ei adnoddau yn effeithiol er mwyn blaenoriaethu ac ymateb i’r galw.

Ymateb y Comisiynydd