Gyda rhai eithriadau, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd sy'n gyfrifol am ddal Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru yn atebol. Y Comisiynydd yw'r awdurdod priodol i ymdrin ag unrhyw gwynion a materion ymddygiad yn ymwneud â Phrif Gwnstabl yr Heddlu.
Y Prif Gwnstabl sy’n gyfrifol am ddal pawb arall yn yr Heddlu yn atebol. Mae hyn yn awr yn cynnwys cwynion yn erbyn y Dirprwy Brif Gwnstabl, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol ac unrhyw faterion eraill yn ymwneud â'r Prif Swyddogion.
Canllaw Stadudol
Beth ydy cwyn?
"Cwyn yw unrhyw fynegiant o anfodlonrwydd gyda heddlu a fynegir gan neu ar ran aelod o'r cyhoedd. Rhaid iddo gael ei wneud gan berson sy'n bodloni'r diffiniad o achwynydd. Rhaid hefyd cael rhyw fwriad gan yr achwynydd i ddod â'u hanfodlonrwydd i sylw'r heddlu neu gorff plismona lleol. Nid oes rhaid i gŵyn gael ei gwneud yn ysgrifenedig, ac ni ddylai ddatgan yn benodol ei bod yn gŵyn i'w hystyried fel un".