Bwrdd Gweithredol Strategol
Drwy’r Bwrdd Gweithredol Startegol (y Bwrdd), mae’r Comisiynydd yn craffu ar berfformiad yn erbyn y Cynllun Heddlu a Throsedd, yn monitro perfformiad yr Heddlu a chyllideb yr Heddlu. Y Bwrdd yw’r fforwm gwneud penderfyniadau ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a ble bo hynny’n briodol, mewn ymgynghoriad â’r Prif Gwnstabl. Mae’r Bwrdd yn cael ei gadeirio gan y Comisiynydd a gallai aelodau gynnwys y Dirprwy Gomisiynydd, y Prif Gwnstabl, y Dirprwy Brif Gwnstabl, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, y Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau a Phrif Weithredwr a Phrif Swyddog Cyllid Swyddfa’r Comisiynydd.
Mae cylch gorchwyl llawn y bwrdd ar gael yma
Cofnodion Bwrdd Gweithredol Strategol
Dim ond yn y Saesneg mae'r cofnodion isod ar gael. Os ydych angen copi Cymraeg, cysylltwch ar swyddfa ar OPCC@nthwales.pnn.police.uk/The minutes of the following SEB meetings are currently only available in English. Should you require a version in the Welsh language please contact the office on OPCC@nthwales.pnn.police.uk
2019 | 2018 | 2017 |
31 Ionawr 2019 |
17 Ebrill 2018 |
16 Chwefror 2017 |
12 Ebrill 2019 |
26 Gorffennaf 2018 |
23 Mai 2017 |
25 Gorffennaf 2019 |
17 Hydref 2018 |
17 Awst 2017 |
23 Hydref 2019 |
|
|
|
|
|
Cwynion
Drwy'r cyfarfodydd chwarterol a gynhelir gyda'r Dirprwy Brif Gwnstabl a'r Adran Safonau Proffesiynol mae'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn archwilio sut mae cwynion a honiadau o gamymddygiad yn cael eu trin gan HGC.
Bwrdd Llywodraethu’r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr
Drwy Fwrdd Llywodraethu’r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr bydd y Comisiynydd yn craffu ar berfformiad y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol a chanlyniadau’r arolwg adborth defnyddwyr.
Cadeirydd y Bwrdd yw’r Prif Weithredwr ac mae’r aelodau’n cynnwys y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Pennaeth Uned Gweinyddu Cyfiawnder yr Heddlu, Pennaeth Uned Diogelu Pobl Fregus yr Heddlu, Rheolwr y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr, cynrychiolwyr y Grŵp Ymgynghorol Annibynnol ac eraill.
Mae cylch gorchwyl llawn y Bwrdd i’w weld yma:
Panel Craffu Gwarediadau tu allan i’r Llys
Mae Gwarediadau tu allan i’r Llys yn cael eu hasesu a’u craffu yn annibynnol gan Banel Craffu Gogledd Cymru. Cynrychiolir Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar y Panel Craffu ynghyd â Chadeiryddion Mainc Ynadon, cynrychiolwyr o’r Timau Troseddau Ieuenctid, Ymddiriedolaeth Prawf Gogledd Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Cymorth i Ddioddefwyr, Adran Gweinyddu Cyfiawnder yr Heddlu a’r Gwasanaeth Plismona Lleol.
Gall y panel wneud argymhellion, rhoi adborth ar achosion unigol i swyddogion, cyfleu canfyddiadau, hyrwyddo arferion gorau ac adnabod datblygiadau polisi posibl neu anghenion hyfforddiant ar gyfer eu hystyried gan yr heddlu neu asiantaeth arall perthnasol. Ni all y panel newid canlyniad gwreiddiol achos a bydd yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei dileu cyn y caiff ei chraffu arni.