Os ydych eisiau hysbysu achos o gaethwasiaeth fodern
Ffoniwch yr Heddlu 999
Ffoniwch y Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern 0800 121 700 | https://www.unseenuk.org/
Ffoniwch Crimestoppers 0800 555 111 | https://crimestoppers-uk.org/
Caethwasiaeth Fodern
Cyflwynodd Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 y Comisiynydd Gwrthgaethwasiaeth Annibynnol, â’i rôl ydy annog arfer da mewn:
- Atal, canfod, ymchwilio ac erlyn troseddau caethwasiaeth a masnachu pobl.
- Adnabod dioddefwyr y troseddau hynny.
Mae atal y drosedd hon a diogelu’r dioddefwyr yn flaenoriaeth go iawn i Heddlu Gogledd Cymru a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Gweler wedi’i hatodi isod daflen gyda mwy o wybodaeth ynglŷn â chaethwasiaeth fodern a lle caiff ei gweld.
Cliciwch ar y ddelwedd isod.

(Cynhyrchwyd y ddogfen hon gan sefydliad allanol ac yn anffodus nid yw ar gael yn Gymraeg)
Arwyddion o Gaethwasiaeth Fodern
Golwg Gorfforol
Gall dioddefwyr edrych fel petai eu bod heb gael maeth na bwyd ac yn flêr; yn fudr gyda hylendid gwael; yn hynod flinedig; dan gyffur neu'n feddw; â dillad neu offer anghywir ar gyfer y gwaith.
Trawma Seicolegol
Gall dioddefwyr edrych fel petai eu bod yn ofnus; yn bryderus neu o dan straen; yn flin neu ar bigau drain; yn swil; mewn sioc; yn ddryslyd; yn annealladwy.
Wedi ynysu
Gall dioddefwyr edrych fel petai eu bod yn swil; yn methu cyfathrebu'n effeithiol; yn methu eich deall; yn methu siarad Saesneg; yn cael rhywun arall i siarad ar eu rhan.
Amodau byw gwael
Gall dioddefwyr edrych fel petai eu bod yn byw mewn gweithle; mewn tŷ gorlawn; mewn carafán neu dŷ allan adfeiliedig; mewn lle gyda ffenestri tywyll; mewn lle nad oes gwres na dŵr; yn rhywle sy'n anaddas i fyw ynddo.
Rhyddid Cyfyngedig
Gall dioddefwyr edrych fel petai eu bod yn methu mynd a dod yn rhydd; yn amharod i adael eu sefyllfa; yn methu dod o hyd neu ddangos dogfennau adnabod fel pasbort neu fanylion cyfrif banc; yn ddyledus neu'n ddibynnol ar rywun arall; yn amharod i drin arian; mewn lleoedd lle mae drysau'n cael eu cloi ar y tu allan.
Amharod i Geisio Cymorth
Gall dioddefwyr edrych fel petai eu bod yn amharod i siarad â chi; yn amharod i gael cymorth gennych chi neu bobl eraill; yn amharod i adael eu sefyllfa; yn eich ofni chi neu'r awdurdodau; yn ofni dial gan rywun arall; yn methu profi eu statws cyfreithiol i fod yn y DU.
Amseroedd teithio anarferol
Gall dioddefwyr edrych fel petai eu bod yn teithio ar amseroedd anarferol; yn teithio'n gynnar yn y bore neu'n hwyr y nos; yn cael cludiant i'r gwaith ac oddi yno; yn gorfod talu am y cludiant.
Beth ddylech ei wneud os ydych yn amau caethwasiaeth fodern?
Os yw rhywbeth yn edrych neu'n teimlo'n anghywir;
Os ydych yn pryderu am ddiogelwch rhywun
Ffoniwch – Dyma sut
Ffyrdd i Hysbysu am Gaethwasiaeth Fodern yng Ngogledd Cymru
Os yw'n sefyllfa argyfyngus ac eich bod yn gweld rhywun mewn perygl
Ffoniwch yr Heddlu 999
Os ydych eisiau hysbysu achos o gaethwasiaeth fodern
Ffoniwch y Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern 0800 121 700 | https://www.unseenuk.org/
Ffoniwch Crimestoppers 0800 555 111 | https://crimestoppers-uk.org/