Skip to main content

Caethwasiaeth Modern

Os ydych eisiau hysbysu achos o gaethwasiaeth fodern

Caethwasiaeth Fodern

Cyflwynodd Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 y Comisiynydd Gwrthgaethwasiaeth Annibynnol, â’i rôl ydy annog arfer da mewn:

  • Atal, canfod, ymchwilio ac erlyn troseddau caethwasiaeth a masnachu pobl.
  • Adnabod dioddefwyr y troseddau hynny.

Mae atal y drosedd hon a diogelu’r dioddefwyr yn flaenoriaeth go iawn i Heddlu Gogledd Cymru a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Arwyddion o Gaethwasiaeth Fodern

  • Golwg Gorfforol - Gall dioddefwyr edrych fel petai eu bod heb gael maeth na bwyd ac yn flêr; yn fudr gyda hylendid gwael; yn hynod flinedig; dan gyffur neu'n feddw; â dillad neu offer anghywir ar gyfer y gwaith.
  • Trawma Seicolegol - Gall dioddefwyr edrych fel petai eu bod yn ofnus; yn bryderus neu o dan straen; yn flin neu ar bigau drain; yn swil; mewn sioc; yn ddryslyd; yn annealladwy.
  • Wedi ynysu - Gall dioddefwyr edrych fel petai eu bod yn swil; yn methu cyfathrebu'n effeithiol; yn methu eich deall; yn methu siarad Saesneg; yn cael rhywun arall i siarad ar eu rhan.
  • Amodau byw gwael - Gall dioddefwyr edrych fel petai eu bod yn byw mewn gweithle; mewn tŷ gorlawn; mewn carafán neu dŷ allan adfeiliedig; mewn lle gyda ffenestri tywyll; mewn lle nad oes gwres na dŵr; yn rhywle sy'n anaddas i fyw ynddo.
  • Rhyddid Cyfyngedig - Gall dioddefwyr edrych fel petai eu bod yn methu mynd a dod yn rhydd; yn amharod i adael eu sefyllfa; yn methu dod o hyd neu ddangos dogfennau adnabod fel pasbort neu fanylion cyfrif banc; yn ddyledus neu'n ddibynnol ar rywun arall; yn amharod i drin arian; mewn lleoedd lle mae drysau'n cael eu cloi ar y tu allan.
  • Amharod i Geisio Cymorth - Gall dioddefwyr edrych fel petai eu bod yn amharod i siarad â chi; yn amharod i gael cymorth gennych chi neu bobl eraill; yn amharod i adael eu sefyllfa; yn eich ofni chi neu'r awdurdodau; yn ofni dial gan rywun arall; yn methu profi eu statws cyfreithiol i fod yn y DU.
  • Amseroedd teithio anarferol - Gall dioddefwyr edrych fel petai eu bod yn teithio ar amseroedd anarferol; yn teithio'n gynnar yn y bore neu'n hwyr y nos; yn cael cludiant i'r gwaith ac oddi yno; yn gorfod talu am y cludiant.

Beth ddylech ei wneud os ydych yn amau caethwasiaeth fodern?

Os yw rhywbeth yn edrych neu'n teimlo'n anghywir, neu os ydych yn pryderu am ddiogelwch rhywun

Ffyrdd i Hysbysu am Gaethwasiaeth Fodern yng Ngogledd Cymru


Datganiad Caethwasiaeth Fodern Heddlu Gogledd Cymru