Skip to main content

Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Cafodd y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 gydsyniad brenhinol ym Mawrth 2014 ac yn sgil hyn fe gyflwynwyd dau fesur newydd i daclo Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Y ddau fesur newydd oedd y Camau Unioni Cymunedol a’r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

Beth yw’r Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?

Mae’r Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn caniatáu i ddioddefwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ofyn i’w hachos gael ei adolygu os ydynt yn teimlo na chymerwyd unrhyw gamau, neu gamau annigonol, gan y cyrff cyhoeddus lleol.

Pwy all wneud cais am Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?

Gall y dioddefwr neu rywun ar ran y dioddefwr wneud cais e.e. aelod o’r teulu, gofalwr, AS neu gynghorydd.

Pryd ellir gwneud cais?

Gallwch ofyn i'ch achos gael ei adolygu os bydd trothwy’r adolygiad wedi'i ddiwallu. Y trothwy yn ardal Heddlu Gogledd Cymru ydi 3 digwyddiad o fewn cyfnod o 6 mis. Mae’n rhaid i chi riportio pob digwyddiad o fewn 1 mis iddo ddigwydd. Rhaid cyflwyno’r cais i’r corff cyhoeddus perthnasol a wnaeth gofnodi’r 3 digwyddiad. Dyma restr o’r cyrff cyhoeddus.

Sut i gyflwyno cais am adolygiad?

Er mwyn cyflwyno cais am adolygiad bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais ar-lein, a gallwch ddod o hyd i’r ffurflen ar y gwefannau perthnasol. Os ydych wedi riportio tri digwyddiad i Heddlu Gogledd Cymru bydd y ddolen sydd ar waelod y dudalen yn mynd â chi i’r ffurflen gais.

Beth fydd yn digwydd i’ch cais ar ôl i chi gyflwyno’ch ffurflen gais?

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch ffurflen gais fe gewch gydnabyddiaeth gan y corff perthnasol o fewn 5 diwrnod gwaith.

O fewn 15 diwrnod gwaith bydd Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol eich ardal yn cysylltu â chi i’ch cynghori os ydi’r trothwy sbardun wedi’i gyrraedd.

Os cadarnheir hyn yna bydd eich achos:

  • Yn cael ei adolygu mewn cyfarfod achos i drafod y camau a gymerwyd;
  • Byddant yn ystyried os oedd y camau a gymerwyd yn ddigonol yn seiliedig ar ddisgwyliadau rhesymol ac amserlenni;
  • Bydd eich achos yn cael ei drafod gyda chi o fewn 5 diwrnod gwaith i’r cyfarfod adolygu achos.