Skip to main content

Stopio a Chwilio

Mae pwerau stopio a chwilio yn galluogi’r heddlu i drechu troseddau stryd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac atal troseddau mwy difrifol rhag digwydd. Gall y pŵer i Stopio a Chwilio helpu’r heddlu i ddatrys troseddau a gwneud ein cymunedau yn ddiogelach.

Beth yw ‘stopio’?

‘Stopio’ (neu stopio a rhoi cyfrif) yw pan fydd Swyddog Heddlu neu Swyddog Cefnogi Cymuned yn eich stopio ac yn gofyn i chi roi cyfrif amdanoch eich hun. Hynny ydi, os ydynt yn gofyn i chi:

  • beth ydych yn ei wneud;
  • pam ydych yn rhywle neu ble’r ydych yn mynd; neu
  • beth ydych yn ei gario.

(Noder, mae’n rhaid i swyddog cefnogi cymuned yr heddlu fod mewn lifrai er mwyn eich chwilio ond does dim rhaid i swyddog heddlu)

Nid oes rhaid i’r swyddog wneud cofnod o’r cyfarfod hwn.

Nid yw pob tro y bydd swyddog heddlu neu swyddog cefnogi cymuned yr heddlu yn siarad â chi yn cyfri fel stop. Er enghraifft, os yw’r swyddog

  • yn chwilio am dystion;
  • yn gofyn i chi am wybodaeth gyffredinol am ddigwyddiad; neu
  • yn rhoi cyfarwyddiadau i chi.

Beth yw ‘stopio a chwilio’?

Gall swyddog eich stopio a siarad â chi unrhyw dro. Ond ni ddylent eich chwilio oni bai eu bod yn amau eich bod yn cario:

  • cyffuriau;
  • arfau;
  • eiddo sydd wedi’i ddwyn, neu
  • offer y gellid ei ddefnyddio i gyflawni trosedd