Skip to main content

Trosedd Casineb

I riportio enghraifft o droseddau casineb:

WarningOs yw'n sefyllfa o argyfwng a'ch bod yn gweld rhywun mewn perygl, ffoniwch yr Heddlu 999

Fel arall, defnyddiwch Gwasanaeth Sgwrsio Dros y We Heddlu Gogledd Cymru: (Gwasanaeth ar gyfer riportio materion di-frys yn unig yw hwn. Pan na fydd y gwasanaeth hwn ar gael, defnyddiwch ffurflenni riportio ar-lein neu ffoniwch 101.)

Beth yw Trosedd Casineb?

Diffinnir Digwyddiad Casineb fel unrhyw ddigwyddiad sydd, yn ôl y dioddefwr (neu unrhyw unigolyn arall), wedi’i ysgogi gan ragfarn neu gasineb. Er ei fod yn cynnwys troseddau, mae hefyd yn cynnwys gweithredoedd di-drosedd. Er enghraifft, efallai y bydd teulu yn teimlo eu bod yn cael eu targedu os mai nhw ydi’r unig deulu o hil benodol yn y stryd a bod rhywun o hyd yn gadael sbwriel yn eu gardd, ond dim gardd rhywun arall.

Mae Trosedd Casineb yn drosedd sydd, yn ôl y dioddefwr (neu unrhyw unigolyn arall), wedi’i ysgogi gan ragfarn neu gasineb. Enghreifftiau o hyn ydi difrod troseddol, ymosodiadau, camdriniaeth lafar ayyb.

Mae rhagfarn yn bodoli mewn sawl ffurf. Gall person gael ei erlid oherwydd ei:

  • hil
  • crefydd
  • cenedligrwydd
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • hunaniaeth drawsrywiol
  • anabledd

Beth bynnag ydi’r rheswm, nid yw’n iawn ac rydym eisiau ei stopio rhag digwydd.

Dylid riportio pob digwyddiad o gasineb fel y gellir defnyddio'r wybodaeth i adnabod mannau problemus ac i atal y broblem rhag gwaethygu.

Drwy daclo’r broblem gyda’n gilydd gallwn wneud Gogledd Cymru yn lle diogelach i fyw.


Os ydych angen riportio trosedd casineb yna gallwch gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101 (os ydych yng Ngogledd Cymru) neu os hoffech gael gwybodaeth am ffydd eraill o riportio trosedd casineb (gan gynnwys drwy drydydd parti a riportio’n ddienw) ewch i wefan Heddlu Gogledd Cymru. Mae yna fwy o wybodaeth am droseddau casineb ar dudalennau cydraddoldeb gwefan yr Heddlu.

Dydy trosedd casineb ddim yn iawn. Peidiwch â dioddef yn ddistaw. Riportiwch o.

Cofiwch ffonio 999 os ydyw’n argyfwng


'Trosedd Cyfeillio' yw pan fydd person yn cael ei

niweidir neu manteisir ar unigolyn gan rywun roeddent yn feddwl eu bod yn gyfaill iddynt. Darllenwch fwy isod:


I gofnodi Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb ym mis Hydref 2022, cynhaliodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ynghyd â phartneriaid o Heddlu Gogledd Cymru, Cymorth Dioddefwyr a Thimau Cydlynu Cymunedol Gogledd Cymru gynhadledd ar-lein i drafod y rhwystrau i riportio troseddau casineb. 

Cliciwch ar y ddolen isod ar gyfer adroddiad ôl-ddigwyddiad ar y gynhadledd fer hon.