Skip to main content

Gweithio mewn Partneriaeth

Er mwyn creu Gogledd Cymru gwell, diogelach ac er mwyn sicrhau gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon yng Ngogledd Cymru, mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cydnabod yr angen i gydweithio’n agos â phartneriaid er mwyn sicrhau atebion tymor hir i faterion trosedd ac anrhefn.

Mae datblygu partneriaethau effeithiol yn sylfaenol i’r gwaith a wneir gan y Comisiynydd gan mai nid dim ond yr Heddlu sy’n gweithio i leihau trosedd, lleihau niwed (a’r risg o niwed) a darparu’r cyhoedd ag ymateb effeithiol. Mae gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth yn galluogi’r holl bartneriaid perthnasol i ddarparu mwy o wasanaethau cynaliadwy. Yn fwy na hynny, gall arwain at well gwasanaethau’n cael eu darparu mewn modd mwy cost effeithiol – ffactor pwysig mewn sefyllfa ariannol heriol.

Mae’r Comisiynydd yn gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o fathau o sefydliadau er mwyn gwneud yn siŵr bod ymdrechion yn cael eu canolbwyntio’n strategol er mwyn sicrhau bod mwy o waith partneriaeth trefnus yn darparu pobl Gogledd Cymru â gwell gwasanaethau.   

Mae’r Comisiynydd yn gweithio gyda:

  • Yr Heddlu
  • Y Bwrdd Iechyd Lleol 
  • Y Gwasanaeth Tân  
  • Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru 
  • Partneriaid yn y maes cyfiawnder troseddol 
  • Cynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol Gogledd Cymru 
  • Llywodraeth DU
  • Llywodraeth Cymru
  • Y Swyddfa Gartref
  • Gymdeithas Comisiynwyr Heddlu a Throsedd

Mae rôl y Comisiynydd yn golygu cydweithio mewn partneriaeth â’r byrddau canlynol:

  • Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yng Ngogledd Cymru 
  • Bwrdd Cymunedau Diogelach Gogledd Cymru
  • Bwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru 

Sut all gweithio mewn partneriaeth helpu?

Gweler isod rai enghreifftiau o’r mathau o faterion y mae’r heddlu yn delio â nhw mewn partneriaeth â darparwyr gwasanaeth lleol eraill er mwyn gwella’r ddarpariaeth.

  • Datrys problemau cymdogaeth megis ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Cefnogi dioddefwyr trosedd
  • Darparu dioddefwyr camdriniaeth domestig â chymorth fel bo ganddynt y cyfle a’r hyder i geisio cymorth a chefnogaeth.
  • Gwella’r amgylchedd corfforol fel ei fod yn llai tebygol o arwain at droseddu.
  • Darparu gwasanaethau ar gyfer y rhai hynny sy’n camddefnyddio sylweddau ond sydd angen cymorth i leihau’r niwed maent yn ei wneud iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd a’n cymunedau, a
  • Cefnogi troseddwyr i ailsefydlu eu hunain ac i wneud cyfraniad positif i gymdeithas.