Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi ymrwymo i’r trefniadau cydweithio canlynol gyda CHTh a Phrif Gwnstabliaid pob heddlu daearyddol yng Nghymru a Lloegr
1. Sefydliad Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu o 1 Ebrill 2015
2. Darpariaeth Swyddfa Cofnodion Troseddol ACRO – Awst 2016
3.Cytundeb Cydweithredu – ar gyfer y Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Balisteg Cenedlaethol (NABIS) Mawrth 2017
4. Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu
5.Cytundeb Cenedlaethol Cydweithrediad yr Heddlu sy’n berthnasol i’r Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Troseddau Cerbydau Cenedlaethol / yr Uned Troseddau Bywyd Gwyllt Cenedlaethol (NWCU) ac Uned Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data Cenedlaethol yr Heddlu (NPFDU) o dan Adran 22A Deddf yr Heddlu 1996.
6.Hafan Ar-lein Unigol. Sefydlu llwyfan cenedlaethol ar gyfer cyflwyno ystod o wasanaethau ar-lein. Gwneir y Cytundeb Adran 22A o dan Ddeddf yr Heddlu 1996 (fel y’i diwygiwyd) gyda 43 o heddluoedd y Swyddfa Gartref yng Nghymru a Lloegr, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a’r Heddlu Niwclear Sifil.
7.Mae heddluoedd Cymru a Lloegr wedi cytuno i gydweithio o ran ymestyn a chynnal Rhaglen Trawsnewid Caethwasiaeth Fodern yr Heddlu a fydd yn eu cynorthwyo i wella eu hymatebion i Dimau Caethwasiaeth Fodern. Ionawr 2020
8. Cytundeb Cydweithredu Fforensig Rhanbarthol Adran 22A gyda Heddlu Swydd Gaer, Heddlu Cumbria, heddlu Swydd Gaerhirfryn, Heddlu Glannau Mersi a Heddlu Gogledd Cymru i gynnwys Profion Cyffuriau, Esgidiau, Arfau Tanio, Tocsicoleg a Gwasanaeth Cludo Fforensig
9. Cytundeb Adran 22A ar gyfer sefydlu Rhwydwaith Ymchwilio Gwrthdrawiadau Fforensig yn ffurfiol ar gyfer pob heddlu yng Nghymru a Lloegr