Skip to main content

Cyfiawnder Troseddol

Bob dydd, mae miloedd o bobl yn chwarae eu rhan mewn atal a mynd i'r afael â throsedd ledled Gogledd Cymru.

Un o gyfrifoldebau ehangach y Comisiynydd yw goruchwylio a gweithio gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol i sicrhau system cyfiawnder troseddol effeithlon ac effeithiol yng Gogledd Cymru.

Er mwyn helpu i gyflawni'r dyletswyddau hyn, mae'n cadeirio Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru (NWCJB). Mae'r NWCJB yn unigryw gan ei fod yn dod a asiantaethau cyfiawnder troseddol o bob rhan o Ogledd Cymru at ei gilydd gyda'r bwriad o uno prosesau cyfiawnder troseddol ar draws ystod o feysydd.

Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru

Mae aelodaeth craidd y Bwrdd fel a ganlyn:

  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Gwasanaeth Llys a Thribiwnlys Ei Mawrhydi
  • Gwasanaeth Prawf Gogledd Cymru
  • Gwasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi
  • Timau Troseddau Ieuenctid
  • Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol

Mae yna hefyd nifer o aelodau cyfetholedig. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cymorth i Ddioddefwyr (sy'n rhedeg Canolfan Cymorth Dioddefwyr Gogledd Cymru)
  • Clinks
  • Gwasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth

Gweledigaeth

Mae pwrpas Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru (y Bwrdd) yn parhau i fod yn glir, sef i:

  • Ddarparu arweinyddiaeth, llywodraethu a chyfeiriad strategol ar gyfer partneriaid cyfiawnder troseddol;
  • Sicrhau bod canlyniadau yn cael eu cyflawni'n effeithiol i leihau troseddu, aildroseddu a chynyddu hyder y cyhoedd yn y System Cyfiawnder Troseddol yng Ngogledd Cymru;
  • Nodi a goresgyn rhwystrau er mwyn darparu Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol mwy effeithlon ac effeithiol sy'n rhoi anghenion dioddefwyr a thystion yn ganolog iddo.

Fel corff sefydledig a phrofiadol, mae'r NWCJB yn darparu fforwm delfrydol i'r Comisiynydd drafod materion cyfiawnder troseddol gyda swyddogion ar lefel briodol. Mae'r Bwrdd yn rhoi cyfle i'r Comisiynydd glywed am faterion neu rwystrau o fewn y system cyfiawnder troseddol ac ystyried ac argymell rhwymedïau gyda phartneriaid i faterion o'r fath.

Drwy weithio gyda'n gilydd, mae’r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol wedi cytuno ar strategaethau ledled Gogledd Cymru sy'n helpu i sicrhau dull cyson, effeithlon ac effeithiol o ymdrin ag ystod o faterion, gan gynnwys trais domestig a lleihau aildroseddu.

Blaenoriaethau cyfredol y Bwrdd:

  1. Lleihau troseddau, ail-droseddu a niwed;
  2. Darparu ymateb effeithiol;
  3. Gweithio gyda’n gilydd i adeiladu partneriaethau effeithiol;
  4. Gweithio i wella canlyniadau mewn achosion o drais yn y cartref, troseddau casineb, a thrais rhywiol. 

Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth

Mae Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru wedi lansio ei Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth , sy’n amlinellu penderfynoldeb partneriaid i wneud popeth o fewn eu gallu, yn unigol a gyda’i gilydd, i ddileu unrhyw fath o hiliaeth ar draws y System Cyfiawnder Troseddol.

Cliciwch yma i ddarllen y cynllun.