Skip to main content

PACT

YCYC-Web-Welsh

Bydd arian a atafaelwyd gan ddihirod yn cael eu defnyddio i gynorthwyo plant a phobl ifanc ddianc o grafangau gangiau Llinellau Cyffuriau yn camfanteisio arnynt i werthu cyffuriau mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru.

PACT

Lansiwyd Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (North Wales Police and Community Trust - PACT) ym 1998 i gefnogi mentrau cymunedol, yn arbennig y rhai hynny y mae’r heddlu’n rhan ohonynt, sy’n anelu at wella ansawdd bywyd pobl trwy leihau trosedd ac ofn trosedd yng nghymunedau Gogledd Cymru.

Mae PACT yn annog ceisiadau gan grwpiau cymunedol a gwirfoddol sy’n cael eu cyflwyno mewn partneriaeth a’u Timau Plismona Cymdogaeth, a fydd yn cael effaith bositif yn y cymunedau lleol ac yn annog amgylchedd diogelach ac yn gwella ansawdd bywyd.  Disgwylir i’r holl ymgeiswyr ddangos sut y bydd eu cynnig yn cefnogi’r Cynllun Heddlu a Throsedd presennol

Amcanion PACT yw buddsoddi mewn prosiectau sydd yn:

  • Hyrwyddo gwell ansawdd bywyd drwy fentrau atal trosedd sy’n lleihau trosedd ac ofn trosedd ac yn diogelu pobl ac eiddo rhag gweithgaredd troseddol.
  • Hyrwyddo addysg ynghylch camddefnyddio cyffuriau ac alcohol er mwyn lleihau troseddau
  • Hyrwyddo diogelwch y ffyrdd fel rhan annatod o fywyd drwy hyfforddiant, addysg a phrosiectau arbennig.

Mae ein bwrdd ymddiriedolwyr wedi ymrwymo i gefnogi’r amcanion hyn ac mae hyn wedi’i adlewyrchu yn natblygiad parhaus PACT er mwyn sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn cefnogi prosiectau sy’n mynd i’r afael â materion sy’n bwysig i gymunedau lleol.

Rydym yn gweinyddio Cronfa Cyllideb Gyfranogol ar ran y Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Mae'r ymgeiswyr llwyddiannus o bob rhan o ogledd Cymru ran o’r £40,000 yn dilyn pleidlais gyhoeddus ym mhob sir.

Mae PACT hefyd yn rheoli dosbarthiad Cronfa Deddf Eiddo’r Heddlu ar ran y Comisiynydd a thrwy hwn mae modd i ni gynnig amrywiaeth o gyfleoedd ariannu gan gynnwys:

  • Cronfa Grantiau Bach Timau Plismona Cymdogaeth – ar gael i aelodau TPC sy’n gwneud cais am hyd at £250 i gefnogi mentrau lleol a grwpiau cymunedol
  • Cronfa Prif Grantiau - £250 to £2,000. Ar gael i grwpiau swyddogion, staff a chymunedol allanol wneud cais amdanynt. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu gan yr ymddiriedolwyr mewn cyfarfodydd ym mis Chwefror, Gorffennaf a Hydref bob blwyddyn
  • Ers 2010 mae PACT wedi datblygu a darparu gweithdy addysgu ieuenctid mawr o’r enw “Cyfiawnder mewn Diwrnod” gan addysgu bron 3,000 o bobl ifanc ynglŷn â chanlyniadau troseddu.

I gael gwybod mwy am PACT ewch i’n gwefan http://www.pactnorthwales.co.uk


Trechu-Trosedd2

Trechu Trosedd (Crimebeat) yw cronfa elusennol Uchel Siryfion Clwyd a Gwynedd sy’n cefnogi pobl ifanc sydd eisiau datblygu prosiectau a fydd gwneud eu cymunedau’n llefydd myw diogel i fyw.

Rheolir y gronfa drwy Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned.

Mae Crimebeat yn cefnogi pobl ifanc i ddatblygu prosiectau sy’n anelu at:

  • Leihau trosedd lleol a chadw pobl ifanc allan o drybini
  • Rhoi cefnogaeth i ddioddefwyr trosedd
  • Ysgogi diddordeb mewn gwaith gwirfoddol
  • Gwella presenoldeb ac ymddygiad yn yr ysgol
  • Gwella ansawdd bywyd yn ein cymunedau

Gall grwpiau o bobl ifanc wneud cais am hyd at £500 i gefnogi eu menter ac mae llawer o grwpiau wedi gweithio gyda chefnogaeth eu Tîm Plismona’r Gymdogaeth i droi eu prosiect yn realiti.

Ers ei sefydlu yng ngogledd Cymru mae Trechu Trosedd wedi cefnogi dros 500 o fentrau ar gyfer pobl ifanc gyda grantiau o fwy na £100,000.

Cewch wybod mwy am y prosiectau y mae  Trechu Trosedd wedi eu cefnogi ar ein gwefan: http://www.crimebeatnorthwales.co.uk

PACT: Elusen Gofrestredig Rhif: 1071628

Rheolir PACT a Trechu Trosedd gan Dave Evans a gellir cysylltu ag ef ar

01745 588516. e-bost: David.V.Evans@nthwales.pnn.police.uk