Skip to main content

Rhaglen Teuluoedd yr Effeithir Arnynt gan Garchariad (FABI) yng Ngogledd Cymru 2023

CAPI FABI Web-page-header Cym

Mae Rhaglen FABI Gogledd Cymru’n mynd o nerth i nerth ac mae cydweithio’n digwydd â gweithwyr proffesiynol o amryw asiantaethau er budd plant a phobl ifanc y mae carchariad yn effeithio arnynt. Rydym wrthi’n gwrando ar deuluoedd fel hyn, sydd yn aml yn fregus a’u profiadau a heriau’n aml yn cael eu hanwybyddu neu’u hanghofio, heb unrhyw fai arnynt hwy, a dyma’r bobl sy’n dioddef heb i neb weld, yn cwblhau eu “dedfrydau cudd” eu hunain tra bod rhiant neu berthynas yn y carchar.

Rydym yn bwriadu sefydlu llwybrau eglur a chyflym at adnabod teuluoedd a effeithir gan garchariad, eu cefnogi, eu rhoi ar ben y ffordd a gwrando arnynt o’r cychwyn cyntaf. Nid yw amseroedd aros hir neu fethu ag adnabod neu gefnogi plant a phobl ifanc yn fuddiol i’w canlyniadau hirdymor.

Rydym yn bwriadu datblygu pecynnau gwaith i weithwyr proffesiynol ym meysydd Addysg, Gofal Cymdeithasol a gwasanaethau eraill yn y sector cyhoeddus sydd efallai’n gweithio â’r plant a phobl ifanc dan sylw.

Y Prosiect Teuluoedd yr Effeithir Arnynt gan Garchariad – Dull Amlasiantaethol

I godi ymwybyddiaeth o’r problemau y mae’r teuluoedd hyn yn eu hwynebu a sbarduno newid er mwyn annog gwaith ataliol a mwy o gefnogaeth di-stigma heb ei thargedu, mae un ar ddeg o gyrff cyhoeddus ledled y rhanbarth (gan gynnwys Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru) a Charchar y Berwyn, wedi penodi tîm trawsbynciol bychan; mae hwn bellach dan adain Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Gogledd Cymru a Bwrdd Cynllunio Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru.

Penodwyd Swyddog Rhanbarthol sy’n dal i gydweithio â phartneriaid. Mae mwy na deugain o aelodau yn y Grŵp Llywio Amlasiantaethol sy’n dal i ysgogi gwaith y rhaglen, gan gynnwys Awdurdodau Lleol gogledd Cymru, Iechyd, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf, y Ganolfan Gefnogaeth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Carchar y Berwyn a Charchar Styal, Cyfiawnder Ieuenctid, y trydydd sector a’r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yng Nghymru.

Os hoffech chi gysylltu â Karen i drafod y gwaith, cynnig cefnogaeth neu ddarparu gwybodaeth, dyma ei manylion:                                                                                                                        

Karen.brannan@wrexham.gov.uk Rhif ffôn 01978 292263

Tybed a ydych chi’n coladu ffigurau ynglŷn â niferoedd plant neu deuluoedd o ogledd Cymru y mae’r mater hwn yn effeithio arnynt? Neu efallai bod gennych chi ddealltwriaeth benodol o’u hanghenion yn sgil y gwaith rydych chi’n ei wneud bob dydd?

Ynteu a ydych chi'n darparu cefnogaeth i deuluoedd y mae carchariad yn effeithio arnynt, neu a hoffech chi ddysgu mwy am y mater hwn fel y gallwch roi cefnogaeth yn y dyfodol? Os felly, hoffai Karen glywed oddi wrthoch.

Byddwn yn dal i gyhoeddi’r Newyddlen i Deuluoedd yr Effeithir Arnynt gan Garchariad, ac os oes gennych unrhyw wybodaeth y byddai’n ddefnyddiol ei chynnwys, mae croeso ichi gysylltu â Karen. I gael syniad o’r cynnwys arferol, darllenwch hen rifynnau YMA 

Sut mae cael aelod o'r teulu dan glo yn effeithio ar blant a theuluoedd?

O’u cymharu â’u cyfoedion, mae plant yn wynebu pwysau sylweddol a chynnwrf emosiynol yn ystod cyfnod y carchariad ac mae mwy o debygolrwydd y byddan nhw’n cael canlyniadau gwael mewn llawer o ffyrdd ac yn wynebu bywydau tlawd a niweidiol.

Mae troseddau sy’n pontio’r cenedlaethau yn broblem fawr: canfu astudiaeth bwysig fod 65% o fechgyn sydd â thad yn y ddalfa yn mynd yn eu blaenau i droseddu eu hunain. Mae carcharu mam hefyd yn cael effaith barhaol ar blant, a dim ond 5% o blant sydd â’u mam yn y carchar sy’n aros yn eu cartrefi eu hunain. Cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai adroddiad: “What About Me?” ynglŷn â’r effaith ar blant pan mae mamau’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol. Darllenwch yr adroddiad yma ; mae’n werth nodi bod yr holl ferched o ogledd Cymru sydd yn y ddalfa wedi eu cadw dan glo yn Lloegr.  

Ar y cyfan mae teuluoedd yn fwy tebygol o fod yn dlawd a mynd i ddyled, gan deimlo eu bod yn cael eu difrïo yn eu cymunedau; mae’r plant hefyd yn tueddu i deimlo'n fwy unig yn yr ysgol.  Mae hyn hefyd yn effeithio ar blant a theuluoedd sydd â rhiant neu aelod o’r teulu mewn rhan arall o’r system cyfiawnder troseddol, ac nid dim ond yn y carchar.

Mae plant â theuluoedd â rhiant yn y carchar:

  • Yn medru wynebu goblygiadau ariannol, ymarferol ac emosiynol
  • Yn gweld dirywiad yn eu perthynas yn ystod y cyfnod yn y carchar ac wedi hynny
  • Yn medru bod ddwywaith mor debygol o gael problemau â’u hymddygiad ac iechyd meddwl
  • Yn gallu bod yn llai tebygol o wneud yn dda yn yr ysgol ac yn fwy tebygol o gael eu gwahardd
  • Yn medru bod deirgwaith yn fwy tebygol o gyflawni trais domestig neu’i ddioddef
  • Yn gallu bod bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddibynnol ar gyffuriau.

Llinellau Sirol

Mae teuluoedd yr effeithir arnynt gan garchariad wedi’u hadnabod yn un o’r carfanau sydd dan fygythiad o gael eu targedu gan gangiau troseddol ar gyfer ‘Llinellau Sirol’. Amlygodd swyddogion yr Uned Trais a Bregusrwydd (a gefnogir gan y Swyddfa Gartref) y bygythiad hwn mewn erthygl yn rhifyn Medi 2018 o Newyddlen FABI.

Adnoddau Defnyddiol Eraill

Gellir cael mynediad at newyddlenni ac adnoddau eraill gan y sefydliadau canlynol drwy gysylltu â nhw ar-lein:

Canolfan Wybodaeth Cenedlaethol i Blant i Droseddwyr - https://www.nicco.org.uk/

Partneriaid Carcharorion - http://www.partnersofprisoners.co.uk/

Gweithredu dros Deuluoedd Troseddwyr a Charcharorion - https://www.familylives.org.uk/about/our-services/action-for-prisoners-and-offenders-families/leaflets-for-families-affected-by-imprisonment/