
Cytundeb y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a'r Trydydd Sector
Ydych chi’n sefydliad gwirfoddol neu gymunedol?
Hoffech chi i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ymweld â’ch sefydliad a’i weld ar waith, yn darparu gwasanaethau?
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn dymuno gwella ymgysylltiad â sefydliadau trydydd sector lleol. Drwy gydol 2021, bydd yn ymweld â grwpiau y mae eu gwasanaethau yn cael effaith ar drosedd a diogelwch cymunedol.
Mae gweld gwasanaethau’n cael eu darparu yn rhoi gwell syniad o’r materion sy’n wynebu cymunedau. Bydd yn cynorthwyo’r Comisiynydd i ddeall anghenion cymunedol ac i ddatblygu blaenoriaethau plismona ar gyfer y dyfodol.
Os hoffai eich sefydliad dderbyn ymweliad, llenwch y ffurflen gais.
Cytundeb gyda'r Trydydd Sector.
Creur Cysylltiadau 12 Rhagfyr 2014 - Adroddiad am y Digwyddiad
Digwyddiad Ymgysylltu Trydydd Sector 17 Rhagfyr 2015 - Adroddiad yn dilyn y digwyddiad
Digwyddiad Ymgysylltu Trydydd Sector 01 Tachwedd 2016 - Adroddiad yn dilyn y digwyddiad
Digwyddiad Ymgysylltu Trydydd Sector 21 Tachwedd 2019 - Adroddiad yn dilyn y digwyddiad
Digwyddiad Ymgysylltu Trydydd Sector 19 Tachwedd 2020 - Adroddiad yn dilyn y digwyddiad
Cyflwyniadau