Skip to main content

Arian a atafaelwyd gan droseddwyr yn helpu creu dyfodol cadarnhaol i bobl ifanc yn yr Wyddgrug

Dyddiad

Mae grŵp a ffurfiwyd yn ddiweddar yn yr Wyddgrug yn defnyddio rhai o enillion anghyfreithlon troseddwyr i helpu pobl ifanc yn y dref drwy'r gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis. Mae Dyfodol Cadarnhaol yr Wyddgrug (Positive Futures Mold) yn cynnal sesiynau galw heibio wythnosol yng Nghanolfan Gymunedol Daniel Owen ar gyfer pobl ifanc 15-19 oed y dref ac yn denu tua 20 o bobl bob sesiwn. Arweiniodd llwyddiant y grŵp iddynt wneud cais am arian o gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis, cronfa sy'n rhoi arian i achosion da ar sail pleidlais gyhoeddus. Roedd Positive Futures Mold yn llwyddiannus yn y bleidlais ac ymwelodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Andy Dunbobbin â nhw i weld yr effaith y mae'r cyllid wedi'i chael ar y grŵp hyd yn hyn.

Cefnogir Eich Cymuned, Eich Dewis gan y CHTh, Heddlu Gogledd Cymru, ac Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT). Dros y deuddeg mlynedd diwethaf, mae Eich Cymuned, Eich Dewis wedi rhoi bron i £660,000 i 214 o brosiectau sy'n gweithio i leihau troseddu yn eu cymdogaethau a chefnogi'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Daw'r cyllid yn rhannol o arian a atafaelwyd gan y llysoedd trwy'r Ddeddf Enillion Troseddau, gyda'r gweddill yn cael ei ddarparu gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae Positive Futures yn yr Wyddgrug yn cael ei redeg gan Ellie Johnson a Susan Banks ac fe'i sefydlwyd ym mis Medi 2024. I ddechrau roedd yn cael ei ariannu gan Gyngor Tref yr Wyddgrug a oedd yn talu cost llogi ystafelloedd, yswiriant a lluniaeth sylfaenol bob wythnos. Gan fod y gwasanaeth galw heibio wedi bod yn boblogaidd bydd y grant gan Eich Cymuned, Eich Dewis yn helpu i ariannu gemau ac offer chwaraeon i'w defnyddio yn wythnosol. Ymhen amser maent hefyd yn gobeithio gwahodd siaradwr yn fisol, o'r byd chwaraeon neu addysg er enghraifft i helpu'r gymuned ifanc i fagu hyder a chael cyfleoedd defnyddiol, boddhaol ar gyfer dyfodol mwy cadarnhaol.

Mae naws anffurfiol i'r grŵp, lle gall pobl alw heibio, ond rhaid i bawb sy'n dod arwyddo i mewn ac allan a llofnodi contract ymddygiad ar y dechrau. Rhaid iddynt gytuno i ymddwyn yn briodol yn ôl y disgwyl. Mae'r grŵp yn anelu at greu awyrgylch groesawgar, cynhwysol sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu â'r bobl ifanc lleol, yn enwedig y rhai sy'n teimlo eu bod wedi dieithrio oddi wrth gymdeithas ac sydd angen cysylltiad cyson a rheolaidd i wella eu dewisiadau mewn bywyd er mwyn cael dyfodol mwy cadarnhaol.

Yn ystod ei ymweliad â Positive Futures yn yr Wyddgrug gyda SCCH Charlotte Wilson o Heddlu Gogledd Cymru, cyfarfodd CHTh Dunbobbin â Ellie Johnson a Susan Banks a nifer o'r bobl ifanc sy'n mynychu'r sesiynau. Trafododd y grŵp bwysigrwydd y prosiect iddynt hwy a phobl ifanc ehangach Yr Wyddgrug a ymunodd y CHTh mewn rhai o'r gweithgareddau oedd yn digwydd yn ystod y sesiwn.

Dywedodd Ellie Johnson o Positive Futures yr Wyddgrug: "Roeddwn yn falch iawn o ddangos i'r CHTh y gwaith rydyn ni'n ei wneud yma yn yr Wyddgrug i ennyn diddordeb pobl ifanc a helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB). Rwyf wedi gweld fy hun y math o wahaniaeth y gall cefnogaeth ac ymgysylltu ei wneud ym mywydau ein pobl ifanc ac yn teimlo y gall ein gwasanaeth galw heibio gyrraedd pobl ifanc a'u cefnogi i wneud dewisiadau bywyd gwell, ac arwain at lai o gyswllt â'r heddlu. Rwy'n credu bod angen system o gefnogaeth ar bobl ifanc sy'n gweithio iddyn nhw a dyma beth rydyn ni'n teimlo y gallwn ei gynnig yn Positive Futures yn yr Wyddgrug. Mae staff Canolfan Gymunedol Daniel Owen hefyd wedi bod yn ardderchog ac yn gefnogol iawn yn ein helpu i sefydlu a chael canolfan ar gyfer y gwasanaeth galw heibio."

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru: "Grwpiau fel Dyfodol Cadarnhaol yr Wyddgrug yw asgwrn cefn cymunedau ledled Gogledd Cymru. Maen nhw'n rhoi cyfle ac anogaeth i'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu. Roeddwn yn falch iawn o ymweld â nhw ac i weld y gwaith maen nhw'n ei wneud gyda phobl ifanc yn yr Wyddgrug. Mae fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru yn rhoi blaenoriaeth i gefnogi cymunedau ac mae'r grŵp hwn yn enghraifft o fy nghynllun ar waith."

Dywedodd Cadeirydd PACT, Ashley Rogers: "Rwy'n falch iawn bod PACT wedi gallu cefnogi Positive Futures drwy'r gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis. Pobl ifanc yw dinasyddion ac arweinwyr yfory a dylid croesawu unrhyw beth y gallwn ei wneud i ymgysylltu â nhw a buddsoddi ynddynt. Edrychaf ymlaen at weld Positive Futures yr Wyddgrug yn tyfu yn y dyfodol gan wneud hyd yn oed mwy o wahaniaeth i bobl ifanc yn y dref."

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Evans: "Mae'n bwysig ein bod ni'n cynnig gweithgareddau gwerth chweil a chadarnhaol i bobl ifanc ac yn rhoi dewis arall iddynt yn hytrach nag ymddwyn yn anghymdeithasol. Dyma sut y gall grwpiau fel Positive Futures yr Wyddgrug helpu i gefnogi gwaith yr heddlu ac adeiladu cydlyniant cymunedol ar draws y rhanbarth. Rwy'n falch ein bod wedi gallu eu cefnogi yn eu gwaith."

I ddysgu mwy am PACT, ewch i www.pactnorthwales.co.uk

I ddarllen mwy am Ddyfodol Cadarnhaol yr Wyddgrug (Positive Futures, Mold) ewch i: www.facebook.com/profile.php/?id=61565550788758