Mae cynllun Arloesi i Dyfu gan Comisiynydd Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin yn targedu a buddsoddi mewn prosiectau sy'n ymdrin ag achosion gwreiddiol trosedd ledled Gogledd Cymru, yn enwedig rhai sy'n cynnig syniadau newydd ac arloesol ynghylch atal ac ymdrin â drygioni.
Y nod ydy i'r fenter ategu at y blaenoriaethau o fewn Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd, ynghyd a'i Wasanaeth Heddlu Cymunedol er mwyn gwasanaethu holl gymunedau ledled gogledd Cymru. Mae enghreifftiau o fentrau a all fod yn gymwys am gymorth o dan y cynllun yn cynnwys y rhai hynny sy'n cynnwys gwasanaethau ieuenctid; ymyrraeth gynnar; profiadau niweidiol yn ystod plentyndod; gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau; sefydliadau sy'n gweithio i wrthsefyll cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn merched a genethod.
Mae Mr Dunbobbin wedi dyrannu £100,000 i'r cynllun newydd er mwyn cynorthwyo prosiectau am hyd at flwyddyn, gyda'r ffocws ar arloesedd. Bydd hyd at £5,000 ar gael i bob prosiect. Fodd bynnag, os cyflwynir y prosiect ledled dwy neu fwy o siroedd, cynigir uchafswm o £10,000.
Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, rhaid i ymgeiswyr fod yn rhai nid er elw a rhaid iddynt gwblhau cynllun busnes. Rhaid i'r cynllun fod yn gydnaws ag un o flaenoriaethau plismona'r Comisiynydd. Bydd angen i bob sefydliad hefyd sicrhau fod ganddynt bolisi ar y Gymraeg, ar Gyfleoedd Cyfartal ac ar Werth Cymdeithasol mewn lle a dangos sut byddant yn integreiddio'r meysydd hyn i gyflawni'r prosiect.
Dogfennaeth Arloesi i Dyfu:
Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu mwy am Arloesi i Dyfu a sut y gallwch gyflwyno cais: