
Mae gweithrediad ac ymgysylltu cadarnhaol gan Heddlu Gogledd Cymru yn cael effaith gadarnhaol ar leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fel rhan o’i fenter ‘Adnewyddu Bangor’. Dyna ydy’r neges gafodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru yn ystod ymweliad â Bangor, efo’r tîm plismona’r gymdogaeth ar 24 Mehefin. Daw’r newyddion calonogol hwn yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol genedlaethol, ac fel rhan o ymgyrch Haf Strydoedd Diogelach y Llywodraeth, a’r gwarant plismona’r gymdogaeth. Mi olygai hyn bod buddsoddiad ychwanegol wedi’i roi er mwyn trechu trosedd mewn canolfannau allweddol ar draws Gogledd Cymru yn ystod misoedd prysur yr haf.
Mae'r Fenter Haf Strydoedd Diogelach yn cael ei harwain gan Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd, mewn cydweithrediad â'r Swyddfa Gartref gyda Phrif Gwnstabliaid a phartneriaid lleol hanfodol eraill fel cynghorau, ysgolion, gwasanaethau iechyd, busnesau, trafnidaeth a sefydliadau cymunedol. Bydd yr heddluoedd yn defnyddio £66m o arian cyllid plismona ar leoedd problemus eleni, ac yn adeiladu ar bwerau a mentrau sydd eisoes ar waith, i sicrhau bod anghenion a phryderon lleol yn cael eu hystyried. Trwy Warant Plismona Cymdogaeth y Llywodraeth, a'r ymrwymiad i ddirprwyo 13,000 o swyddogion heddlu, Swyddogion CCH a Swyddogion Gwirfoddol ychwanegol i rolau plismona cymdogaeth, y nod ydy atal llanw troseddu, a dod â phlismona gweledol yn y gymuned yn ôl.
Mi lansiodd Adnewyddu Bangor ym mis Mawrth eleni, fel dull amlasiantaeth er mwyn ymdrin â throseddau difrifol a threfnedig ym Mangor. Hon ydy’r fenter diweddaraf o’i math yng Ngogledd Cymru, ac mi lansiodd yn dilyn llwyddiant y prosiect yn y Rhyl y llynedd, a welodd ostyngiad o 14% mewn troseddau a gofnodwyd.
Fel rhan o Adnewyddu Bangor, mae tîm penodol o swyddogion yn cynnal patrolau ar hyd y Stryd Fawr ac ardaloedd o bryder, yn ogystal ag ymgysylltu efo busnesau lleol ynglŷn â’r materion maen nhw’n eu hwynebu yn y ddinas. Mae partneriaid yn cydweithio er mwyn ymdrin â materion allweddol wedi’u nodi gan y gymuned lleol, gan gynnwys cyflenwi cyffuriau, graffiti, ymddygiad gwrthgymdeithasol, yfed ar y stryd a thrais rhywiol.
Mae’r bartneriaeth yn gweld cyfuniad o ymgyrchoedd amlwg penodol yr heddlu a thactegau plismona cudd, ynghyd â gweithgaredd a chefnogaeth gan bartneriaid, a mewnbwn gan breswylwyr er mwyn gwarchod cymunedau ac atal grwpiau trosedd trefnedig rhag gweithredu.
Yn ogystal â Heddlu Gogledd Cymru, mae partneriaid eraill sy’n ymwneud ag Adnewyddu Bangor yn cynnwys: Gwasanaethau Trwyddedu, Safonau Masnach, Plant a Digartrefedd Cyngor Gwynedd, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, cymdeithasau tai, Camddefnyddio Sylweddau BIPBC, Gwasanaeth Prawf Cymru, a busnesau, grwpiau cymunedol a phreswylwyr lleol Bangor.
Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu’r Comisiynydd a Arwel Hughes, Uwcharolygydd Heddlu Gogledd Cymru dros Wynedd ac Ynys Môn; Arolygydd Ardal, Kate Williams; a’r Rhingyll Hel Dal Cryfhau; Liam Carr. Cerddodd y grŵp drwy Stryd Fawr y ddinas, cymdogaeth Hirael a pharc newydd Prifysgol Bangor, Parc y Coleg, a agorodd y mis hwn.
Mi glywodd y CHTh bod nifer o arestiadau wedi’u cyflawni fel rhan o Adnewyddu Bangor, ac mae’r tîm wedi canolbwyntio’u hymdrechion ar gynyddu amlygrwydd ar y Stryd Fawr, Hirael a Maesgeirchen, yn ogystal â chynnal nifer o warantau cyffuriau yn yr ardal.
Ers dechrau mis Mawrth, mae 70 unigolyn wedi’u harestio mewn cysylltiad â throseddau, gan gynnwys cyflenwi cyffuriau, gyrru o dan ddylanwad cyffuriau, ymddygiad treisgar, gwyngalchu arian, dwyn ac a bod yn eisiau o dan gwarant.
Mae’r tîm hefyd wedi cynnal 175 digwyddiad stopio a chwilio rhagweithiol, a gafodd 81 canlyniad cadarnhaol.
Mae 13 gwarant wedi’u cyflawni, 13 ymgyrch amlasiantaeth wedi’u cyflawni a 3 gorchymyn cau wedi’u hawdurdodi. Mae dros £160,000 o gyffuriau Dosbarth A a B wedi’u hatafaelu.
Mae digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi lleihau o 7.8% a throseddau cyllyll wedi gostwng yn sylweddol o 50%. Mae unigolion o dan amheuaeth wedi’u cyhuddo neu wedi derbyn datrysiadau y tu allan i’r llys am ddwyn o siopau wedi cynyddu o 22.3%.
Ym mis Ebrill, mi gynhaliwyd ymweliadau ar y cyd â 10 busnes ynghanol y ddinas, lle gweithiodd yr heddlu efo cydweithwyr o’r gorfodaeth mewnfudo, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a Swyddogion Safonau Masnach a Gorfodaeth Tai Cyngor Gwynedd. Nod yr ymweliadau oedd ymgysylltu efo busnesau ynglŷn â’r fenter a gwirio bod cydymffurfiaeth ag arferion cyfreithlon yn digwydd. O ganlyniad i’r ymgyrch, mi gyhoeddwyd gorchmynion troi allan i ddau eiddo am dorri amodau preswyl a rheoliadau tân.
Mae nifer o Gadetiaid gwirfoddol yr Heddlu hefyd wedi’u canmol am eu gwaith fel rhan o’r fenter amlasiantaeth, ac wedi helpu’r heddlu drwy ddosbarthu pamffledi ynglŷn ag Adnewyddu Bangor i gyfeiriadau yn y ddinas, ac er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth ynglŷn â’r gwaith parhaus yn ymdrin â throsedd difrifol a threfnedig yn yr ardal.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae Bangor yn ddinas fywiog efo cymaint i’w gynnig. Mae ganddo gyfleusterau addysgol ac iechyd rhagorol, a lleoliad prydferth rhwng y mynyddoedd a’r môr. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diweddar mae’r ddinas wedi wynebu anawsterau, yn unol â’r trafferthion ariannol ehangach ledled y wlad.
“Efo hyn mewn golwg, mae’n hanfodol bod gwahanol asiantaethau’n cydweithio efo trigolion Bangor, er mwyn helpu troi anffodion economeg a chymdeithasol y ddinas. Mae mentrau fel Adnewyddu Bangor yn hanfodol wrth gyflawni hyn, ac mi ‘roeddwn i wrth fy modd yn ymweld a chlywed am lwyddiant y rhaglen hyd yn hyn.
“Mae’r canlyniadau calonogol yn dweud yr hanes i gyd, efo gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau cyllyll, a chynnydd mewn unigolion o dan amheuaeth yn cael eu cyhuddo neu’n derbyn datrysiadau y tu allan i’r llys mewn meysydd megis dwyn o siopau, trais a bod mewn meddiant cyllyll. Mi ddylai swyddogion a staff yr heddlu gael canmoliaeth am eu hymdrechion. ‘Dwi hefyd yn croesawu’r newyddion cadarnhaol sy’n dod yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, ac wrth gael cefnogaeth a buddsoddiad cryf ac angenrheidiol gan Lywodraeth y DU fel rhan o’i gwarant plismona’r gymdogaeth.
“Mae hyn i gyd yn adlewyrchu’r blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru, sef presenoldeb plismona’r gymdogaeth leol, cynorthwyo dioddefwyr, cymunedau a busnesau, a system cyfiawnder teg ac effeithiol.”
Dywedodd Arolygydd yr Ardal, Kate Williams: “’Da ni’n hynod o falch o’r gefnogaeth mae Adnewyddu Bangor wedi’i gael gan bartneriaid a phreswylwyr y ddinas.
“Ers mis Mawrth, mae’r tîm wedi mynd i’r afael â’r materion sy’n achosi’r pryder mwyaf yn y ddinas, gan gynnwys trais, cyflenwi cyffuriau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, a dwyn o siopau.
“’Da ni’n falch o ddweud, o ganlyniad i’r gwaith hwn, bod y nifer o ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol a riportiwyd wedi gostwng o 7.8%, a hysbysiadau o droseddau cyllyll wedi gostwng o 50%.
“Mae canlyniadau cadarnhaol wedi cynyddu o 5.6%, sydd eto’n dangos ein hymrwymiad i ddal y rhai sy’n ceisio achosi niwed yn y ddinas yn atebol.
“Y gymuned sydd wrth galon y prosiect hwn, ac mae’r tîm a minnau wedi cael adborth gadarnhaol gan breswylwyr ynglŷn â theimlo’n ddiogel a chael tawelwch meddwl drwy’r gwaith sy’n parhau yn ardaloedd y Stryd Fawr, Maesgeirchen a Hirael.
“Mae Adnewyddu Bangor yn parhau, ac mi wnawn ni barhau i weithio’n agos efo sawl partner er mwyn gwneud Bangor yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld, wrth i ni symud ymlaen at gam nesa’r prosiect.”
Er mwyn darganfod mwy ynglŷn ag Adnewyddu Bangor a sut i riportio trosedd, ewch ar wefan Heddlu Gogledd Cymru: Tudalen gartref | Heddlu Gogledd Cymru