Dyddiad

Agorodd adnodd cymunedol newydd ei ddrysau yn swyddogol yn ardal Penmorfa (West Shore), Llandudno ddydd Gwener 24 Ionawr gyda'r nod o ddarparu cartref i grŵp gweithredu cymunedol lleol, man lle gall pobl ifanc fynd i ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â ffrindiau, a 'Chanolfan Glyd' i bawb yn ystod y tywydd oer. Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, yn cefnogi agor y ganolfan a'i nod o wasanaethu'r gymuned leol er mwyn brwydro yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref.
Mae'r ganolfan wedi'i lleoli mewn hen siop ar gornel Heol Alexandra a Heol Bryniau wrth ymyl Pont Maesdu ac mae wedi'i sefydlu gan y grŵp gwirfoddol lleol, Cyfeillion Stryd Mostyn (Friends of Mostyn St), a'u hadran ieuenctid, FoMS Kidz, sydd â llawer o aelodau ifanc yn dod o'r gymuned leol. Sefydlwyd Cyfeillion Stryd Mostyn ym mis Ebrill 2023 gyda'r nod o gyflwyno gweithgareddau yng nghanol tref Llandudno fel casglu sbwriel, paentio, garddio, gofalu cyffredinol a digwyddiadau cymunedol. Roedd teimlad cryf yn yr ardal y dylai pobl ifanc hefyd deimlo eu bod yn rhan o’r dref ac yn rhan o waith y grŵp, ac roedd llawer hefyd yn dymuno dangos faint maent yn gwerthfawrogi ac ymfalchïo yn eu cymuned. Felly, crëwyd FoMS Kidz ym Mhenmorfa i gefnogi gwaith Cyfeillion Stryd Mostyn o amgylch y dref. Ers hynny, mae dwsinau o'r bobl ifanc dan sylw wedi cymryd rhan yn rheolaidd yn casglu sbwriel ac yn gwneud gwaith cymunedol arall i helpu i gadw eu cymuned yn edrych fel pin mewn papur.
Bydd y ganolfan newydd yn gweithredu fel canolfan ar gyfer gwaith FoMS Kidz yn y gymuned a bydd hefyd yn cynnig lle ble gall y bobl ifanc gwrdd o dan oruchwyliaeth a mwynhau treulio amser gyda ffrindiau. Y gobaith yw y bydd hyn hefyd yn darparu gweithgareddau dargyfeiriol i unrhyw bobl ifanc a fyddai fel arall heb unrhyw beth i'w wneud ac, efallai, yn mynd i drafferthion.
Mae'r prosiect wedi bod yn bosibl drwy ymdrechion ar y cyd rhwng FoMS Kidz a Ffrindiau Stryd Mostyn, ynghyd ag arian a godwyd yn ystod y prosiect The Longest Yarn & More ym mis Hydref pan fu miloedd o bobl yn ymweld ag arddangosfa yn Eglwys y Drindod Sanctaidd yn Stryd Mostyn o olygfeydd o D-Day a grëwyd drwy ddefnyddio gwlân. Yn ogystal, mae Go North Wales, mewn partneriaeth â Holidaycottage.co.uk, ac Asda wedi rhoi cyfraniad hael i gefnogi FoMS Kidz a chreu'r cyfleuster, sydd hefyd yn cael ei gydnabod fel Canolfan Gynnes gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Dywedodd Clara-Rose Molloy, Cadeirydd FoMS Kidz: "Mae canolfan FoMS Kidz yn bodoli oherwydd gwirfoddolwyr ymroddedig, sy'n rhannu fy ngweledigaeth o greu lle diogel i blant ymfalchïo yn eu tref wrth ddysgu, tyfu a mwynhau bod yn blant. Gyda chefnogaeth amhrisiadwy busnesau lleol, rydym yn adeiladu dyfodol mwy disglair ac yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda'n gilydd."
Dywedodd Ginis Rivers o Gyfeillion Stryd Mostyn: "Mae Cyfeillion Stryd Mostyn yn falch iawn o'n pobl ifanc, eu teuluoedd a'u hymdrechion i fynd i'r afael â stigma ac ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy wasanaethu'r gymuned a chreu gweithgareddau hwyliog. Nid clwb ieuenctid yw hwn, ond lle diogel a chynnes lle gall ein pobl ifanc ddysgu sgiliau a magu hyder. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r bobl ifanc yn eu hymdrechion ac rydym yn gobeithio y bydd y ganolfan yn adnodd cymunedol gwerthfawr sydd ar gael ar gyfer yr ardal ehangach."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru: "Mae'n bleser cefnogi agor canolfan newydd FoMS Kidz a chlywed am ymroddiad y gwirfoddolwyr a'r gweithredwyr sydd wedi gwneud y prosiect hwn yn bosibl. Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan benderfyniad pawb a gymerodd ran i greu rhywbeth gwerthfawr i bobl leol a'r balchder y maent yn ei ddangos yn eu cymuned. Mae'r ffaith bod pobl ifanc yr ardal wedi dangos cymaint o frwdfrydedd dros wirfoddoli yn eu cymuned leol ac am sefydlu'r canolbwynt hwn fel canolfan ar gyfer eu gweithgareddau yn wych i'w gweld ac yn esiampl i lawer o gymunedau yng Ngogledd Cymru. Fel Comisiynydd, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod y cyfraniad y mae'n rhaid i'n pobl ifanc ei wneud, a pha mor benderfynol y mae llawer ohonynt i weld eu cymunedau'n daclus ac yn cael eu cadw'n dda, yn rhydd o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn croesawu pawb."
I ddysgu mwy am Gyfeillion Stryd Mostyn, a FoMS Kidz, ewch i: sexualviolencesupport.co.uk