Skip to main content

Cyflwyniad i etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd 2024

Bydd etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) yn cael ei gynnal ar 2 Mai 2024.

Rôl y CHTh yw goruchwylio'r heddlu yng Ngogledd Cymru a sicrhau bod anghenion cymunedol yn cael eu diwallu mor effeithiol â phosibl.

Mae gan y Comisiynydd bedair prif ddyletswydd, sef:

  • Gosod y blaenoriaethau ar gyfer plismona yng Ngogledd Cymru
  • Penderfynu ar y gyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru
  • Dal y Prif Gwnstabl yn atebol.
  • Gwrando ar farn y cyhoedd ynglŷn â phlismona.

Mae'r broses etholiadol yn dechrau gydag ymgeiswyr yn cynnig eu hunain ar gyfer y rôl. Yna mae'r ymgeiswyr yn ymgyrchu yn yr wythnosau yn arwain at ddiwrnod yr etholiad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr ymgeiswyr yn yr etholiad drwy ddilyn y ddolen hon: https://choosemypcc.org.uk/ (gwefan Saesneg)

Ar 2 Mai 2024, gall pleidleiswyr fynd i orsafoedd pleidleisio i fwrw eu pleidlais dros eu hymgeisydd CHTh o ddewis. Ar ôl i'r bleidlais gau, caiff y pleidleisiau eu cyfrif a'u dilysu a'r ymgeisydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n ennill yr etholiad.

Wedi eu hethol,  bydd y CHTh newydd yn cael eu henwi'n swyddogol ac yn tyngu llw, yn barod i gymryd eu swyddi a gwasanaethu am dymor o 4 blynedd gan lunio blaenoriaethau plismona. Yna byddant yn dechrau ffurfio, ymgynghori ac yna gweithredu eu Cynllun Heddlu a Throsedd ar ôl yr etholiad.

Heb gofrestru i bleidleisio? Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y gofrestr etholiadol er mwyn i chi allu pleidleisio yn yr etholiad.

Gwyliwch y cyflwyniad defnyddiol hwn i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd a’r broses etholiadol yma:

Cofrestru a phleidleisio – Dyddiadau pwysig

Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw dydd Mawrth 16 Ebrill 2024.

Cofrestru i bleidleisio

Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy'r post yw 5pm dydd Mercher 17 Ebrill 2024.

Cofrestru i bleidleisio drwy’r post

Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm dydd Mercher 24 Ebrill 2024.

Cofrestru i bleidleisio drwy ddirprwy

Pleidleisio

I bleidleisio mewn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu mae'n rhaid i chi fodloni’r gofynion canlynol:

  • Wedi cofrestru i bleidleisio.
  • Yn 18 oed neu hŷn ar ddiwrnod y bleidlais.
  • Yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd Gwyddelig, y Gymanwlad. Yn ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd neu’n ddinesydd tramor sydd wedi derbyn caniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu’n unigolyn nad oes arno angen caniatâd o’r fath.
  • Ddim yn destun anghymhwyster cyfreithiol i bleidleisio.

Prawf Adnabod i Bleidleisio

Os ydych chi’n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio bydd arnoch chi angen dangos prawf adnabod gyda llun i bleidleisio yn yr etholiad.


Rydym wedi cynhyrchu canllaw ar rôl Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yng Nghymru a sut maent yn gweithredu. Cliciwch ar y ddolen isod i ddysgu mwy:

Mae fersiwn darllen hawdd o’r canllaw hwn hefyd ar gael i’w ddarllen trwy glicio ar y ddolen isod:

APCC Infographic Cymraeg