Dyddiad
Un o gyfrifoldebau allweddol Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ydy dal y Prif Gwnstabl yn atebol ynglŷn â sut mae Heddlu Gogledd Cymru yn cyflawni ei ddyletswyddau. Mae craffu yn cymryd lle mewn amryw o ffyrdd, ac un o'r ffyrdd hynny ydy’r Bwrdd Gweithredol Strategol. Mi gynhaliwyd y cyfarfod diweddaraf ar 30 Hydref, pan wnaeth Andy Dunbobbin a’i dîm gyfarfod Prif Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru er mwyn adolygu cyflawniad yr Heddlu yn gyfan gwbl, gan gynnwys o ran y blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y CHTh.
Yn y bwrdd hwn, a gafodd ei gadeirio gan y CHTh, mi roddodd y Prif Gwnstabl ddiweddariad ar gyflawniad Heddlu Gogledd Cymru mewn tri prif faes:
- Ymgyrch Soteria
- Trais yn Erbyn Merched a Genethod
- Diogelwch y Ffyrdd
Mae Ymgyrch Soteria yn rhaglen ymchwil a newid wedi’i fuddsoddi gan y Swyddfa Gartref, efo’r nod o gynyddu graddfeydd cyhuddiadau ac euogfarnau am dreisio a troseddau rhywiol difrifol. Mi glywodd y Comisiynydd sut mae’r Heddlu wedi gwneud cynnydd ynglŷn â’r Model Gweithredu Cenedlaethol, a’r dull chwe colofn. Y chwe colofn ydy:
- Ymchwiliadau sy’n canolbwyntio ar y rhai o dan amheuaeth
- Y rhai sydd o dan amheuaeth dro ar ôl tro
- Dull cyfiawnder gweithdrefnol tuag at ymgysylltu â dioddefwyr
- Datblygu dysgu a llesiant swyddogion a staff
- Data a chyflawniad
- Fforensig Digidol
Mi wnaeth y Comisiynydd hefyd archwilio cynnydd y Cynllun Cyflawni Trais yn Erbyn Merched a Genethod Heddlu Gogledd Cymru. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi mabwysiadu fframwaith sydd wedi’i hadnewyddu, sy’n amlinellu sut wnawn nhw amddiffyn merched a genethod rhag trais; ymlid y rhai sy’n troseddu neu’n ceisio troseddu; atal troseddau rhag cael eu cyflawni; a pharatoi plismona ar gyfer gwelliant parhaus er mwyn diogelu merched a genethod yn ein cymunedau ledled Gogledd Cymru.
Mi gynhaliodd y Comisiynydd adolygiad Diogelwch y Ffyrdd. ‘Roedd y meysydd o dan sylw yn cynnwys data marwolaethau ac anafiadau difrifol, a deall y mathau o wrthdrawiadau angheuol, lleoliadau ac oedrannau gyrwyr. Mi edrychodd y Comisiynydd hefyd ar orfodaeth, gan gynnwys data ar orfodaeth troseddau, megis yfed neu gymryd cyffuriau a gyrru, goryrru a defnydd o ffonau symudol. Maes arall o dan sylw oedd ymateb Heddlu Gogledd Cymru i’r defnydd o feiciau oddi ar y ffordd, beiciau a sgwteri trydanol, yn ogystal â’r defnydd o Gwylio Cyflymder Cymunedol.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae’r Bwrdd Gweithredol Strategol yn rhoi’r cyfle i mi graffu cyflawniad y Prif Gwnstabl mewn meysydd allweddol, yn enwedig y rhai hynny sydd yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Mae ymgynghori cynnar efo’r cyhoedd ynglŷn â’r Cynllun newydd wedi fy ngalluogi i gael blas ar beth sydd yn bwysig i gymunedau, ac mi adlewyrchwyd hyn yn y dull dadansoddi ddwfn i’r meysydd wnes i’w hadolygu.
“’Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi mabwysiadu Ymgyrch Soteria yn gynnar, ac mi ‘roeddwn i eisiau dealltwriaeth gyflawn o sut mae’r Model Gweithredu Cenedlaethol yn cael ei osod yng Ngogledd Cymru. Mae Ymgyrch Soteria yn hanfodol ar gyfer cyflawni gwelliant gwirioneddol a pharhaus, a newid trawsffurfiol ar draws y system cyfiawnder troseddol. Ond drwy wella cymorth i ddioddefwyr a sicrhau bod mwy o droseddwyr yn dod gerbron eu gwell gallwn ni gyflawni hyn. Mi fyddaf yn ailymweld â’r model a’r dull chwe colofn yn barhaus er mwyn gwella’r canlyniadau cyfiawnder i ddioddefwyr treisio a throseddau rhywiol difrifol.
“Yn ail, mi wnes i archwilio cynllun gweithredu VAWG yr Heddlu. Ym mis Chwefror, mi wnaeth yr Ysgrifennydd Cartref gynnwys VAWG yn y Gofyniad Plismona Strategol (SPR), sy’n gosod y bygythiadau cenedlaethol i ddiogelwch cyhoeddus. Golyga hyn dylai ymatebion Heddlu Gogledd Cymru i VAWG fod yn gyfartal â’r rhai i derfysgaeth a throseddau difrifol a threfnedig. Mi ‘roeddwn i eisiau sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru yn gwrando ar ddioddefwyr ac yn clywed eu lleisiau, fel bod y cynllun VAWG yn gweithio tuag at beth sy’n bwysig iddyn nhw. Mae gwaith rhagorol wedi ei gyflawni yn y maes hwn, ond mae bob amser mwy i’w wneud. Eto, mae hwn yn faes mi fyddai’n cadw llygad barcud arno’n barhaus.
“O ran archwilio diogelwch y ffyrdd, mae Gogledd Cymru wedi gweld gostyngiadau sylweddol yn y nifer o ddamweiniau angheuol ar draws y rhanbarth, sydd wedi gweld lleihad o 19%. Mi glywais hefyd am Ymgyrch Darwen, yr ymgyrch Gymru gyfan sy’n rhedeg o’r gwanwyn hyd at yr hydref, efo’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth ynglŷn â diogelwch beiciau modur a lleihau damweiniau ar y ffyrdd. Maes arall mae’r cyhoedd wedi fy hysbysu sy’n achosi pryder iddyn nhw ydy beiciau oddi ar y ffordd, a beiciau a sgwteri trydanol. Mae’r Heddlu yn datblygu ffyrdd o ymdrin â phan mae’r rhain yn cael eu defnyddio mewn ffordd gwrthgymdeithasol, dull ‘dwi’n ei gefnogi’n llwyr.
“Fel CHTh Gogledd Cymru, mi hoffwn eto dawelu meddwl y cyhoedd y byddaf i’n parhau i archwilio cyflawniad yr Heddlu yn graff, a gweithio’n agos efo’r Prif Gwnstabl er mwyn cynorthwyo gwaith sydd ar y gweill.”