Skip to main content

Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ymweld â Chaergybi i gweld mesurau i frwydro yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau busnes

Dyddiad

Dyddiad

Ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, a Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Wayne Jones â Chaergybi, Ynys Môn i siarad ag aelodau o'r tîm plismona cymdogaeth lleol am fesurau sydd ar waith i frwydro yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.  

Yng nghwmni'r CHTh roedd Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer Ynys Môn Wayne Francis, ynghyd â chydweithwyr, y Rhingyll Chris Burrow a Maggie Marshall a Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Kelly Tatlock. Aeth y grŵp ar daith gerdded o gwmpas canol y dref a thrafod ymdrechion plismona diweddar o amgylch adroddiadau diweddar o ymddygiad gwrthgymdeithasol a oedd wedi bod yn effeithio ar y gymuned. Gwelodd y wardiau sy'n cwmpasu Caergybi gynnydd mewn adroddiadau, yn fwyaf arbennig ym mis Chwefror lle bu cynnydd mewn achosion o eiddo a busnesau wedi'u targedu gydag wyau, a grwpiau mawr o bobl ifanc yn dychryn eraill yng nghanol y dref. 

Roedd y daith gerdded yn cynnwys lleoliadau fel Gorsaf Heddlu Caergybi, Stryd Stanley ac ardal Morawelon, a'r orsaf reilffordd. Rhoddodd yr Arolygydd Francis, a oedd gyda'r tîm, fewnwelediadau i'r dull plismona rhagweithiol, gwelededd uchel parhaus. Bydd hyn yn cael ei gefnogi trwy weithio gyda grwpiau cymunedol lleol, busnesau, cyngor y dref a'r ysgolion ar sawl menter gan gynnwys digwyddiadau sydd wedi'u hanelu'n benodol at bobl ifanc leol. 

Roedd yr ymweliad yn cyd-daro ag Wythnos Ymwybyddiaeth Partneriaeth Genedlaethol Lleihau Troseddau Busnes (BCRP), gan roi cyfle i drafod heriau troseddu lleol. Roedd trafodaethau yn canolbwyntio ar y mathau o droseddau busnes sy'n gyffredin yn yr ardal, yn bennaf yn ymwneud ag ymddygiad niwsans mewn siopau o amgylch y dref. Archwiliodd y grŵp strategaethau i annog busnesau lleol i roi gwybod am ddigwyddiadau, fel trwy 101, fel y gall yr heddlu gael gwell darlun o'r sefyllfa yn yr ardal. Roedd hon yn alwad a bwysleisiwyd gan y CHTh.  

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: "Mae ein hymweliad â Chaergybi yn tanlinellu ein hymrwymiad i ddeall a mynd i'r afael â'r heriau penodol sy'n wynebu'r gymuned. Mae presenoldeb plismona cymdogaeth lleol yn flaenoriaeth allweddol yn fy nghynllun i frwydro yn erbyn troseddu yng Ngogledd Cymru ac roeddwn yn falch o glywed bod y tîm lleol yng Nghaergybi yn gweithio'n galed i gadw trigolion a'u cymuned yn ddiogel.  

"Fodd bynnag, mae'r achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a adroddwyd yn bryder, ac rydym yn ymroddedig i weithio'n agos gyda'r Llu, busnesau a thrigolion i ddatblygu atebion wedi'u targedu. Byddwn yn annog pob preswylydd i roi gwybod am y digwyddiadau hyn pan fyddant yn digwydd fel bod yr heddlu yn gallu gweithredu arnynt." 

Dywedodd Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Wayne Francis: "Roedd y daith gerdded yn gyfle i roi persbectif i'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar yr heriau rydyn ni'n eu hwynebu yng Nghaergybi ond hefyd ar y cyfleoedd enfawr sydd gan y dref.  

"Rydym yn edrych i ddatblygu ymyriadau sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan ganolbwyntio'n enwedig ar ymgysylltu â phobl ifanc a chefnogaeth gymunedol. Ein nod yw gweithio ar y cyd i leihau troseddu a chreu amgylchedd mwy diogel i drigolion a busnesau." 

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog trigolion a busnesau i roi gwybod am unrhyw achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu. Gallwch roi gwybod am drosedd drwy ffonio 101 ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn argyfwng, ffonio 999 rhag ofn argyfwng neu ddefnyddio'r offeryn adrodd ar-lein yn https://www.heddlugogleddcymru.police.uk/police-forces/north-wales-police/areas/live-chat/