Dyddiad

Yn 2024, mi wnaeth o gwmpas 2.3 miliwn o bobl yn y DU ddioddef rhyw fath o gam-drin domestig. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae hyn yn cynnwys 1.6 miliwn o ferched (8.5% o’r boblogaeth) a 760,00 o ddynion. Ar gyfartaledd, mae’n cymryd 7 cais cyn i ddioddefwr cam-drin domestig fedru gadael, unwaith ac am byth.
Y darlun cenedlaethol pryderus hwn oedd y cefndir i ymweliad y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Andy Dunbobbin, ar 4 Mawrth. Mi ymwelodd â’r Uned Diogelwch Cam-drin Domestig (DASU), sy’n sefydliad wedi’i gomisiynu gan y CHTh er mwyn darparu ymyraethau proffesiynol a phenodol wedi’u cydlynu ar gyfer pobl sy’n cael profi cam-drin domestig ledled Gogledd Cymru. Nid oes modd datgelu lleoliad yr ymweliad, oherwydd natur gyfrinachol gwaith DASU, ac er mwyn gwarchod dioddefwyr, ond mi ymwelodd y CHTh ag un o brif drefi arfordir Gogledd Cymru.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r sefydliad wedi derbyn 575 atgyfeiriad am ei wasanaethau ar draws Gogledd Cymru. Mae 86 lle ar gael mewn llochesau ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig, ac mae gan DASU 50 o’r llefydd hyn ei hun. Dioddefwyr trais domestig sydd angen y llefydd yn bennaf, ond mi fydd gan lawer o’r cleientiaid anghenion eraill, megis ystyriaethau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, camfanteisio a thrais rhywiol. Mae gan DASU hefyd unedau anghenion cymhleth penodol yn siroedd Conwy, Dinbych a’r Fflint, sydd bob amser yn llawn.
Yn ystod yr ymweliad, mi ‘roedd y CHTh yng nghwmni Rheolwr Cyfiawnder Troseddol ei swyddfa, Rhian Rees-Roberts. Mi wnaeth y ddau ohonyn nhw gyfarfod efo Prif Swyddog Gweithredol DASU, Gaynor McKeown, a Phennaeth Lochesau DASU, Rachel Roberts. Mi drafododd y grŵp y nifer fawr o lefydd lloches sydd ar gael i ddioddefwyr trais domestig yng Ngogledd Cymru, a’r gefnogaeth ariannol sydd wedi’i dderbyn gan swyddfa’r CHTh a Llywodraeth Cymru ar gyfer cynorthwyo dioddefwyr yng Ngogledd Cymru. Eleni, mae cyfanswm o £2.6 miliwn wedi ei roddi mewn grantiau cyfalaf, ar gyfer unedau lloches, ailwampio, swyddfeydd ac eitemau eraill, megis offer gwella diogelwch. Yn dilyn y cyfarfod hwn, mi wnaeth y grŵp ymweld ag adeilad sy’n gwasanaethu fel lloches tymor byr, lle mae dwy ystafell hunangynhwysol ar gyfer dioddefwyr sy’n ffoi rhag trais domestig. Mi allen nhw aros yno hyd at 72 awr, wrth geisio canfod lloches tymor hir ar eu cyfer.
Mae’r llefydd lloches tymor byr ar gael ar hyn o bryd yn DASU yn un o’u math yn y DU, oherwydd eu bod yn cynnig lloches am hyd at 72 awr ar gyfer cleientiaid sydd methu mynd i le tymor hir yn syth. Yn aml, mae hyn oherwydd nad ydy darparwyr llochesau eraill yn derbyn atgyfeiriadau yn ystod y nos neu dros y penwythnos. Weithiau, mae oherwydd bod gennyn nhw anifeiliaid anwes neu feibion hŷn, ac yn gorfod disgwyl tan bod lle ar gael gan DASU, pan mae rhywun arall yn symud i’w cartref parhaol newydd.
Nid ydy llawer o lochesau yn derbyn dynes i loches gymunedol os oes ganddi fab sy’n 12 oed neu’n hŷn, sy’n rhoi dim dewis iddi heblaw dychwelyd adref, neu gadael y plentyn efo’r troseddwr. Mae DASU yn derbyn cleientiaid efo anifeiliaid anwes, meibion hŷn, y rhai efo cyfrifoldebau gofalu am berthynas hŷn, y rhai efo anghenion cymhleth, anghenion iechyd meddwl, neu euogfarnau.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mi wnaeth y cyfleusterau ar gael yn DASU er mwyn cynorthwyo dioddefwyr trais domestig greu argraff arna i. Un o fy mlaenoriaethau allweddol yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru ydy helpu dioddefwyr. O fewn y prif nod hwn, mae dod â thrais yn erbyn merched a genethod i ben yn hanfodol – yn ogystal â dod â’r troseddwyr o flaen eu gwell, a bod y dioddefwr yn teimlo bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni.
“Mi ‘roeddwn i’n falch cael clywed faint o lefydd sydd ar gael mewn llochesau yn y rhanbarth, er mwyn helpu dioddefwyr wrth iddyn nhw ddechrau bywyd newydd a rhyddid oddi wrth y troseddwr. ‘Dwi’n falch fod fy swyddfa a Llywodraeth Cymru wedi cefnogi gwaith DASU. Mi ddylai DASU fod yn falch iawn o’r nifer o lefydd lloches maen nhw wedi’u creu ar gyfer dioddefwyr, a ‘dwi’n gobeithio fydd pobl yn ystod eu cyfnodau mwyaf bregus yn canfod cryfder, tawelwch meddwl a gobaith yn eu preswylfa newydd.”
Dywedodd Gaynor McKeown, Prif Swyddog Gweithredol DASU: “Mi ‘roedd adroddiadau a sylwadau diweddar yn y cyfryngau wedi peri pryder i mi, ynglŷn â diffyg llefydd lloches ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig yng Ngogledd Cymru. Mi ‘roeddwn i’n teimlo’i fod yn bwysig fy mod yn ei gwneud yn eglur bod cefnogaeth helaeth ar gael ar gyfer dioddefwyr. Dyna pam wnes i wahodd y CHTh yma er mwyn gweld ein preswylfa, ac er mwyn amlygu bod dros 80 o lefydd ar draws y rhanbarth, lle gallai dioddefwyr gael cymorth. Mae hyn yn cynnwys nifer o lefydd lloches penodol ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig sydd efo’r anghenion mwyaf cymhleth a’r rhai efo nifer o anghenion cymhleth. Mae’r darpariaeth ychwanegol hyn wedi’i wireddu drwy gefnogaeth grant y CHTh a Llywodraeth Cymru.
“’Dwi’n hynod o falch o’r berthynas wych sydd gennym ni efo Heddlu Gogledd Cymru, ac o’r graddau mawr ‘da ni’n cydweithio er mwyn cynorthwyo dioddefwyr. Os hoffai unrhyw ffigwr gwleidyddol gysylltu efo fi er mwyn gweld yr hyn ‘da ni’n ei gynnig a’i gyflawni yn DASU, mi fuaswn i’n falch o helpu a dangos iddyn nhw’r gwasanaeth a’r gefnogaeth rhagorol sydd ar gael i’n dinasyddion ni.”
Mae DASU yn rhedeg nifer o Siopau Un Stop ar draws siroedd Gogledd Cymru a 50 o lefydd lloches. Mae ganddyn nhw dros 30 mlynedd o brofiad o ddarparu gwasanaethau arbenigol, proffesiynol, yn rhad ac am ddim ac o ansawdd ar gyfer merched, dynion a’u plant sydd yn neu wedi cael profiad o gam-drin domestig. Mae hyn yn eu galluogi nhw fyw mewn cymunedau heb ofn, gan wella’u gallu i reoli eu diogelwch a’u lles eu hunain. Mae’r gwasanaethau yn cynnwys Eiriolwyr Cam-drin Domestig Annibynnol, ymyrraeth mewn argyfwng, allgymorth ac ailsefydlu, preswylfa lloches diogel, eiriolaeth a gwasanaethau plant a phobl ifanc.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â DASU, ewch ar: www.dasunorthwales.co.uk