Skip to main content

Cynnydd perfformiad o dan y chwyddwydr yng nghyfarfod craffu diweddaraf Heddlu Gogledd Cymru

Dyddiad

Dyddiad
SEB

Cyfrifoldeb allweddol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (CHTh) Andy Dunbobbin yw dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am sut mae Heddlu Gogledd Cymru yn cyflawni ei ddyletswyddau. Mae gwaith craffu yn digwydd mewn amrywiaeth eang o fforymau, un o'r prif ffyrdd yw drwy'r Bwrdd Gweithredu Strategol. Cynhaliwyd y bwrdd diweddaraf ddydd Mawrth 18 Chwefror, lle cyfarfu'r Comisiynydd a'i dîm â Phrif Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru i adolygu perfformiad cyffredinol yr Heddlu, gan gynnwys y blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y CHTh.

Yn y bwrdd hwn, a gadeiriwyd gan y CHTh, rhoddodd y Prif Gwnstabl, Amanda Blakeman ddiweddariad ar archwiliad effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a chyfreithlondeb yr heddlu (PEEL) ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru. Cynhaliwyd hyn gan Arolygaeth Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS). Mae arolygiadau PEEL yn asesu pob heddlu yng Nghymru a Lloegr, gan roi dyfarniadau graddedig ar draws sawl cwestiwn craidd.

Clywodd y Comisiynydd a'i dîm ymateb y Prif Gwnstabl i adroddiad arolygu PEEL ar draws yr holl feysydd arolygu, ac yn benodol y tri maes a raddiwyd fel rhai sydd angen eu gwella:

  • Ymchwilio Trosedd
  • Amddiffyn Pobl Fregus
  • Arweinyddiaeth a Rheoli'r Heddlu

Roedd archwilio'r meysydd hyn yn cynnwys clywed sut y gwnaed gwelliannau o ran hyfforddiant, llywodraethu ac adnoddau. Ynghyd â'r meysydd hyn, clywodd y Comisiynydd sut mae'r meysydd eraill o fewn PEEL, gan gynnwys Uniondeb Data Trosedd - a raddiwyd fel rhagorol - yn cael eu hadolygu'n barhaus i sicrhau bod gwasanaethau i ddioddefwyr yn rhedeg fel thema graidd drwy bob maes plismona.

Craffodd y Comisiynydd hefyd ar gynnydd Heddlu Gogledd Cymru yng nghyswllt Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol (SOC). Roedd hyn yn rhan o waith craffu parhaus yn dilyn arolygiad ar wahân i HMICFS ym mis Tachwedd 2023. Roedd hyn yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • Sicrhau bod staff yn deall pwysigrwydd mynd i'r afael â bygythiadau sy'n dod i'r amlwg gan SOC.
  • Cynyddu gallu'r Heddlu i ddeall bygythiadau sy'n dod i'r amlwg a chofnodi arfer da i wella perfformiad.
  • Hyfforddiant ar gyfer timau plismona lleol.
  • Mwy o ffocws ar weithgarwch ar draws Gogledd Cymru.
  • Y ffordd y mae’r Heddlu'n gweithio gyda phartneriaid lleol i weithredu y fenter Hel, Dal a Chryfhau ymhellach - cynllun yw hwn i adeiladu gwytnwch cymunedol, gwella hyder ac ymddiriedaeth yn yr Heddlu, a gwneud ardal yn le mwy diogel i fyw.
  • Sut y bydd data'n cael ei ddefnyddio i dargedu troseddwyr a gyrru atal.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: "Rwy'n parhau i ddefnyddio'r Bwrdd Gweithredol Strategol i roi cyfle i mi graffu ar sut mae'r Prif Gwnstabl yn perfformio mewn meysydd allweddol, yn enwedig y rhai yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.

"Rwy'n gwybod, bod y cyhoedd wedi bod yn pryderu am agweddau ar yr arolygiad PEEL diweddar, lle nodwyd bod angen i'r heddlu wella mewn rhai meysydd. Pan gyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Rhagfyr y llynedd, dywedais nad oedd gennyf unrhyw amheuaeth bod y Prif Gwnstabl eisoes yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r materion a godwyd. Felly, roedd hi ond yn briodol, cyn gynted â phosibl, i mi graffu ar ei chynlluniau i wella perfformiad yn y meysydd y nodwyd eu bod angen eu gwella. Derbyniais ddiweddariad cynhwysfawr hefyd ar feysydd eraill y broses arolygu PEEL.

"Cefais sicrwydd bod y Prif Gwnstabl, yn parhau i yrru ymlaen nifer o ffrydiau gwaith sy'n mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn enwedig o ran ymchwilio i droseddau ac amddiffyn pobl fregus. Bydd fy nhîm a minnau'n parhau i ddadansoddi'r meysydd hyn i wirio bod y cynnydd yn parhau.

"Mi wnes i hefyd graffu ar gynllun gwaith yr Heddlu mewn perthynas â SOC. Mae hyn yn rhan o fy adolygiad parhaus o'r ardal hon yn dilyn yr arolygiad i SOC yn 2023. Rwyf wedi cael sawl sesiwn friffio ar y cynnydd o ran mynd i'r afael â materion cynnar a godwyd ac edrychaf ymlaen at yr ail-arolygiad a fydd yn cael ei gynnal gan HMICFS yn fuan. Roeddwn yn fodlon bod yr Heddlu'n cymryd camau i wneud SOC yn fusnes i bawb wrth fynd i'r afael â bygythiadau difrifol i'n cymunedau.

"Fel CHTh ar gyfer Gogledd Cymru, rwyf am roi sicrwydd eto i'r cyhoedd y byddaf yn parhau i graffu ar berfformiad yr Heddlu ac yn gweithio'n agos gyda'r Prif Gwnstabl i gefnogi'r gwaith parhaus."

Gall preswylwyr ddysgu mwy am y Bwrdd Gweithredol Strategol a darllen cofnodion o gyfarfodydd blaenorol ar wefan SCHTh yma: Craffu ar Wasanaethau Plismona | Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru (northwales-pcc.gov.uk)