
Yn ystod gwyliau'r Pasg ar 22 Ebrill, ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin â Chanolfan Hamdden David Hughes ym Mhorthaethwy i weld sut mae prosiect gweithgareddau gwyliau i bobl ifanc yn defnyddio rhai o enillion anghyfreithlon troseddwyr i ariannu prosiectau lleol yng Ngogledd Cymru drwy'r gronfa Eich Cymuned, Eich Dewis.
Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn cael ei benderfynu trwy bleidlais gyhoeddus ac yn cael ei gefnogi gan y CHTH, Heddlu Gogledd Cymru, ac Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (PACT). Dros y deuddeg mlynedd diwethaf, mae Eich Cymuned, Eich Dewis wedi rhoi bron i £660,000 i 214 o brosiectau sy'n gweithio i leihau troseddu yn eu cymdogaethau a chefnogi'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd. Daw'r cyllid yn rhannol o arian a atafaelwyd gan y llysoedd trwy'r Ddeddf Enillion Trosedd, gyda'r gweddill yn cael ei ddarparu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Un o enillwyr diweddar y fenter yw Cymuned CELS Community o Ynys Môn sy'n rhedeg prosiect Gwersylloedd Gwyliau Diogel ac Actif sy'n anelu at ymgysylltu â phobl ifanc ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y gwyliau, cyfnod pan nad oes gan blant strwythur ysgol a dim i wneud. Mae CELS yn hyrwyddo gwytnwch, hyder a chymeriad da fel sylfaen i addysg, lles a llwyddiant pobl ifanc yn y dyfodol.
Nod y prosiect oedd cynnal pum diwrnod o wersylla ledled Ynys Môn yn ystod gwyliau'r Pasg, gyda gweithgareddau strwythuredig, diddorol i blant cynradd, rhwng 5 ac 11 oed. Roedd y gwersylloedd yn cynnig amgylchedd diogel, dan oruchwyliaeth i blant gymryd rhan mewn gemau adeiladu tîm, gweithgareddau corfforol, heriau datrys problemau, a gweithdai creadigol. Cynhaliwyd y sesiynau rhwng 10-2 o'r gloch yn Llangefni, Pentraeth, Cemaes, Porthaethwy a Chaergybi.
Yn ystod ei ymweliad â Phorthaethwy, cyfarfu CHTh Dunbobbin a Dave Evans o PACT ag aelod o dîm CELS, Claire Doutch, ynghyd â'r hyfforddwyr Chris Harding a Cai ab Arfon a oedd yn arwain gweithgareddau yn ystod y sesiwn. Cymerodd y 25 o blant a oedd yn bresennol ran mewn gweithgareddau hwyliog gan gynnwys ymarferion adeiladu tîm, fel gêm o 'peg tag'. Dywedodd un mynychwr ifanc, Siwan 10 oed o Langristiolus: "Dwi'n hoffi dod yma gan fod gweithgareddau hwyliog yn mynd ymlaen ac, fel arall, byddwn i gartref yn gwneud dim. Mae'r clwb yn helpu pobl i wneud ffrindiau newydd ac yn helpu i'w cadw'n dawel yn ystod y gwyliau."
Dywedodd Dylan Jones o Gymuned CELS Community: "Roeddem yn falch o groesawu'r Comisiynydd a dangos iddo'r gwaith gwych rydyn ni wedi bod yn ei wneud gan ddefnyddio'r cyllid gan Eich Cymuned, Eich Dewis. Cynlluniwyd y rhaglen i gefnogi lles, sgiliau cymdeithasol a gwytnwch plant tra hefyd yn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy sicrhau bod ganddynt weithgareddau cadarnhaol i gymryd rhan ynddynt yn ystod gwyliau'r ysgol. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer plant o dan oedran ysgol uwchradd yn ein hardal, sy’n adael llawer heb gyfle i wneud gweithgareddau strwythuredig. Gall diffyg cyfleoedd dan oruchwyliaeth gynyddu'r risg y bydd plant yn treulio amser mewn amgylcheddau heb oruchwyliaeth, gan gyfrannu at gylch o ddatgysylltu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol posib. Ein nod oedd atal hyn ac rydym yn falch o fod wedi gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc Ynys Môn."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Roeddwn yn falch iawn o ymweld â Porthaethwy, i gwrdd â'r tîm o CELS ac i weld sut mae eu prosiect yn cefnogi pobl ifanc ar Ynys Môn. Fel Comisiynydd, mae cefnogi cymunedau a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn wydn yn rhan allweddol o fy nghynllun i frwydro yn erbyn troseddu yng Ngogledd Cymru, fel ag y mae lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy'n fater sy'n aml yn cael ei godi gyda mi gan drigolion lleol ledled y rhanbarth. Rwy'n falch ein bod ni'n gallu helpu sefydliadau fel CELS i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ar Ynys Môn ac ar draws Gogledd Cymru."
Dywedodd Cadeirydd PACT, Ashley Rogers: " Mae Eich Cymuned, Eich Dewis yn ffordd bwerus o helpu prosiectau llawr gwlad fel hyn gan CELS, sy'n galluogi pobl ifanc i gadw'n brysur y tu allan i'r ysgol yn ystod y gwyliau, gan leihau unigrwydd ac annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned. Fel Cadeirydd PACT, rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu eu cefnogi yn eu gwaith."
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Evans: "Mae Heddlu Gogledd Cymru yn falch o gefnogi Eich Cymuned, Eich Dewis a'r gwaith pwysig y mae grwpiau fel CELS yn ei wneud. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gynyddu yn ystod y gwyliau ac felly mae gwersylloedd fel hyn yn helpu pobl ifanc i gadw ffocws a bod yn gynhyrchiol ac i gadw i ffwrdd o weithgaredd llai cadarnhaol."
I ddysgu mwy am PACT, ewch i www.pactnorthwales.co.uk ac i ddysgu mwy am waith Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ewch i www.northwales-pcc.gov.uk.
I ddarllen mwy am Gymuned CELS Community ewch i: www.celscymru.com