
Gall pobl o dramor sy'n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru anfon arian at deulu neu ffrindiau gartref, naill ai'n achlysurol neu'n rheolaidd. Gan y gall unigolion ddibynnu ar yr arian maen nhw'n ei dderbyn, ac oherwydd bod y rhai sy'n ei anfon yn aml yn gweithio'n galed i'w ennill, mae'n hanfodol bod pobl yn gwneud hyn yn y ffordd fwyaf diogel posibl, gan gyrraedd y rhai gartref ac nid twyllwr.
Dyna’r neges y mis hwn mewn ymgyrch gan Get Safe Online, mewn cydweithrediad â Heddlu Gogledd Cymru a swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin. Mae Get Safe Online yn wasanaeth a gomisiynwyd gan Swyddfa’r CHTh a’r Heddlu lleol i rannu gwybodaeth a chyngor defnyddiol gyda phobl Gogledd Cymru.
Gyda hyn mewn golwg, mae Get Safe Online yn rhoi cyngor arbenigol i drigolion i'w helpu i wneud dewisiadau gwybodus o ran anfon arian dramor.
- Defnyddiwch ddarparwr taliadau awdurdodedig neu gofrestredig bob amser. Mae angen i bob cwmni yng Nghymru sy'n delio â throsglwyddiadau arian rhyngwladol fod naill ai wedi'i awdurdodi neu wedi'i gofrestru gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), gan roi diogelwch i chi.
- Gallwch anfon arian drwy wefannau neu apiau darparwyr taliadau awdurdodedig neu gofrestredig, neu lle mae ganddyn nhw, un o'u rhwydwaith o asiantau awdurdodedig, er enghraifft mewn siop leol. Gallai pobl hefyd ddefnyddio darparwr gwasanaeth talu electronig fel PayPal, cyn belled â'u bod yn gwybod bod y wefan neu'r ap maen nhw'n ei ddefnyddio yn ddilys.
- Peidiwch ag anghofio gofyn i aelodau’r teulu neu ffrindiau at bwy rydych chi’n anfon arian, am y ffordd hawsaf a mwyaf diogel iddyn nhw dderbyn yr arian.
- Os oes rhaid i chi ddefnyddio arian parod, peidiwch â'i ymddiried i unigolion, grwpiau neu 'gludwyr' nad ydych chi'n eu hadnabod, sy'n cynnig mynd ag ef yn ôl i deulu neu ffrindiau yn eich gwlad. Yn lle hynny, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud hynny trwy rywun rydych chi'n gyfarwydd ag ef ac rydych chi'n ymddiried ynddo'n llwyr.
- Diogelwch eich gwasanaeth trosglwyddo arian gyda chyfrinair sy'n unigryw i'r gwasanaeth hwnnw.
- Pan fyddwch chi'n trefnu taliad gyda darparwr cofrestredig, gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth a dogfennau penodol i brofi eich enw, dyddiad geni a chyfeiriad. Mae hyn yn ofynnol er mwyn i'r darparwr allu cydymffurfio â rheoliadau gwrth-wyngalchu arian a helpu i wneud eich taliadau'n fwy diogel. Peidiwch â darparu mwy o wybodaeth bersonol nag sy'n gwbl angenrheidiol.Gwiriwch bob amser fod eich taliad wedi dod i law drwy gysylltu â'ch teulu/ffrind yn uniongyrchol, yn ogystal â gwirio hysbysiadau cadarnhau gan y gwasanaeth.
- Peidiwch â thalu arian ar ran dieithryn. Gallech fod yn cymryd rhan yn anfwriadol mewn gwyngalchu arian, sy'n cario cosb drwm.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “Mae troseddau ariannol yn broblem gynyddol, ac mae angen i drigolion Gogledd Cymru a allai fod yn anfon arian dramor fod yn ymwybodol o’r peryglon a glynu wrth ddefnyddio asiantaethau a sianeli ag enw da. Mae’r math hwn o drosedd yn un a all effeithio ar lawer o aelodau’r cymunedau amrywiol sydd gennym yng ngogledd Cymru ac fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd y rhanbarth, rwyf am weld arian caled yr holl drigolion yn cael ei ddiogelu. O ystyried hyn, byddwn yn annog y rhai sydd mewn perygl i ddilyn yr awgrymiadau defnyddiol gan Get Safe Online.”
Ychwanegodd DC Rachel Roberts, Swyddog Diogelu Cam-drin Ariannol, Heddlu Gogledd Cymru: “Wrth anfon arian dramor, mae dewis darparwr taliadau trwyddedig a rheoleiddiedig yn hanfodol. Mae'n sicrhau bod eich arian yn cael ei ddiogelu, bod modd olrhain eich trosglwyddiad, ac nad ydych chi'n eich amlygu eich hun i dwyll na ffioedd cudd.”
Am bopeth sydd angen i chi ei wybod am anfon taliadau'n ddiogel, ewch I https://www.getsafeonline.org/personal/articles/safe-remittances/