Skip to main content

Newyddion

Aeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a'i Ddirprwy, Wayne Jones i ymweld â Swyddfa Cymorth Dioddefwyr yn Llanelwy i ddysgu mwy am eu gwaith yn y gymuned, am bwysigrwydd derbyn arian pellach o swyddfa'r CHTh.

Mae Get Safe Online yn lansio ymgyrch “Safer Kids”, er mwyn annog y plant ledled yr ardal i ddefnyddio’r we yn ddiogel ac yn hyderus. 

Mae clwb chwaraeon cadeiriau olwyn yng Ngogledd Cymru ar garlam diolch i'r cyllid a gymerwyd o elw troseddu. Fe wnaeth Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ymweld hefo Rhyl Raptors er mwyn gweld sut mae'r arian yn cael ei ddefnyddio er lles y gymuned, ac yn arbennig er mwyn helpu'r clwb ehangu eu storfa er mwyn llwytho a dadlwytho cadeiriau olwyn chwaraeon.

Mewn cyfarfod arbennig o Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ym Modlondeb, Conwy ar 21 Mehefin, ail-gadarnhawyd Wayne Jones fel Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru am gyfnod pellach o bedair blynedd.

Mae menter newydd wedi’i lansio heddiw yng Nghanolfan Busnes Conwy, Cyffordd Llandudno, efo’r nod o greu Gogledd Cymru heb drais. Ei henw ydy Strategaeth Ymateb i Drais Difrifol Gogledd Cymru, a  bwriad y cynllun ydy  gweithio efo cymunedau er mwyn atal a lleihau trais difrifol ar draws y rhanbarth.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (CHTh) Andy Dunbobbin a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal cymhorthfa gyngor yn llyfrgell y dref yn Neuadd y Farchnad ar Stryd Stanley ar gyfer trigolion Caergybi a’r cyffiniau o 2-4pm ar Orffennaf 24 fel rhan o'i ymgyrch i ddod â phlismona yn agosach at bobl yr ardal. 

Hefo Ewro 2024 yn yr Almaen a Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yr Haf ym Mharis yn prysur agosáu, mae cronfa newydd yn cael ei lansio sy'n ceisio helpu clybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Gogledd Cymru gynnal gweithgareddau i bobl ifanc y rhanbarth dros y gwyliau.

Mae prynu meddyginiaeth ar-lein yn gyfleus ond mae angen gofal. Er bod llawer o safleoedd yn gyfreithlon, mae'n hanfodol gwirio addasrwydd a diogelwch. Mae Heddlu Gogledd Cymru a Get Safe Online wedi lansio ymgyrch sy’n tynnu sylw at beryglon posibl prynu meddyginiaethau ar-lein

Ar 30 Mai yng Ngorsaf Heddlu'r Wyddgrug, dathlwyd partneriaeth rhwng Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Graham Fulford ("yr Ymddiriedolaeth"), sef sefydliad codi ymwybyddiaeth am ganser y brostad, er mwyn hyrwyddo sgrinio canser y brostad.

Ar 29 Mai, fe wnaeth Andy Dunbobbin, CHTh Gogledd Cymru, ymweld â Rockworks Academy. Mae'r sefydliad yn fenter gymdeithasol sydd wedi ymroi gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb, lle bynnag maen nhw'n byw a beth bynnag fo'u hamgylchiadau nhw.