Skip to main content

Hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd ar gyfer northwales-pcc.gov.uk

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’n gwefan yn northwales-pcc.gov.uk

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • PDFs a dogfennau eraill

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Rhowch wybod i ni os ydych yn cael problemau wrth ddefnyddio’r wefan hon neu os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille.

E-bost: opcc@northwales.police.uk

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

We’re always looking to improve the accessibility of this website. If you find any problems not listed on this page or think we’re not meeting accessibility requirements let us know. 

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Non-compliance with the accessibility regulations

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Nid yw rhai dogfennau PDF hŷn a dogfennau eraill yn bodloni safonau hygyrchedd, er enghraifft nid ydynt yn hygyrch i ddarllenydd sgrin.

Rydym yn deall nad yw’r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Fodd bynnag, os oes angen y wybodaeth arnoch mewn fformat arall, cysylltwch â ni.

Cyferbyniad WCAG 1.4.3

Mae'r ffocws sy'n weladwy yn creu cyferbyniad lliw gwael ar ddolenni lluosog ar ein tudalen we ac mae cyferbyniad lliw gwael pan fydd y ffocws yn weladwy ar y ddewislen ar frig ein tudalen we. Ein nod yw datrys y materion hyn erbyn mis Chwefror 2024.

Baich anghymesur

Ddim yn berthnasol.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Mae'r canlynol yn faterion nad oes angen i ni eu trwsio ar hyn o bryd. Mae'r rhain wedi'u heithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

PDFs a dogfennau eraill

Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ni PDFs gyda gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad i'n gwasanaethau, a ffurflenni wedi'u cyhoeddi fel dogfennau Word.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Sut y gwnaethom brofi'r wefan hon

Profwyd ein gwefan ddiwethaf ar 02 Ionawr 2023. Rydym yn defnyddio teclyn awtomataidd Publica11y i dynnu sylw at faterion hygyrchedd.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 02.01.2023. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 20.01.23. Disgwylir adolygiad nesaf ar 20.01.24.