Dyddiad
Ni wnaiff llawer o bobl ystyried beth sy’n digwydd i gŵn yr heddlu pan maen nhw’n cyrraedd diwedd eu gyrfaoedd, ac angen ymlacio a gorffwys ar ôl gweithio’n galed. Ond mae’r elusen gofrestredig, Paws Off Duty, a sefydlwyd yn 2015, yn ymroddedig i roi cymorth i gŵn Heddlu Gogledd Cymru sydd wedi ymddeol, ac yn gofalu amdanyn nhw wrth iddyn nhw heneiddio. Mae’n helpu darparu buddsoddiad tuag at anghenion y cŵn – o’u brechiadau i driniaeth fet, fel sganiau drud a meddyginiaeth – ac mae hefyd yn ariannu gofal diwedd bywyd pan mae bywyd gwasanaethu cyhoeddus y cŵn yn dod i ben.
Mi ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, â 'Paws Off Duty' ynghyd â staff o uned cŵn Heddlu Gogledd Cymru ar 11 Rhagfyr i ddysgu mwy am yr elusen a'i gwaith pwysig yn y ffordd y mae'n cefnogi'r cŵn heddlu sydd wedi ymddeol. Mi gafodd y CHTh hefyd gyfle i gyfarfod â rhai o'r cŵn sydd wedi elwa o gefnogaeth yr elusen a rhoi rhodd iddynt fel cydnabyddiaeth o'u gwaith. Daeth y rhodd gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar ôl iddo ddod i’w sylw’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd nad yw'r cŵn yn derbyn unrhyw arian ar ôl ymddeol. Bydd y rhodd yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i'r elusen a bywydau'r cŵn sydd wedi ymddeol.
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Cwnstabliaeth Swydd Gaer yn gweithio gyda'i gilydd fel rhan o Uned Cŵn yr Heddlu Gynghrair, sy'n cefnogi'r heddlu mewn ystod amrywiol o weithgareddau o frwydro yn erbyn Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol i gynorthwyo mewn materion diogelwch y cyhoedd. Pan fydd cŵn yr heddlu yn ymddeol o'r heddlu, rhwng 7 a 10 oed fel arfer, byddant naill ai'n aros gyda'r triniwr a'u teulu neu'n cael eu hailgartrefu i aelodau priodol o'r cyhoedd heb unrhyw gymorth ariannol. Gall ailgartrefu a gofalu am gi oedrannus fod yn gostus a dyna pryd mae Paws Off Duty yn camu i mewn. Mae'r arian a godir drwy ddigwyddiadau codi arian, rhoddion gan y cyhoedd, nwyddau a gwerthiant calendrau bob blwyddyn gyda lluniau o gŵn heddlu presennol ac wedi ymddeol. Mae'r calendrau hyn ar gael i'w prynu ar-lein ac yn y siop ar safle manwerthu Farm and PetPlace, sydd wedi bod yn allweddol wrth gefnogi'r elusen drwyddi draw.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Andy Dunbobbin: “’Roedd yn bleser ymweld â Paws Off Duty a gweld eu gwaith gwerthfawr. Mae cŵn heddlu yn rhan hanfodol o Heddlu Gogledd Cymru ac yn helpu gwneud ein rhanbarth yn le diogel drwy helpu drechu trosedd a gofalu am y preswylwyr. Mae’r cŵn wedi bod yn ymroddedig drwy gydol eu bywydau i wasanaethu’r cyhoedd, ac maen nhw’n haeddu ymddeoliad hapus, lle maen nhw’n parhau i gael cariad a gofal.
“Mae’n bwysig i mi, fel CHTh Gogledd Cymru, bod cŵn yr heddlu'n cael y gydnabyddiaeth maen nhw'n ei haeddu a phan fyddant yn ymddeol ac yn rhoi eu pawennau i fyny, y gallant fyw eu bywyd gorau. ‘Dwi’n diolch i Paws Off Duty a’r tîm am eu gwaith pwysig iawn!”
Dywedodd Jacqueline Edwards, Cwnstabl o Uned Gŵn Heddlu’r Gynghrair: “Mae’r elusen yn hynod o ddiolchgar am y rhodd caredig dderbyniwyd gan y CHTh a’i dîm. Mi wnaiff helpu’n fawr efo’r costau dyddiol parhaus o ofalu am ein cŵn sydd wedi ymddeol, wedi iddyn nhw ymroi eu bywydau i ofalu am gyhoedd Gogledd Cymru. Y peth iawn i’w wneud ydy parhau i edrych ar eu holau yn eu hymddeoliad.”
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Paws Off Duty, ewch i’w tudalen Facebook yma: www.facebook.com/profile.php?id=100075938978722
Er mwyn prynu calendr, defnyddiwch y ddolen ganlynol: Alliance Police Dog Calendar 2025 - Alliance Police Dog Calendar - Farm & Pet Place