Dyddiad
Ar 27 Tachwedd, cyfarfu gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr o bob rhan o Ogledd Cymru yng Nghanolfan Fusnes Conwy yng Nghyffordd Llandudno ar gyfer cynhadledd sy'n mynd i'r afael â niwed ar-lein. Cafodd y digwyddiad blynyddol Pawb yn Un, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn, ei gynnal gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (CHTh), Andy Dunbobbin.
Roedd y gynhadledd eleni yn canolbwyntio ar gryfhau'r ymateb amlasiantaeth i niwed ar-lein ledled Gogledd Cymru, gyda phwyslais arbennig ar strategaethau atal, mesurau amddiffynnol, a gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr. Roedd y digwyddiad yn llwyfan i werthuso gwaith cyfredol ac archwilio dulliau o wella diogelwch ar-lein ledled y rhanbarth.
Mae niwed ar-lein yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau maleisus a gynhelir trwy lwyfannau digidol, gan gynnwys bwlio seiber, twyll, camfanteisio rhywiol, troseddau casineb, a sgamiau twyll. Gall y bygythiadau hyn gael effeithiau emosiynol, seicolegol ac ariannol dinistriol ar ddioddefwyr o bob oed, gan ei gwneud yn hanfodol i sefydliadau gydweithio fynd i'r afael â'r heriau hyn yn effeithiol.
Daeth y cyfarfod â chynulleidfa amrywiol o weithwyr proffesiynol ynghyd, gan gynnwys arbenigwyr rheoleiddio, academyddion, darparwyr gwasanaethau cymorth a phersonél y gwasanaeth brys.
Yn dilyn anerchiad agoriadol a chroeso gan Stephen Hughes, Swyddfa Prif Swyddog Gweithredol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Andy Dunbobbin, clywodd y mynychwyr gyflwyniad gan Rhiannon-Faye McDonald, Pennaeth Eiriolaeth Sefydliad Marie Collins, a rannodd gipolwg ar effaith a thaith adferiad dioddefwyr cam-drin plant yn rhywiol â chymorth technoleg. Dywedodd wrth fynychwyr am ei thaith ei hun fel dioddefwr camfanteisio rhywiol ar-lein.
Roedd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau pellach yn ymwneud ag agweddau amrywiol ar ddiogelwch ar-lein, gan gynnwys gan Sarah Blight, Pennaeth Partneriaethau Strategol a Diogelwch yr AO yng Ngrŵp Diogelwch Ar-lein Ofcom, yn manylu ar weithrediad a goblygiadau'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Mae hon yn gyfres newydd o gyfreithiau sy'n amddiffyn plant ac oedolion ar-lein ac yn gosod ystod o ddyletswyddau newydd ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau chwilio, gan eu gwneud yn fwy cyfrifol am ddiogelwch eu defnyddwyr ar eu llwyfannau.
Bydd y Ddeddf yn rhoi dyletswyddau newydd i ddarparwyr weithredu systemau a phrosesau er mwyn lleihau'r risgiau y mae eu gwasanaethau'n cael eu defnyddio ar gyfer gweithgarwch anghyfreithlon, a thynnu cynnwys anghyfreithlon i lawr pan fydd yn ymddangos. Cafodd cyfraniad a threiddgarwch Ofcom, fel rheoleiddiwr cenedlaethol yn y maes gwaith hwn, eu gwerthfawrogi gan y gynulleidfa yng Ngogledd Cymru.
Rhannodd Cwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Sean Jooste o'r Uned Fforenseg Ddigidol, gipolwg hanfodol ar ddulliau fforensig o fynd i'r afael â niwed ar-lein, tra amlinellodd y Ditectif Brif Arolygydd Dros Dro Dafydd Curry strategaethau Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer nodi a mynd i'r afael â bygythiadau digidol. Cyflwynodd yr Ymchwilydd PhD Jodie Luker o Brifysgol Caerdydd gasgliadau ar effaith casineb ar-lein, tra bod Andrea Cooper a Sion Wyn Evans o Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn trafod gwendidau oedolion hŷn i sgamiau ar-lein.
Roedd diweddglo’r digwyddiad yn cynnwys fideo yn dogfennu profiad person oedrannus lleol fel dioddefwr twyll ar-lein trwy ddynwared. Rhoddodd cynrychiolwyr Cymorth i Ddioddefwyr yn y Ganolfan Cymorth i Ddioddefwyr yn Llanelwy gyd-destun a hwyluso trafodaeth grŵp yn edrych ar y themâu a'r gwersi o brofiad y dioddefwr.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Mae llwyddiant mawr cynhadledd Pawb i Un eleni yn dangos ymrwymiad ein rhanbarth i fynd i'r afael â materion fel niwed ar-lein ac eiriol dros ddioddefwyr yn uniongyrchol. Dwi’n gwerthfawrogi ac yn cefnogi'r dulliau arloesol sy'n cael eu datblygu ar draws gwahanol sectorau i amddiffyn ein cymunedau. Trwy ddod ag arbenigedd ynghyd gan wahanol sefydliadau a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o'r bwrdd yng ngogledd Cymru, ‘da ni’n adeiladu ymateb mwy cadarn i fygythiadau ar-lein. Mae'r straeon sy’n cael eu rhannu heddiw yn ein hatgoffa ni pam mae'r gwaith hwn mor hanfodol a dwi’n cael fy nghalonogi'n arbennig gan y cynnydd ‘da ni’n ei wneud wrth helpu ein trigolion mwyaf bregus ni."
Dywedodd Sioned Jacobsen, Uwch Reolwr Gweithrediadau Cymorth i Ddioddefwyr Cymru: "‘Da ni’n falch ein bod ni wedi cymryd rhan yn Pawb yn Un ac wedi rhannu neges bwerus sy'n dangos effaith ddinistriol twyll ar-lein, yn enwedig ar unigolion hŷn yma yng Ngogledd Cymru. Mae'r fideo gafodd ei gyflwyno gynno ni’n dangos pa mor gyflym mae posib troi bywydau wyneb i waered gan sgamiau soffistigedig, ond mae hefyd yn tynnu sylw at ein hymrwymiad ni o helpu dioddefwyr ailadeiladu eu hyder nhw a chael eu traed danynt. Trwy helpu'r rhai sydd wedi profi twyll ar-lein, ein nod ni ydy adfer eu gwytnwch personol."
Er mwyn darganfod mwy am yr help sydd ar gael i ddioddefwyr niwed a thwyll ar-lein, ewch ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd: https://www.northwales-pcc.gov.uk/cy/gwasanaethau-gomisiynwyd