Skip to main content

Plismona cymdogaethau a diogelu dioddefwyr, cymunedau a busnesau wrth galon cynllun newydd er mwyn trechu trosedd yng Ngogledd Cymru

Dyddiad

Dyddiad

Mi gafodd cynllun arwyddocaol newydd gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd er mwyn trechu trosedd yng Ngogledd Cymru dros y tair blynedd nesaf ei gymeradwyo ar ddydd Llun 27 Ionawr, gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru mewn cyfarfod ym Modlondeb, Conwy. Mi fydd Heddlu Gogledd Cymru rŵan yn gweithredu ar y Cynllun, ledled y rhanbarth.

Mae’r Cynllun newydd wedi’i ysgrifennu gan Mr Dunbobbin a’i dîm ar ôl ymgynghoriad eang yn ystod yr haf y llynedd efo preswylwyr Gogledd Cymru. Mi wnaeth dros 4,600 o bobl gymryd rhan yn yr arolwg ynglŷn â beth roedden nhw eisiau gweld yr heddlu’n ei wneud – ‘roedd hyn ddwywaith y nifer gymerodd rhan mewn ymgynghoriad tebyg yn 2021, efo ymatebion yn y Gymraeg wedi cynyddu bron i deirgwaith dros yr un cyfnod.

Mi gymeradwywyd y Cynllun gan y Panel Heddlu a Throsedd, corff sy’n cynnwys cynghorwyr ac aelodau annibynnol ledled Gogledd Cymru, sy’n craffu ar waith y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae tair blaenoriaeth allweddol yng nghynllun Mr Dunbobbin:

  • Presenoldeb plismona cymdogaethau lleol
    • Mae hyn yn cwmpasu troseddau difrifol a threfnedig; troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt; diogelwch y ffyrdd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB)
  • Cefnogi dioddefwyr, cymunedau a busnesau
    • Mae hyn yn cynnwys gweithredu ar drais yn erbyn merched a genethod; troseddau busnes a manwerthu; ymatebolrwydd (megis y cyflymder mae galwadau i’r heddlu yn cael eu hateb); troseddau casineb; caethwasiaeth fodern, masnachu pobl a throseddau mewnfudo trefnedig.
  • System cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol
    • Mae hyn yn ymwneud ag ymdrin â throseddwyr cam-drin domestig; datblygiad pellach o Banel Dioddefwyr Gogledd Cymru; ac mesurau ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a moeseg.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Andy Dunbobbin: “Cyn etholiad y CHTh ym mis Mai llynedd, mi wnes i unwaith eto gyhoeddi gwelediad eglur ar gyfer Gogledd Cymru mwy diogel drwy fy maniffesto. Mae’n welediad mae’r etholwyr wedi pleidleisio o’i blaid, mae’n welediad ‘dwi wedi ymgynghori ynglŷn â fo yn eang ers cael fy ailethol ac mae’n welediad sydd wedi’i gynnwys yn fy Nghynllun.

“’Dwi wedi ysgrifennu’r Cynllun hwn gyda help preswylwyr Gogledd Cymru, a ‘dwi’n ddiolchgar i’r miloedd o drigolion wnaeth gwblhau fy arolwg ac i’r rhai dwi wedi cael y cyfle i’w cyfarfod ers i mi gael fy ethol gyntaf yn 2021. ‘Dwi hefyd wedi gwrando ar y Prif Gwnstabl ac uwch swyddogion Heddlu Gogledd Cymru er mwyn cael eu mewnbwn gweithredol, yn ogystal â’n partneriaid statudol.”

Wrth i bob un o’r blaenoriaethau yn y Cynllun fod yn bwysig i’r CHTh, mi ‘roedd yn eglur drwy sgwrsio efo’r cyhoedd yn ystod yr ymgynghoriad ac ymweliadau i gymunedau ar draws y rhanbarth mai amlygrwydd yr heddlu a threchu ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wrth galon pryderon y bobl ynglŷn â phlismona yng Ngogledd Cymru. Mae Mr Dunbobbin wedi ymweld  â threfi fel Bwcle, Llandudno, y Rhyl a Bangor yn ddiweddar, er mwyn gweld y mesurau sydd ar waith er mwyn trechu ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac ymdrin â’r pla hwn ac mae wedi ymrwymo i weithio ymhellach i’w leihau.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Mae pobl eisiau gweld rhagor o Swyddogion Heddlu a SCCH ar  y strydoedd, ac mae hyn yn rhywbeth sy’n bwysig iawn i mi. Mae pobl yn aml yn gwneud y cysylltiad rhwng diffyg presenoldeb heddlu â chynnydd  mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy’n broblem mewn llawer o’n hardaloedd ni, rhai trefol a rhai cefn gwlad. Wrth i ni weld nifer o lwyddiannau efo cynlluniau peilot fel prosiect #AdnewydduRhyl, ‘da ni angen rhagor o gynnydd yn y maes hwn er mwyn tawelu meddwl y preswylwyr, cosbi’r troseddwyr a dychwelyd unioni i’r cymunedau.

“’Da ni hefyd angen ymdrin ag achosion craidd ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gweithio efo troseddwyr er mwyn ei atal rhag digwydd eto. Os mai unigolyn ifanc ydy’r troseddwr, ‘da ni angen eu helpu’n gynnar, gan sicrhau eu bod yn gweld y drwg maen nhw wedi’i wneud, a sicrhau eu bod yn newid eu trywydd a’u bywydau er gwell, ac er mwyn bod yn aelodau mwy cynhyrchiol a chyfrifol o’r gymdeithas. Dyna pam mae comisiynu gwasanaethau sy’n atal achosion craidd troseddu yn rhan bwysig o fy rôl,  boed hynny’n bobl ifanc yn ymddieithrio, camddefnyddio sylweddau, trawma, digartrefedd neu unrhyw faterion eraill sy’n achosi pobl i gyflawni troseddau.”

Gan bod y Cynllun rŵan wedi’i gymeradwyo, mi wnaiff Mr Dunbobbin weithio efo Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Amanda  Blakeman, er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ledaenu ledled yr heddlu, a bod swyddogion a staff Heddlu Gogledd Cymru yn deall ac yn gweithredu ar y blaenoriaethau er mwyn pobl y rhanbarth.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Blakeman: Mae’r Cynllun Heddlu a Throsedd hwn yn adlewyrchu ein blaenoriaethau ni sef bod yn weladwy yn ein cymunedau ni, trechu, atal a lleihau troseddau, a rhoi gwasanaeth rhagorol i ddioddefwyr. ‘Da ni’n rhannu’r un nod o sicrhau ein bod yn ymdrin â’r materion sydd bwysicaf i’n cymunedau ni.

“’Dwi’n edrych ymlaen at  barhau gweithio efo’r Comisiynydd, ein cymunedau lleol ni a phartneriaid er mwyn gwneud Gogledd Cymru’r lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld.”

Ychwanegodd Andy Dunbobbin: “Rŵan ydy’r amser rhoi fy nghynllun ar waith, ac mi wna i weithio’n agos efo Heddlu Gogledd Cymru ar ei weithrediad, a monitro sut mae nhw a’n partneriaid eraill yn cyflawni yn erbyn y blaenoriaethau sydd wedi’u hamlinellu yn y Cynllun. ‘Dwi’n edrych ymlaen at weld gweithio partneriaeth effeithiol yn y blynyddoedd i ddod er mwyn cyflawni’r blaenoriaethau hyn.”

Er mwyn darllen Cynllun Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru 2025-2028, ewch ar:

Cymraeg: Cynllun Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru 2025-2028.pdf

Saesneg: North Wales Police and Crime Plan 2025-2028.pdf

Mi fydd copïau caled yn ymddangos mewn llyfrgelloedd a phwyntiau gwybodaeth eraill ar draws Gogledd Cymru maes o law, ac er mwyn derbyn copi caled drwy’r post, cysylltwch efo Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn y ffyrdd canlynol:

E-bost: OPCC@northwales.police.uk

Ffôn: : 01492 805486

Post: Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Pencadlys yr Heddlu, Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW