Skip to main content

Y CHTh yn ymweld â grŵp deall dementia sy’n helpu pobl efo’r cyflwr a’u teuluoedd ar draws Sir y Fflint

Dyddiad

Dyddiad
Holywell

Ar 31 Ionawr, mi ymwelodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh)  Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, â gwesty Mountain Park yn y Fflint, er mwyn cyfarfod efo grŵp deall dementia lleol. Mae’r grŵp wedi derbyn £400 yn ddiweddar gan y CHTh a’i swyddfa, er mwyn helpu’r sefydliad efo’i waith. Mi ddaeth y wobr yn dilyn enwebiad gan PC Charlotte swyddog lleol Heddlu Gogledd Cymru, oedd yn awyddus i weld sefydliadau yn yr ardal yn elwa o arian ychwanegol sydd ar gael ar gyfer helpu prosiectau allgymorth yn y gymuned.

Yn ôl Ymchwil Alzheimer’s UK, mae 982,000 o bobl yn byw efo dementia yn y DU ar hyn o bryd. Mae’n debygol bydd cynnydd yn y ffigwr hwn i dros 1.4 miliwn erbyn 2040. Mi fydd un ymhob dau unigolyn yn teimlo effaith dementia yn ystod eu hoes, un ai drwy ofalu am rhywun efo’r cyflwr, neu drwy ei ddatblygu eu hunain, neu’r ddau.

Mae Age & Dementia Friendly Treffynnon yn cynnig gofal, cefnogaeth a thawelwch meddwl i unigolion a gofalwyr sy’n byw ac yn ymdrin â dementia. Mae grwpiau fel hyn yn hanfodol er mwyn i deuluoedd ymgysylltu efo pobl tebyg, ac maen nhw’n lefydd diogel er mwyn ymlacio a chael seibiant o gyfrifoldebau gofalu. Mae’r grŵp yn cyfarfod ar ddydd Gwener cyntaf pob mis am ginio mewn menter lleol. Yna, ar ail ddydd Gwener y mis am hanner dydd, maen nhw’n cyfarfod yn Eglwys San Pedr, Treffynnon, ac ar y trydydd dydd Gwener o’r mis, maen nhw’n cyfarfod yn y Crooked Horn ym Mrynffordd. Mae’r grŵp hefyd yn cael tripiau blynyddol, er enghraifft, taith gwch yn Llangollen efo tê’r prynhawn, ac ymweliadau i Landudno ar gyfer taith o gwmpas y Gogarth ar hen fws ac yna ymlaen i Landrillo yn Rhos am ginio.

Yn ystod yr ymweliad yn y Fflint, mi wnaeth y CHTh gwrdd ag aelodau, yn ogystal ag arweinydd y grŵp Sue Wynne, sy’n trefnu cyfarfodydd a gweithgareddau ledled Sir y Fflint ynghyd â gwirfoddolwyr eraill, er mwyn dod â phobl y gymuned at ei gilydd. Mae cyfarfod hefyd yn darparu allfa benodol er mwyn i bobl gael cyfle i gael seibiant o heriau dyddiol gofalu am anwyliaid efo dementia.

Roedd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, PC Charlotte Lodge, PC Phil Davies, a PC Daniel Hughes McConnell hefyd yn bresennol yn y sesiwn, gyda Michael Jones o Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint. Mae swyddogion Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi mynychu’r cyfarfodydd anffurfiol, er mwyn cael mewnwelediad i sut beth ydy gofalu am bobl efo dementia. Maen nhw hefyd yn cael y cyfle i drafod pwysigrwydd y Protocol Herbert. Mae’n cael ei ddefnyddio gan yr Heddlu ac asiantaethau eraill er mwyn eu helpu i ganfod unigolion coll sydd efo dementia, yn gyflym ac yn ddiogel. Mae gofyn bod teuluoedd y bobl sydd efo’r cyflwr yn rhoi gwybodaeth megis llefydd sy’n bwysig iddyn nhw, llefydd maen nhw’n ymweld yn aml, materion iechyd a llefydd maen nhw wedi’u canfod yn y gorffennol os ydyn nhw wedi’u riportio ar goll.

Ym mis Tachwedd llynedd, mi ‘roedd y grŵp yn ffodus i dderbyn arian o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU drwy Gyngor Sir y Fflint. Mi wnaethon nhw drefnu digwyddiad thema 60au, er mwyn dod â chymuned Treffynnon at ei gilydd. Mi ddaeth dros 90 o bobl mewn gwisg ffansi, ac mi wnaeth pawb ddod ag eitem ar gyfer y banc bwyd lleol.

Mae Cyngor Tref Treffynnon hefyd wedi rhoddi arian i’r grŵp er mwyn dod â’r gymuned at ei gilydd, ac mi fydd y digwyddiad hwn yn  digwydd ar 14 Chwefror am 1pm, fel dathliad Sant Ffolant.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Andy Dunbobbin: “Mae dementia yn gyflwr sy’n effeithio ar nifer o bobl ledled Gogledd Cymru, y rhai sy’n byw efo fo a’r rhai sy’n gofalu am anwyliaid efo dementia,  a dim ond cynyddu wnaiff y ffigyrau hyn yn ystod y blynyddoedd i ddod. Dyna pam bod grwpiau fel hyn yn Sir y Fflint mor bwysig, a  dyna pam ‘dwi wrth fy modd yn gallu ei gefnogi yn ariannol. Fel ddywedodd y swyddog wnaeth eu henwebu, mae’n sefydliad sy’n haeddiannol o arian oherwydd ei fod yn rhoi help a chefnogaeth i’r rhai mwyaf bregus yn ein cymuned.”

Dywedodd PC Charlotte Lodge o Heddlu Gogledd Cymru: "Pan ddes i i'r grŵp gyntaf a chwrdd â Sue, gwelais pa mor bwysig yw teimlo'n rhan o gymuned a chael cefnogaeth fel rhywun sy'n byw gyda - neu gael aelod o'r teulu gyda - dementia gan ei fod yn gallu bod yn brofiad ynysig iawn. Fe wnes i enwebu'r grŵp am gyllid gan fod gan fy nhaid fy hun ddementia a gwelais sut yr effeithiodd arno ef a fy nain. Felly mae grwpiau fel hyn yn hanfodol, ac maen nhw'n helpu i roi allfa a chyfle i bobl fod yn nhw eu hunain eto."


Roedd gŵr a thad Gillian ac Andrew Beynon, mam a mab, yn aelod o'r grŵp o'r blaen a dywedon nhw: "Mae'r grŵp hwn yn hanfodol i bawb. Os yw pobl yn ei chael hi'n anodd, gallant ddod yma a siarad â phobl a fydd yn eu helpu drwy bethau, yn enwedig pan fo'r GIG mor fain. Rydyn ni'n unigryw o ran Age & Dementia Friendly Treffynnon i gael Sue fel trefnydd ac rydyn ni bob amser yn symud ymlaen."


Ychwanegodd cyd-aelod o'r grŵp Pam Stewart: "Mae'r grŵp hwn yn achubiaeth i ni fynd allan a chwrdd â ffrindiau.

Ychwanegodd Sue Wynne: “’Dwi wedi bod yn rhan o’r caffis cof ers nifer o flynyddoedd ac, ar ôl y pandemig, mi fedrais i ffeindio tŷ tafarn lleol o’r enw’r Boot and Ship ym Magillt, a chanwr o'r enw Joe oedd yn ein cefnogi ni. Yn wreiddiol, mi ‘roedd 15 o ferched a dynion  yn dod ac mi gawsom ni rodd o £30 a gwobrwyau raffl gan aelod o deulu anwylyd oedd wedi marw. Cyn hir,  aeth y stori ar led  ac mi ‘roeddwn i’n derbyn galwadau gan bobl eraill yn gofyn os gawn nhw ymuno, oherwydd eu bod yn unig ac, yn fuan, mi ‘roeddem ni’n croesawu rhagor o ffrindiau newydd.

“’Da ni’n croesawu pawb sy’n teimlo’u bod ar ei pennau’u hunain neu’n unig. ‘Da ni hefyd yn cyfeirio unrhyw un sydd methu ag ymdopi ac angen help a chefnogaeth i’r llefydd cywir. ‘Da ni’n un teulu mawr, ‘da ni wedi colli nifer o ffrindiau annwyl, ond hefyd wedi gwneud ffrindiau newydd ac yn parhau i wneud hynny. ‘Da ni rŵan yn grŵp mawr iawn o 60 o bobl, a ‘da ni’n sefydliad nid-er-elw, felly’n dibynnu ar roddion.

“’Da ni hefyd yn ymwneud â phrosiectau rhwng y cenedlaethau  yn yr ysgolion lleol, ac mae’r plant a’n pobl hŷn wrth eu boddau yn rhyngweithio ac yn rhannu straeon. Mae ein swyddogion heddlu lleol hefyd yn cefnogi’n gwaith ni, a ‘da ni’n gwybod eu bod ar gael os a phan ‘da ni eu hangen. ‘Da ni hefyd yn ffodus bod gennym ni dîm cefnogi dementia gwych, sy’n gweithio’n agos iawn efo unrhyw un sydd angen help. ‘Da ni i gyd mor hapus fel grŵp, a ‘dwi’n wirioneddol angerddol  ac yn amddiffynnol o’r hyn  ‘da ni’n ei wneud.”

Er mwyn darganfod mwy am y Protocol Herbert, ewch ar: https://www.northwales.police.uk/cy-GB/notices/af/protocol-herbert/

Er mwyn cymryd rhan yn y grŵp deall dementia, cysylltwch efo Sue Wynne: susiewynne61@gmail.com

Neu ewch i’w tudalen Facebook ar: www.facebook.com/profile.php?id=100092441065670