Skip to main content

Ymgyrch newydd “’Dolig Ar-lein Diogel” yn lansio yng Ngogledd Cymru, er mwyn gwarchod preswylwyr dros yr Ŵyl

Dyddiad

Dyddiad
GSO

Yn ystod mis Rhagfyr, mae partneriaeth rhwng Get Safe Online, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, a Heddlu Gogledd Cymru yn lansio ymgyrch er mwyn helpu unigolion gael ‘Dolig Ar-lein Diogel’. Mae Get Safe Online yn wasanaeth wedi’i gomisiynu gan y CHTh a’r heddlu lleol, er mwyn rhannu gwybodaeth a chyngor defnyddiol efo trigolion Gogledd Cymru.

Pa bynnag ffordd mae pobl yn defnyddio’r rhyngrwyd – pe bai ar gyfer siopa, chwarae gemau neu sgwrsio – mae twyllwyr yn gweithio yn y cefndir er mwyn ceisio cymryd mantais o’r ffaith bod pobl yn aml ddim yn canolbwyntio ar yr adeg brysur hon o’r flwyddyn. Ac efo dyfodiad AI, mae eu sgamiau’n hyd yn oed fwy argyhoeddiadol fyth.

Dywedodd Tony Neate, Prif Weithredwr Get Safe Online: “Peidiwch â rhoi Blwyddyn Newydd Dda i droseddwyr seiber. Darllenwch ein cyngor syml sy’n hawdd i’w ddilyn ynglŷn â gwarchod eich hun, eich teulu, eich arian a’ch teclynnau ar-lein er mwyn cael profiad diogel a hyderus y Nadolig hwn. Mae ein hawgrymiadau yn hawdd, a gallen nhw fod y gwahaniaeth rhwng bod yn ddiogel ai pheidio ar-lein y mis Rhagfyr hwn.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “Mae’r Nadolig yn amser ddylwn ni dreulio’n mwynhau efo’n hanwyliaid, yn lle poeni os ydy’r anrhegion ‘da ni wedi’u harchebu am gyrraedd, os ‘da ni wedi cael ein sgamio, neu os ydy aelodau’n teulu yn cael mynediad i gynnwys negyddol ar y rhyngrwyd. Mae digon i’w hystyried, heb boeni am bethau fel hyn. Dyna pam, fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ‘dwi’n annog pobl ddilyn camau syml Get Safe Online, a ‘dwi’n gobeithio fydd yn ein helpu ni gyd fod yn ddiogel yn ystod yr Ŵyl.”

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Roheryn Evans, o Dîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn llawn hwyl yr ŵyl ar gyfer twyllwyr a throseddwyr ar-lein, fydd yn ceisio cymryd mantais o’r rhai sy’n chwilio am fargenion funud olaf ar-lein, drwy wneud i’r fargen edrych yn wych. Os ydy o’n edrych fel pe tai’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debygol o fod.”

“Mae’r nifer helaeth o sgamiau yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n debygol bod cyfrif eich ffrindiau neu aelodau o’ch teulu wedi ei hacio. Yna, mi wnaiff y sgamwyr ddefnyddio eu hadnabyddiaeth nhw er mwyn gwneud iddo edrych fel bod eich ffrind yn gwerthu’r eitemau. Pryd bynnag eich bod chi’n prynu nwyddau ar y cyfryngau cymdeithasol, peidiwch â thalu tan eich bod yn eu derbyn, neu eich bod wedi ail-wirio bod yr hysbyseb yn un gwirioneddol drwy  eu ffonio. Cofiwch, gwnewch eich gwiriadau er mwyn sicrhau eich bod yn prynu oddi wrth fusnes neu werthwr efo enw da, a bod diogelwch ar eich dull o dalu.”

Eich Prif Awgrymiadau ar gyfer yr Ŵyl:

Prynu ar-lein: Mae hysbysebion a gwefannau twyllodrus, tudalennau talu anniogel a nwyddau ffug yn gyffredin. Peidiwch byth â thalu rhywun nad ydych chi’n eu hadnabod drwy drosglwyddiad banc os nad ydych chi wedi gweld y nwyddau yn y cnawd.

Teclynnau ail-law: Os ‘da chi’n gwerthu neu’n rhoi cyfrifiadur, dyfais symudol neu gonswl fel anrheg, sicrhewch eich bod yn ei ailosod i’w gyflwr gwreiddiol er mwyn dileu eich data.  Gallwch ganfod sut i wneud hyn ar wefan y gwneuthurwr. Os ‘da chi wedi prynu dyfais ail-law, sicrhewch eich bod yn dileu gosodiadau a data’r perchennog blaenorol, os nad ydy hyn wedi’i wneud yn barod.

Sgamiau danfoniad: Gallai’r nwyddau ‘da chi wedi’u harchebu ac anrhegion gyrraedd drwy’r post. Hoff sgam yr adeg hon o’r flwyddyn ydy neges testun neu e-bost yn mynnu ffi ar gyfer danfon neu ail-ddanfon. Os ‘da chi ddim yn sicr, ffoniwch y danfonwr neu’r mân-werthwr ar rif ffôn ‘da chi’n gwybod ei fod yn gywir, er mwyn gwirio dilysrwydd y neges.

Ffonau, tabledi a chyfrifiaduron: Gwnewch eich teclynnau newydd neu ail-law’n ddiogel efo meddalwedd / ap diogelwch ag enw da. Ychwanegwch PIN neu gyfrinair newydd ac unigryw yn syth bin. Gosodwch broses copïo wrth gefn o’ch dogfennau a’ch lluniau er mwyn atal eu colli. Arolygwch eich gosodiadau preifatrwydd a lleoliad ar eich teclynnau newydd a hen.

Dyfeisiau Smart: Gosodwch gyfrineiriau newydd ac unigryw.

Diweddariadau: Sefydlwch eich diweddariadau meddalwedd, ap a system gweithredu i’w gwneud yn awtomatig ar eich holl ddyfeisiau, er mwyn osgoi maleiswedd gall arwain at dwyll, dwyn hunaniaeth neu chwilota.

Chwarae gemau: Osgowch broblemau posib o ganlyniad gemau cyfrifiadur dynwared, gorwario mewn gemau, a griffio (lle mae rhywun yn trolio er mwyn tarfu’n fwriadol ar gêm y cyd-chwaraewyr). Cadwch lygad ar faint o amser ‘da chi’n ei dreulio’n chwarae gemau. Peidiwch â rhannu gwybodaeth breifat wrth sgwrsio. Cadwch lygad ar eich plant wrth chwarae gemau, drwy wirio’r terfynau oedran PEGI a siarad efo nhw ynglŷn â beth maen nhw’n chwarae ac efo pwy maen nhw’n sgwrsio.

Gor-rannu: Sicrhewch bod yr hyn ‘da chi’n ei rannu ar-lein yn barchus, a ddim yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol, sensitif na sy’n codi cywilydd amdanoch chi’ch hun nac eraill, gan gynnwys aelodau’r teulu a ffrindiau. Os fyddwch chi allan neu i ffwrdd dros y gwyliau, peidiwch â hysbysebu’r ffaith, gan bod lladron yn hoff o'r cyfryngau cymdeithasol, hefyd.

Yma ac acw:  Pan ‘da chi allan mewn caffis, tafarndai, gwestai neu ar drafnidiaeth cyhoeddus neu lefydd cyhoeddus eraill, peidiwch â defnyddio’r Wi-Fi ar gyfer unrhyw beth cyfrinachol, oherwydd gallan nhw fod yn anniogel neu’n dwyllodrus.

Am ragor o awgrymiadau a chyngor, ewch ar: www.getsafeonline.org