Dyddiad

Mi gynullodd ddwsinau o ddisgyblion Blwyddyn Chwech o Ysgolion Pen Barras, Borthyn, Stryd y Rhos a Phlas Cefndy Stepping Stones South yn Rhuthun ar 2 Ebrill, ar gyfer digwyddiad dangos a dweud efo Heddlu Gogledd Cymru. Mi ddaeth swyddogion o nifer o unedau gwahanol i siarad efo’r plant, er mwyn dangos sut maen nhw’n cyflawni’u swydd o gadw’r gymuned yn ddiogel, ac i ateb unrhyw gwestiynau oedd ganddyn nhw.
Hwn oedd y digwyddiad y cyntaf o’i fath yng Ngogledd Cymru, ac mi gynhaliwyd yn safle ar y cyd Ysgolion Ben Barras / Stryd y Rhos. Mi drefnwyd y digwyddiad gan breswyliwr lleol a Chadeirydd y Panel Heddlu a Throsedd, Pat Astbury a Phennaeth Ysgol Stryd y Rhos, Mr Andy Davies. Mi ymunodd gwesteion â Pat, gan gynnwys Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Wayne Jones; Uwch Siryf Clwyd sydd ar ddod i’r swydd, Julie Gillbanks; Rheolwr PACT, Kelsey Reed; cynghorydd tref Rhuthun, Anne Roberts MBE a’r cynghorydd sir, Emrys Wynne.
Mi aeth y plant yn eu tro i ymweld â thri gwahanol tîm o Heddlu Gogledd Cymru, sydd fel arfer wedi’u lleoli yn y Pencadlys Rhanbarthol yn Llanelwy. Y timau oedd uned troseddau’r ffyrdd, yr uned ddronau a’r uned arfog. Mi ‘roedd cynrychiolwyr o dîm plismona cymdogaethau Rhuthun hefyd yn bresennol, er mwyn ychwanegu at y nifer da o swyddogion oedd yno. Mi ‘roedden nhw i gyd yn awyddus i rannu gwybodaeth efo’r disgyblion, siarad am ofynion eu swyddi, ac i roi gwybod iddyn nhw bod yr heddlu yno er mwyn eu diogelu fel aelodau ifanc y gymuned.
Mi ‘roedd y plant yn llawn cyffro wrth wisgo arfwisgoedd, helmedau a thariannau, o dan oruchwyliaeth gwyliadwrus y swyddogion. Mi welon nhw’r drôn ar waith yn hedfan uwchben yr ysgolion, yn ogystal â chael chwilio drwy gar heddlu efo’r seirenau’n canu. Mi ddangosodd nifer o’r bobl ifanc ddiddordeb gwirioneddol yng ngwaith yr heddlu, drwy ofyn cwestiynau ynglŷn â sut mae’r arfwisg yn gweithio, bywyd dyddiol swyddog yr heddlu a sut maen nhw’n mwynhau gweithio i’r heddlu.
Mi greodd diddordeb a brwdfrydedd y plant argraff ar swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, ac mi ‘roedd yr holl disgyblion yn glod i’w hysgolion a’r gymuned.
Dywedodd Pat Astbury: “Mi ‘roedd yn wych gweld y dysgwyr a’r heddlu’n rhyngweithio. Mi fydd prosiect parhaus ar gyfer ysgolion yn dilyn y digwyddiad hwn, ynglŷn â mater sy’n effeithio arnom ni i gyd. ‘Dwi’n gobeithio rhannu mwy ynglŷn â fo wrth iddo ddatblygu.”
Dywedodd Rhingyll Lisa Jones, o’r Tîm Plismona Cymdogaethau lleol: “Mi ‘roedd yn gyfle gwych i ymgysylltu efo’r ysgolion lleol yn Rhuthun, ac i ddangos gwaith Heddlu Gogledd Cymru iddyn nhw. ‘Da ni’n gobeithio cael rhagor o ddyddiau fel hyn ar draws yr ardal, er mwyn i ni gyfarfod efo mwy o aelodau ifanc ein cymuned, a siarad efo nhw ynglŷn â’n gwaith a phwysigrwydd cadw’n ddiogel.”
Dywedodd Mr Andy Davies, Pennaeth Ysgol Stryd y Rhos: “Mi ‘roedd yn benigamp croesawu’r plant o Ysgolion Pen Barras, Borthyn ac Phlas Cefndy yma ddydd Mercher, er mwyn ymuno efo’n disgyblion Blwyddyn 6 yn y digwyddiad dangos a dweud efo’r Heddlu. Mi ddaeth swyddogion Heddlu Gogledd Cymru i siarad efo’r plant, a dangos rhywfaint o’r cerbydau a’r offer maen nhw’n eu defnyddio fel rhan o’u swyddi fel swyddogion Heddlu modern. Mi ‘roedd yna gar patrôl, car traffig, cerbyd y tîm dronau a cherbyd y tîm drylliau tân. Mi wnaeth y swyddogion siarad efo, arddangos ac ateb cwestiynau rhai plant oedd wedi cynhyrfu’n llwyr! Mi gafodd y plant amser gwych ac mi ddysgon nhw lawer iawn ynglŷn â phlismona modern. Diolch yn fawr iawn i swyddogion rhagorol Heddlu Gogledd Cymru, mi ‘roeddech chi’n glên, amyneddgar ac yn gadarnhaol efo’r plant a’u nifer helaeth o gwestiynau.”
Dywedodd Wayne Jones, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae ymgysylltu efo pobl ifanc yn rhan hanfodol o blismona, ac yn rhywbeth mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi ymrwymo iddo fel rhan o’i gynllun er mwyn trechu trosedd yng Ngogledd Cymru. ‘Dwi’n ddiolchgar i Pat Astbury am drefnu’r digwyddiad, ac i’r swyddogion am ddod a siarad efo’r bobl ifanc. Fel Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd, mae’n braf iawn gweld faint o ddiddordeb ddangosodd y disgyblion yng ngwaith yr heddlu, a ‘dwi’n gobeithio fydd y brwdfrydedd a’r ymddiriedaeth yn parhau wrth iddyn nhw fynd i’r ysgol uwchradd, a thu hwnt.”