Skip to main content

Andy Dunbobbin

Etholwyd Andy Dunbobbin yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ar 6 Mai 2021. Cafodd ei ail-ethol yn CHTh ar 2 Mai 2024.

Mae’n dod o Gei Connah, lle mae’n byw efo’i wraig, ei fab a’i ferch. Gynt, roedd yn Gynghorydd Sirol efo Cyngor Sir y Fflint, dros ward Golfftyn Cei Connah, ac yn parhau i fod yn aelod o Gyngor Dref Cei Connah. Cyn cael ei ethol, fe fynegodd Mr Dunbobbin ei ddull gwasanaeth heddlu cymunedol (COPS) i blismona, ac fe ganolbwyntiodd ei faniffesto ar y pedwar piler strategol. Y rhain ydy; presenoldeb plismona cymdogaeth leol; cynorthwyo dioddefwyr, cymunedau a busnesau; system cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol; comisiynydd heddlu a throsedd gweladwy a chyfrifol.

Dywedodd Mr Dunbobbin: "Mae'n anrhydedd mawr i mi gael fy ail-ethol gan bobl Gogledd Cymru. Mae'n dangos eu bod yn hapus gyda'r gwaith rwyf wedi bod yn ei wneud dros y tair blynedd diwethaf i wneud plismona yn fwy effeithiol, effeithlon ac atebol. Mae yna pob amser mwy o waith y gallwn ei wneud ac ni allaf aros i fynd yn ôl i wasanaethu holl bobl Gogledd Cymru, p'un a ydynt wedi pleidleisio drosof fi ai peidio. Hoffwn ddiolch i bawb a helpodd i gyfrannu at fy ymgyrch, fy nheulu, a phobl Gogledd Cymru am yr ymddiriedaeth a ddangosodd ynof unwaith eto."

Ar ôl ei ail-ethol, tyngodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Lw Swyddogaeth,  a elwir hefyd yn 'Ddatganiad Derbyn y Swydd’. Cliciwch isod i weld y Datganiad.