Skip to main content

Cronfa o £60,000 i roi'r penderfyniad dros wario arian a atafaelwyd o droseddwyr yn nwylo'r bobl

Dyddiad

Mae cronfa o £60,000 ar gael fydd yn “rhoi’r penderfyniad yn nwylo’r bobol”  i benderfynu pwy fydd yn derbyn arian a atafaelwyd o droseddwyr yng Ngogledd Cymru.

Cafodd cynllun Eich Cymuned Eich Dewis ei lansio i wobrwyo grwpiau sy’n ymladd trosedd ar draws yr ardal ac mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn annog grwpiau cymunedol i wneud cais am ran o’r gronfa.

Mae yna dri grant o hyd at £2,500 ar gael ar gyfer grwpiau ym mhob un o’r chwe sir yng Ngogledd Cymru a thri grant o hyd at £5,000 ar gyfer trefnwyr sefydliadau sy’n gweithio mewn tair neu fwy o siroedd.

Dyma wythfed flwyddyn y cynllun a drefnir gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT).

Dros y cyfnod hwnnw dyfarnwyd cyfanswm o £310,000 i 106 o brosiectau sy'n gweithio i gefnogi'r blaenoriaethau yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd sy'n nodi glasbrint ar gyfer plismona Gogledd Cymru.

Bydd y ceisiadau'n cau ddydd Gwener, 11 Rhagfyr, gyda ffurflen mynediad  Eich Cymuned, Eich Dewis ar gael ar wefan Heddlu Gogledd Cymru gyda dolen iddi ar wefan Comisiynydd yr Heddlu.

Bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael ei llunio gan banel arbennig gyda'r enillwyr yn cael eu dewis drwy bleidlais gyhoeddus.

Daw'r arian ar gyfer y gwobrau yn rhannol o arian a atafaelir gan y llysoedd drwy'r Ddeddf Enillion Troseddu gyda'r gweddill o Gronfa Comisiynydd yr Heddlu.

Dywedodd y Comisiynydd Arfon Jones, sy’n gyn-arolygydd yr heddlu: "Mae'r gwobrau hyn yn bwysig gan eu bod yn cynnwys y gymuned ac mae'r cymunedau'n penderfynu ble orau i wario'r arian. Mae'n rhoi’r dewis i’r bobl.

"Nod llawer o'r hyn rydym yn ei ariannu yw darparu rhywbeth i bobl ifanc fod yn rhan ohono yn eu hamser hamdden yn hytrach na chael eu temtio i  neu ymddwyn yn wrthgymdeithasol.

"Rydyn ni eisiau cefnogi cymunedau fel eu bod yn gallu cymryd cyfrifoldeb am eu hardaloedd eu hunain.

"Gall grwpiau cymunedol llai fel nhw wneud llawer iawn i wneud cymunedau'n fwy diogel, lleihau troseddu a lleihau aildroseddu, mae o hefyd yn anfon neges dda i'r cymunedau gan ei fod yn dangos ein bod yn gwrando arnynt."

Cefnogwyd ei neges gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett a ddywedodd:

"Dyma wythfed flwyddyn y cynllun ac mae wedi bod yn llwyddiant mawr gan ei fod yn rhoi cyfle i'r cyhoedd a chymunedau lleol gael llais yn y ffordd y mae materion lleol yn cael eu trin, a sut rydym gyda'n gilydd yn mynd i'r afael â throsedd ac anhrefn.

"Rwy'n cael boddhad arbennig bod rhan o'r cyllid yn dod o'r elw o droseddu, fel bod arian yn cael ei dynnu allan o bocedi troseddwyr a'u helw anghyfreithlon gan y llysoedd ac yn cael ei roi'n ôl i fentrau cymunedol.

"Mae'n troi arian drwg yn dda ac mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gan mai pobl leol sy'n adnabod ac yn deall eu materion lleol a sut i'w datrys.

"Mae plismona'n rhan o'r gymuned ac mae'r gymuned yn rhan o blismona ac mae'r cynllun hwn yn ffordd gadarnhaol o feithrin ymddiriedaeth mewn plismona.

"Mae'n wych gweld y berthynas hon yn ffynnu oherwydd heb y gymuned ni fyddwn yn gwybod beth sy'n digwydd, heb y gymuned ni fyddem yn cael cudd-wybodaeth, ac ni fyddwn yn datrys troseddau."

Ychwanegodd cadeirydd PACT Ashley Rogers: "Mae eich cymuned eich dewis yn ffordd werthfawr iawn o gefnogi cymunedau a rhoi'r dewis o ba brosiectau sy'n cael eu cefnogi yn eu dwylo.

"Mae'n broses ddemocrataidd iawn a dyna pam rwy'n credu ei fod wedi bod yn gynllun sydd wedi para mor hir a llwyddiannus.

"Ar adeg pan fo grwpiau cymunedol yn cael trafferth i gael cyllid, roeddwn wrth fy modd bod Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a'r heddlu wedi cynyddu maint y gronfa ariannu o 50%.

"Mae'n brosiect hyfryd i ymwneud ag o a gallwch weld yn uniongyrchol fanteision y cyllid o ran cryfhau ein cymunedau gwydn."


Nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer prosiect Eich Cymuned Eich Dewis 2021 - diolch i bawb a gyflwynodd gais.