Beth ydy SCCH?
Mae Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu yn aelodau staff mewn lifrai sy’n gweithio i ddarparu presenoldeb amlwg yn y gymuned. Maen nhw’n chwarae rôl hanfodol mewn plismona cymunedol, yn helpu i leihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac i wella ansawdd bywyd y trigolion lleol.
Prif Gyfrifoldebau SCCH:
Ymgysylltiad Cymunedol: Mae swyddogion CCH yn ffurfio perthnasau efo trigolion lleol, busnesau a grwpiau cymunedol. Maen nhw’n mynychu cyfarfodydd cymunedol, yn ymweld ag ysgolion, ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau lleol er mwyn meithrin perthynas gadarnhaol rhwng yr heddlu a’r cyhoedd.
Sut i Gysylltu Efo’ch SCCH Lleol:
Mae swyddogion CCH wedi’u penodi i gymdogaethau penodol. Er mwyn cael gwybod pwy ydy eich SCCH lleol chi, a sut i gysylltu efo nhw, ewch i wefan “Eich Ardal Chi” Heddlu Gogledd Cymru: https://www.northwales.police.uk/cy-GB/ardal/Eich-ardal-chi/
Rôl y SCCH mewn Plismona Cymunedol:
Mae swyddogion CCH yn gysylltiad hanfodol rhwng yr heddlu a’r gymuned. Mae eu presenoldeb yn helpu cynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn plismona, yn wynebau cyfarwydd i drigolion ddod atyn nhw efo’u pryderon nhw, ac yn cyfrannu tuag at ddiogelwch a lles cymdogaethau.
Cliciwch yma i ddarllen ein llawlyfr am SCCH a’u rolau: