Skip to main content

Newid i Gyfraith Terfyn Cyflymder 20mya

O 17 ⁠Medi 2023 bydd terfyn cyflymder ar holl ffyrdd cyfyngedig yn gostwng o 30mya i 20mya. Bydd Cymru'n un o'r gwledydd cyntaf yn y byd, a'r genedl gyntaf yn y DU, i gyflwyno deddfwriaeth ar gael terfyn cyflymder diofyn sef 20mya ar ffyrdd lle mae ceir ymysg cerddwyr a seiclwyr.

Pam fod y newidiadau hyn yn cael eu gwneud?

  • Lleihau'r nifer o wrthdrawiadau ac anafiadau difrifol
  • Gwneud ein strydoedd yn fwy diogel
  • Annog mwy o bobl gerdded a seiclo yn y gymuned
  • Cynorthwyo gwella iechyd a lles
  • Diogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Beth ydy ffordd gyfyngedig?

Mae ffyrdd cyfyngedig fel arfer wedi'u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig lle mae llawer o bobl. ⁠Mae ganddynt olau stryd yn aml, gyda dim mwy na 200 llath rhyngddynt.

Ni fydd pob ffordd sydd â therfyn 30mya yn addas i newid i 20mya. Adweinir y ffyrdd hyn fel eithriadau. Gwnaiff awdurdodau lleol ystyried hefo'u cymunedau pa ffyrdd ddylai aros yn 30mya a bydd arwyddion 30mya yn dweud hyn wrthych chi. 

A fydd gostwng y terfyn cyflymder yn gwella diogelwch?

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella diogelwch cerddwyr ydy lleihau cyflymder cerbydau.

Yn y pellter y gall car 20mya stopio, bydd car 30mya dal i wneud 24mya.

O'r dystiolaeth ryngwladol, gellir dod i'r casgliad, fod rhywun oddeutu pum gwaith yn fwy tebygol, ar gyfartaledd, o gael eu lladd pan maent yn cael eu taro gan gerbyd yn teithio oddeutu 30mya nag y maent gan gerbyd yn teithio oddeutu 20mya.

Sut fydd hyn yn cael ei blismona?

Mae llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod wedi bod yn gweithio'n agos hefo'r heddlu er mwyn datblygu strategaeth orfodi.

Ar hyn o bryd, y lleiafswm cosb am oryrru ydy dirwy o £100 a thri phwynt ar eich trwydded.

Gall derbyn 12 neu fwy o bwyntiau o fewn tair blynedd eich gwahardd rhag gyrru.

Os ydych yn cael eich dal gan gamera cyflymder, gan ddibynnu ar y cyflymder, byddwch un ai'n derbyn opsiwn i fynd ar gwrs ymwybyddiaeth cyflymder, hysbysiad o gosb benodedig neu lythyr yn dweud wrthych chi fynd i'r llys.

Os ydych yn cael eich stopio gan yr heddlu, gallent roi rhybudd llafar i chi, anfon hysbysiad o gosb benodedig, cynnig cwrs ymwybyddiaeth cyflymder neu'ch gorchymyn chi fynd i'r llys.