Skip to main content

Plant a Phobl Ifanc

Llysgenhadon Ifanc Heddlu Gogledd Cymru

Llysgenhadon Ifanc Gogledd Cymru – Recriwtio Nawr: Llysgenhadon Ifanc Gogledd Cymru

Mae Heddlu Gogledd Cymru bellach yn recriwtio ar gyfer Rhaglen Llysgenhadon Ifanc 2024. Yn dilyn blwyddyn gyntaf lwyddiannus, maent yn recriwtio eto ac yn chwilio am aelodau 16-24 oed o bob rhan o Ogledd Cymru.

Rhoddodd y Llysgenhadon Ifanc presennol adborth ac argymhellion ar 5 maes blaenoriaeth o blismona sy’n helpu i lunio gwaith yr Heddlu. Mae'r rhaglen wedi sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed o fewn plismona.

Unwaith eto, mae Heddlu Gogledd Cymru yn dod ag ystod amrywiol o bobl ifanc at ei gilydd i gymryd rhan. Mae cael pobl ifanc sy’n adlewyrchu cyfansoddiad y boblogaeth yn bwysig ac mae’r cynllun yn arbennig o awyddus i gynnwys sbectrwm eang o bobl i gymryd rhan, gan gynnwys:

  • pobl ifanc sy’n derbyn gofal,
  • rhai sy'n gadael gofal,
  • gofalwyr ifanc,
  • pobl ifanc anabl,
  • LGBTQ+,
  • y rhai sydd â phrofiad o’r system cyfiawnder troseddol,
  • pobl ifanc BAME,
  • pobl ifanc niwroamrywiol
  • rhai sydd â chyflwr iechyd meddwl
  • siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf

Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr.

Bydd y Llysgenhadon Ifanc yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar bobl ifanc ac i helpu i lunio dyfodol plismona yn y rhanbarth. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais neu os ydych yn adnabod rhywun a allai fod, ewch i borth recriwtio Heddlu Gogledd Cymru: Llysgenhadon Ifanc Gogledd Cymru


Adroddiad Comisiwn Ieuenctid Gogledd Cymru

Mae Comisiwn Ieuenctid Gogledd Cymru (NWYC) yn caniatáu i bobl ifanc 14-25 oed weithio mewn partneriaeth gyda'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru i ymdrin â phroblemau brys. Mae'r prosiect yn cynrychioli agwedd newydd mewn ymgysylltu pobl ifanc ledled Gogledd Cymru i siapio strategaethau plismona ac atal trosedd, a chynorthwyo datblygiad Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd.