Skip to main content

Checkpoint Cymru

Check Point Cymru logo

Yn seiliedig ar y cynsail o warediadau tu allan i’r llys ac ein hegwyddorion rheoli troseddwyr, mae Checkpoint Cymru yn anelu i roi opsiwn credadwy yn lle erlyniad, drwy nodi a chynorthwyo anghenion perthnasol a’r ‘llwybrau hanfodol’ allan o droseddu, a’r canlyniad yw bod troseddwyr lefel isel a chanolig sy’n oedolion yn cael eu dargyfeirio o’r System Cyfiawnder Troseddol, tra bod hyn hefyd yn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol eu hymddygiad troseddol.

Contract Checkpoint

Mae Checkpoint yn brosiect gwirfoddol i droseddwyr sy’n oedolion. Ond bydd hyn yn arwain at ymadawiad o’r system cyfiawnder troseddol os cydymffurfir gyda’r ‘cytundeb i ymgysylltu’ pwrpasol ac sydd wedi’i deilwra i’r unigolyn . Bydd methu â chwblhau’r cytundeb Checkpoint yn arwain at achosion llys ffurfiol yn dod i rym. Mae Checkpoint yn defnyddio Llywyr sy’n paratoi, cydlynu a chyflwyno’r cytundebau sydd wedi’u teilwra i’r unigolyn a chynorthwyo y troseddwyr i ymgysylltu â gwasanaethau cymorth i daclo yr achosion gwaelodol eu troseddu.

Sut mae'n gweithio…

Unwaith y bydd y troseddwr wedi'i gyfweld, a'r broses swyddog ymchwiliol wedi dod i ben, caiff ei ryddhau a rhoddir apwyntiad iddo gydag unigolyn yr ydym yn ei alw'n 'Llywiwr'.

Mae'r troseddwr yn cyfarfod â'r Llywiwr i drafod eu hanghenion a chytuno ar gontract, sy'n para pedwar mis. Mae'r contract wedi'i deilwra i bob person a gall gynnwys hyd at bum amod.

Mae canllawiau ar gyfer pwy sy'n gymwys ar gyfer y rhaglen Checkpoint:

  1. Rhaid i’r troseddwr fod dros 18 oed
  2. Rhaid i’r troseddwr fyw yng Ngogledd Cymru
  3. Rhaid bod y trosedd wedi digwydd o fewn Gogledd Cymru
  4. Rhaid i’r trosedd fod yn addas am warediad tu allan i’r llys
  5. Rhaid i’r troseddwr beidio bod yn amodol ar orchymyn llys neu fod ar fechnïaeth yr heddlu/llys
  6. Rhaid bod cyfaddefiad o euogrwydd
  7. Rhaid i’r un dan sylw gytuno i gymryd rhan