Skip to main content

Cydweithio

Mi wnaeth cyflwyniad Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 osod dyletswyddau newydd ar Gomisiynwyr a Phrif Gwnstabliaid i gydweithio pan fyddai er budd neu effeithiolrwydd ardal eu heddlu nhw eu hunain neu eraill.

Gweithio yng Nghymru

Mae Comisiynydd Gogledd Cymru yn gweithio gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd eraill Cymru drwy Grŵp Plismona Cymru Gyfan.  Mae’r Bwrdd Plismona i Gymru yn pontio rhwng agweddau datganoledig a heb ei ddatganoli  gwasanaeth cyhoeddus lle mae’r heddlu’n gweithredu yng Nghymru. Diben y Bwrdd yw hysbysu a siapio polisi a blaenoriaethau plismona strategol y dyfodol Llywodraeth Cymru i gynorthwyo cyflwyniad cyffredinol o wasanaeth cyhoeddus mewn amgylchfyd datganoledig. 

Ar 26 Mawrth 2014 mi wnaeth y grŵp gymeradwyo Memorandwm o Ddealltwriaeth (MODd) sy’n nodi’r trefniadau Llywodraethu ac Atebolrwydd ar y cyd ar gyfer cydweithio yng Nghymru.   

Ers Awst 2020 mae'r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru wedi ariannu Pennaeth  yr Uned Blismona yng Nghymru i ddarparu rhywfaint o'r agenda partneriaeth, ymgysylltu strategol a llywodraethu cysylltiedig.

Cytundebau Cydweithio


Cydweithio'n Rhanbarthol

Mae Comisiynydd Gogledd Cymru hefyd yn gweithio gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd Gogledd Orllewin Lloegr.

Mae’r Comisiynydd yn aelod o Gydbwyllgor Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, sy’n cynnwys  Comisiynwyr Gogledd Cymru, Cymbria, Swydd Gaer, Manceinion Fwyaf, Glannau Mersi a Swydd Gaerhirfryn. Gellir gweld cylch gorchwyl y pwyllgor hwn yma  

Mae Cytundeb Cyffredinol y Gwasanaeth Cydweithio wedi’i lofnodi gan holl Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd a Phrif Gwnstabliaid Cydbwyllgor Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.

Cytundebau Cydweithio


Cydweithrediadau Ar Draws Heddluoedd

 Bydd pob heddlu yng Nghymru a Lloegr, BNP, CNC a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn gweithio ar y cyd ar brosiectau er mwyn cydlynu, cefnogi a chyfuno gwasanaethau plismona. Ceir cefnogaeth gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a’r Coleg Plismona.

Cytundebau Cydweithio