Skip to main content

Gwarchod Data

O dan Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ar Ddeddf Diogelu Data 2018, mae unigolion hawl statudol i gael mynediad i ddata personol sydd ar gyfrifiadur neu mewn ffeil strwythuredig, h.y. ar bapur.   Bydd y rheolwyr data yn sicrhau bod y data:

  • Yn cael ei brosesu’n deg ac yn gyfreithlon                         
  • Wedi’i gael at ddibenion penodol a chyfreithlon
  • Yn ddigonol, yn berthnasol ac nad yw’n ormodol           
  • Yn fanwl gywir a ble bo’r angen, yn gyfoes
  • Ddim yn cael ei gadw yn hirach na sy'n angenrheidiol
  • Wedi’i brosesu yn unol â hawliau testun y data
  • Wedi’i gadw’n ddiogel
  • Heb ei drosglwyddo dramor heblaw am i wledydd gyda chyfreithiau diogelu data digonol                 

At ddibenion Deddf 2018, cyfeirir at “ddata personol” fel gwybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn byw y gellir eu hadnabod.  Cyfeirir at yr unigolyn neu’r sefydliad sy’n rheoli'r diben a'r dull y caiff y data ei brosesu ynddi fel y “rheolwr data”.  

Gwelwch ein Polisi Preifatrwydd am fwy o wybodaeth.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am GDPR ar Ddeddf Diogelu Data ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth ar www.ico.goc.uk neu o’r cyfeiriad a nodir isod.


Yr hawl i fynediad

Mae gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth yn rhoi mwy o wybodaeth am sut i wneud cais am wybodaeth bersonol, cliciwch yma.

Mae darpariaethau Gwrthrych am Wybodaeth yn y Ddeddf  Diogelu Data yn rhoi’r hawl i unigolyn gael copi o unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael eu cadw amdanynt ar wahân i rai eithriadau. Gelwir hyn yn “Hawl Gwrthrych am Wybodaeth”.

Gwybodaeth lle mai SCHTh Gogledd Cymru yw Rheolwr y Data

Mae gan unigolion hawl i gael cadarnhad fod eu data yn cael ei brosesu. Mae ganddynt hawl i gael mynediad at eu gwybodaeth a gwybodaeth atodol arall yn y Polisi Preifatrwydd a Polisi a Gweithdrefn Mynediad at Wybodaeth.

Adwaenir cael mynediad at ddata personol yn y ffordd hon fel gwneud ‘cais mynediad testun’. Mae’r GDPR  yn egluro mai’r rheswm am ganiatáu unigolion i gael mynediad at eu data personol yw eu bod yn ymwybodol ac yn gallu dilysu cyfreithlondeb y prosesu.

Dylai ceisiadau i gael mynediad at wybodaeth gael eu gwneud i’r

Rheolwr Diogelu Data.
Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd
Glan y Don
Bae Colwyn LL29 8AW

Gwnawn ymateb i’r ceisiadau hyn o fewn un mis calendr.

Os yr ydych o’r farn nad yw cais gennych am wybodaeth i’ch data personol wedi ei delio â hi’n gywir, gallwch:

  • Ysgrifennu at y Rheolwr Data / Prif Weithredwr ar y cyfeiriad uchod yn gofyn i'ch cwyn gael ei datrys, neu
  • Ysgrifennu at y Comisiynydd Gwybodaeth, sydd wedi’i benodi i ystyried cwynion o’r fath, yn y cyfeiriad isod:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer SK9 5AF

Mae gan y Comisiynydd Gwybodaeth y grym i asesu a fu methiant o ran cydymffurfio â GDPR a Deddf 2018.   Gall y Comisiynydd weithredu gweithdrefnau gorfodaeth os yr ydynt yn fodlon yr aethpwyd yn groes i egwyddorion diogelu data.   Gall y Comisiynydd hefyd argymell eich bod yn gwneud cais i’r llys yn honni methiant i gydymffurfio â darpariaeth cais gwrthrych am wybodaeth GDPR a Deddf 2018.   Gall y llys wneud gorchymyn yn gofyn am gydymffurfiaeth â'r darpariaethau hynny ac efallai y byddant yn dyfarnu iawndal am unrhyw golledion yr ydych wedi'u dioddef yn ogystal ag unrhyw drallod cysylltiedig. 

Gwybodaeth lle nad SCHTh Gogledd Cymru yw’r “Rheolwr Data”      

Mewn nifer o achosion, yr heddlu ac nid SCHTh sy’n dal gwybodaeth bersonol.  Mae Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu yn cynnwys gwybodaeth am erlyniadau, euogfarnau a rhybuddion.   Prif Swyddogion yr Heddluoedd yw "Rheolwyr Data" y wybodaeth hon ac nid SCHTh Gogledd Cymru.

Mae gennych yr hawl i gael gwybod gan Brif Swyddog os oes unrhyw wybodaeth amdanoch yn cael ei chadw ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) ac mae gennych hawl i gopi o’r wybodaeth honno.   Gall y Prif Swyddog wrthod datgelu'r wybodaeth hon lle mae'r wybodaeth yn cael ei chadw at ddibenion atal neu ddatgelu trosedd neu ar gyfer arestio neu erlyn troseddwyr a lle y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o fod yn niweidiol i unrhyw un o'r dibenion hyn. 

Mae Heddluoedd yn darparu ffurflen er mwyn symleiddio’r arfer o hawl i fynediad i wybodaeth PNC.  Yn achos Heddlu Gogledd Cymru dylech gysylltu ag:

Adran Diogelu Data a Diogelwch Gwybodaeth
Pencadlys yr Heddlu
Glan-y-Don
Bae Colwyn LL29 8AW

Rhif ffôn: 01492 805125

Neu fel dewis arall gallwch ymweld â gwefan Heddlu Gogledd Cymru sef www.heddlu-gogledd-cymru.police.uk.