Arolwg: Cynllun Cydraddoldeb ar y Cyd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru (2023 – 2027)
Mae gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru ddyletswydd cyfreithiol, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, i osod blaenoriaethau cydraddoldeb. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni'r gwasanaeth gorau posibl i bob cymuned yng Ngogledd Cymru.
Rydym yn ysgrifennu cynllun cydraddoldeb newydd a chyfredol a wnaiff siapio ein blaenoriaethau cydraddoldeb am y pedair blynedd nesaf. Hoffem glywed eich barn er mwyn ein cynorthwyo ni gyda hyn.
Helpwch ni drwy ateb ein harolwg yma
Cwblhewch yr arolwg mewn ffordd wahanol: |
Ceir dolen at fersiwn Saesneg o'r arolwg yma. |
Ceir fersiwn Darllen Hawdd o'r arolwg yma. |
Er mwyn cymryd rhan gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â: info@signsightsound.org.uk |
Cysylltwch â ni os ydych eisiau cwblhau'r arolwg mewn ffordd wahanol (er enghraifft, dros y ffôn): diversityliaison@northwales.police.uk / 01492 805486 (gofyn am yr Arolwg Cydraddoldeb). |
Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd mae gen i ddyletswydd cyfreithiol a moesol i hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch ym mhob rhan o fusnes y byddaf yn ei wneud, boed hynny’n fewnol ymysg staff, aelodau a gwirfoddolwyr neu’n allanol yn fy nghysylltiadau â chymunedau Gogledd Cymru.
Gan sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb yn elfen annatod o’r holl waith y byddaf yn ei wneud, nid yn unig am ei fod yn ddyletswydd cyfreithiol - dyma hefyd y peth cywir a chyfiawn i’w wneud. Yn y 21ain Ganrif, os yw busnesau am weithredu’n effeithiol, mae’n ofynnol iddynt fabwysiadu’r agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth. Yma yn Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd rydym yn credu bod hyn yn gwneud synnwyr busnes da ac yn ein cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd.
Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd mae’n rhaid i mi fod â gwybodaeth am, a dealltwriaeth o bob rhan o’r gymdeithas er mwyn cynrychioli eu barn ar blismona yn iawn ac i ddeall beth yw anghenion Gogledd Cymru o safbwynt plismona. Rwy’n ymdrechu i sicrhau bod ein holl feysydd busnes yn ystyried ein cymunedau a’u hanghenion plismona.
Rydw i’n cael fy arwain gan ddeddfwriaeth, yn ogystal ag ystyriaethau moesegol a busnes. Yn 2010 gwnaed newidiadau mawr i gyfraith cydraddoldeb a arweiniodd at gyflwyniad Deddf Cydraddoldeb 2010.
Rydw i wedi paratoi Cynllun Cydraddoldeb ar y Cyd gyda Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r Cynllun Cydraddoldeb ar y Cyd yn pennu amcanion cydraddoldeb yr Heddlu a’r Comisiynydd ar gyfer y tair blynedd nesaf. Wrth greu'r Cynllun roedd yn rhaid i ni ymgymryd â rhai gweithgareddau allweddol ac fe wnaethom gyhoeddi data ac ymgysylltu â'n cymunedau er mwyn ein helpu ni i bennu blaenoriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae manylion am y blaenoriaethau hyn i'w gweld yn y Cynllun a byddwn yn ei ddiweddaru gan ddangos ein perfformiad o ran cyflawni’r blaenoriaethau hyn yn flynyddol. Ewch i'r dudalen Cynllun Cydraddoldeb i gael rhagor o wybodaeth.
Os hoffech drafod unrhyw faterion yn ymwneud â chydraddoldeb ac Amrywiaeth yn Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, cysylltwch ag:
Swyddog Polisi (Cydraddoldeb ac Amrywiaeth)
Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru
Glan-y-Don
Bae Colwyn
LL29 8AW
E-bost: elizabeth.ward@northwales.police.uk

Amcanion Cydraddoldeb - Ymgynghoriad
Ers cyflwyno Deddf Cydraddoldeb 2010 mae Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi gosod amcanion ar y cyd o fewn y Cynllun Cydraddoldeb Sengl.
Mae’r amcanion hyn wedi bod yn sail i waith sylweddol o ran cydraddoldeb dros y blynyddoedd sydd wedi galluogi’r ddau sefydliad gyflawni gofynion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Gyhoeddus.
Pan ydym yn adolygu ein hamcanion yr ydym yn dadansoddi'r tueddiadau trosedd lleol a chenedlaethol, gwybodaeth gan yr heddlu, ymchwil cenedlaethol ac yn ymgysylltu gyda staff a chymunedau.
Dyma'r pedwerydd tro byddwn yn ysgrifennu cynllun newydd ac yr ydym felly unwaith eto yn ceisio cael eich barn chi am yr hyn ydych yn credu dylai fod yn flaenoriaethau cydraddoldeb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wrth i ni weithio i ddatblygu gogledd Cymru mwy diogel.